2017 Rhif 935 (Cy. 229)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901.

Yn unol ag adran 48(4A)2 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2017.

2

Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Hydref 2017.

Diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

2

Mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 20154 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 15.

3

Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

a

yn lle’r diffiniad o “triniaeth tynnu fflworid”, rhodder—

  • mae i “triniaeth tynnu fflworid” (“fluoride removal treatment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27A.

b

yn lle’r diffiniad o “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn”, rhodder—

  • mae i “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn” (“ozone-enriched air treatment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27B;

4

Yn rheoliad 13 (gwerthu dŵr mwynol naturiol), yn lle is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2) rhodder—

a

wedi ei echdynnu o ffynnon—

i

yng Nghymru, a ddatblygir yn groes i reoliad 8; neu

ii

y tu allan i Gymru, a ddatblygwyd mewn ffordd nad oedd yn cydymffurfio â’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 8(1)(a) ac (c) a rheoliad 8(2), neu os nad yw awdurdod cyfrifol yr ardal lle y datblygir y ffynnon wedi rhoi caniatâd i’r ffynnon gael ei datblygu felly;

b

wedi cael—

i

yng Nghymru, unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 9; neu

ii

y tu allan i Gymru,—

aa

triniaeth nas disgrifir yn rheoliad 9(1)(a)(i), 9(1)(a)(ii), triniaeth tynnu fflworid, neu driniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn;

bb

unrhyw ychwanegiad heblaw ychwanegiad a ddisgrifir yn rheoliad 9(1)(b); neu

cc

unrhyw driniaeth ddiheintio, ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol;

c

wedi’i botelu—

i

yng Nghymru, yn groes i reoliad 10; neu

ii

y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 10;

d

wedi’i labelu—

i

yng Nghymru, yn groes i reoliad 11; neu

ii

y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 11; neu

5

1

Mae rheoliad 15 (triniaethau i ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” ac ychwanegiadau iddo) wedi ei ailrifo fel paragraff (1) o’r rheoliad hwnnw.

2

Ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—

2

Nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.

6

Yn rheoliad 17 (hysbysebu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”) ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

3

Ni chaiff neb hysbysebu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall o dan—

a

dynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, neu

b

y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.

7

Yn rheoliad 18 (gwerthu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”) yn lle is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (1) rhodder—

a

wedi’i botelu—

i

yng Nghymru, yn groes i reoliad 14(1); neu

ii

y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 14(1);

b

wedi cael—

i

yng Nghymru, unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 15; neu

ii

y tu allan i Gymru,—

aa

triniaeth nas disgrifir yn rheoliad 15(1)(a)(i), 15(1)(a)(ii), triniaeth tynnu fflworid, neu driniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn;

bb

unrhyw ychwanegiad heblaw ychwanegiad a ddisgrifir yn rheoliad 15(1)(b); neu

cc

unrhyw driniaeth ddiheintio, ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol;

c

wedi’i labelu—

i

yng Nghymru, yn groes i reoliad 16; neu

ii

y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 16; neu

8

Yn rheoliad 24 (monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu), hepgorer paragraff (2)(a).

9

Ar ôl rheoliad 27 (monitro triniaethau penodol) mewnosoder—

Triniaeth tynnu fflworid27A

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr triniaeth tynnu fflworid yw—

a

triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iii) neu 15(a)(iii) ac Atodlen 2, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid;

b

yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn yr ardal lle yr echdynnir y dŵr fel triniaeth sy’n cydymffurfio â gofynion Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010 ac nad yw’n cael effaith ddiheintio; neu

c

yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno yn unol â’r gweithdrefnau i awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn y wlad honno y penderfynwyd gan yr Asiantaeth neu awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig neu mewn Gwladwriaeth AEE arall ei bod yn cyfateb i ofynion Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010 ac nad yw’n cael effaith ddiheintio.

10

Ar ôl rheoliad 27A (triniaeth tynnu fflworid), mewnosoder—

Triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn27B

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yw—

a

triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iv) neu 15(a)(iv) ac Atodlen 3, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ag aer a gyfoethogir ag osôn;

b

yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn yr ardal lle yr echdynnir y dŵr fel triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb honno mewn cysylltiad â’i chymhwyso i ddŵr ffynnon, fel y’i gweithredir yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig neu’r Wladwriaeth AEE honno, ac nad yw’n cael effaith ddiheintio; neu

c

yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno yn unol â’r gweithdrefnau i awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn y wlad honno y penderfynwyd gan yr Asiantaeth neu awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig neu mewn Gwladwriaeth AEE arall ei bod yn cyfateb i ofynion Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb honno mewn cysylltiad â’i chymhwyso i ddŵr ffynnon, ac nad yw’n cael effaith ddiheintio.

11

Yn Atodlen 2 (triniaeth tynnu fflworid), yn lle’r testun Cymraeg o is-baragraff (b) o baragraff 3, rhodder “nad yw’r driniaeth yn cael effaith ddiheintio.”

12

Yn Atodlen 3 (triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn)—

a

yn is-baragraff (b) o baragraff 1, yn lle “3, 4 a 5” rhodder “6, 7 ac 8”;

b

yn lle’r testun Cymraeg o is-baragraff (c) o baragraff 1, rhodder “nad yw’r driniaeth yn cael effaith ddiheintio.”

13

Yn Atodlen 7 (gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu gan gynnwys crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd o’r paramedrau), yn Rhan 3 (gwerthoedd paramedrig ar gyfer paramedrau dangosol), yn Nhabl C (paramedrau dangosol), yn y rhes sy’n ymwneud ag—

a

eitem 5, paramedr “Lliw”—

i

yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “graddfa Mg/1 Pt/Co” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a

ii

yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “20”;

b

eitem 10, paramedr “Arogl”—

i

yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “Rhif gwanediad” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a

ii

yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “3 at 25ºC”;

c

eitem 14, paramedr “Blas”—

i

yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “Rhif gwanediad” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a

ii

yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “3 ar 25ºC”.

14

Hepgorer Atodlen 8 (monitro ar gyfer paramedrau heblaw sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu).

15

1

Yn Atodlen 9 (monitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu), mae paragraff 13 (esemptiad o’r monitro) wedi ei ailrifo fel is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw.

2

Ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—

2

yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae’r esemptiad o’r monitro o dan is-baragraff (1) yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o 5 mlynedd, gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod bwyd yn hysbysu’r Asiantaeth am ei benderfyniad yn unol ag is-baragraff (1)(b).

3

Mae’r esemptiad o’r monitro o dan is-baragraff (1) yn dirwyn i ben ar unwaith os yw lefel y radon, y tritiwm neu’r dogn dangosiadol yn uwch na’r gwerth paramedrig perthnasol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

Rebecca EvansGweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1867 (Cy. 274)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau’n—

a

gweithredu’r gofynion monitro diwygiedig ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi’i botelu y darperir ar eu cyfer gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787 sy’n diwygio Atodlenni II a III i Gyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl (OJ Rhif L 260, 7.10.2015, t 6). Mae’r diwygiadau’n dileu’r gofyniad i awdurdodau bwyd ymgymryd â monitro ar gyfer gwirio ac archwilio dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi’i botelu (rheoliadau 8 a 14);

b

darparu y caniateir i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon sydd wedi cael triniaeth tynnu fflworid neu driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn mewn gwlad nad yw’n Wladwriaeth AEE gael eu gwerthu yng Nghymru. Dim ond os yw’r triniaethau hynny wedi cael eu hawdurdodi gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno nad yw’n Wladwriaeth AEE, a bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu’r awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r DU neu’r AEE wedi penderfynu bod y weithdrefn ar gyfer awdurdodi’r driniaeth yn y Wladwriaeth honno yn cyfateb i’r gofynion o dan Erthyglau 1 i 3 o Reoliad (EU) 115/2010 y caniateir gwerthu’r dŵr (rheoliadau 3, 9 a 10);

c

egluro na chaniateir i ddŵr mwynol naturiol na dŵr ffynnon sydd wedi eu hechdynnu y tu allan i Gymru gael eu gwerthu yng Nghymru ond os ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion a ddisgrifir yn y prif Reoliadau mewn perthynas â datblygu (yn achos dŵr mwynol naturiol), triniaethau ac ychwanegiadau, a gofynion potelu a labelu (rheoliadau 4 a 7);

d

egluro nad yw’r rheolau ar driniaethau ac ychwanegiadau yn atal dŵr ffynnon rhag cael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn (rheoliad 5);

e

gwahardd hysbysebu dŵr ffynnon mewn ffordd a allai beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, a gwahardd defnyddio “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, wrth hysbysebu dŵr ffynnon (rheoliad 6);

f

cywiro dau wall yn nhestun Cymraeg y prif Reoliadau (rheoliadau 11 a 12(b));

g

cywiro amrywiol wallau eraill yn y prif Reoliadau (rheoliadau 12(a) a 13); a

h

egluro bod cyfnod yr esemptiad o’r monitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol penodol yn para am 5 mlynedd (rheoliad 15).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.