Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw athro sydd wedi ei gymhwyso neu athrawes sydd wedi ei chymhwyso yn unol ag adran 132 o Ddeddf 2002;

mae i “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yr ystyr a roddir iddo yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfnod y cyfrifiad” (“census period”) yw’r cyfnod a bennir mewn cais am wybodaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn;

mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i gael ei ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfrifiad CYBLD” (“PLASC census”) yw’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion a gwblheir gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag ysgolion yn eu hardal ac a gyflwynir i Weinidogion Cymru ar sail flynyddol yn unol ag adran 29 o Ddeddf 1996;

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf 2014;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(2);

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(3);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4) neu sy’n ŵyl gyhoeddus arall;

ystyr “dyddiad y cyfrifiad” (“census date”) yw’r dyddiad a bennir mewn cais am wybodaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw dogfen y gwneir darpariaeth, drwy gyfeirio ati, ar gyfer tâl ac amodau cyflogaeth eraill athrawon ysgol mewn gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 122 o Ddeddf 2002;

ystyr “gweinyddwr y Cynllun Pensiwn Athrawon” (“the administrator of the Teacher’s Pension Scheme”) yw’r person sy’n arfer, yn unol ag erthygl 3 o Orchymyn Contractio Allan (Gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Athrawon) 2003(5), y swyddogaethau a nodir yn y Gorchymyn hwnnw;

ystyr “meysydd dysgu” (“areas of learning”) yw’r meysydd dysgu a nodir mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(a) o Ddeddf 2002(6);

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor o dan adran 9 o Ddeddf 2014;

ystyr “pynciau” (“subjects”) yw’r pynciau a nodir yn adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002.

(6)

Y Gorchymyn presennol yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1996 (Cy. 198)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources