Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 954 (Cy. 241) (C. 88)

Trethi, Cymru

Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017

Gwnaed

28 Medi 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 194(2) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 18 Hydref 2017

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 18 Hydref 2017—

  • adran 2 (Awdurdod Cyllid Cymru);

  • adran 3 (aelodaeth);

  • adran 4 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol);

  • adran 5 (telerau aelodaeth anweithredol);

  • adran 6 (penodi aelod gweithredol etholedig);

  • adran 7 (diswyddo aelodau etc.);

  • adran 8 (pwyllgorau ac is-bwyllgorau);

  • adran 9 (prif weithredwr ac aelodau staff eraill);

  • adran 10 (gweithdrefn);

  • adran 11 (dilysrwydd trafodion a gweithredoedd);

  • adran 12 (prif swyddogaethau);

  • adran 13 (awdurdodiad mewnol i gyflawni swyddogaethau);

  • adran 14 (dirprwyo swyddogaethau);

  • adran 15 (cyfarwyddydau cyffredinol);

  • adran 16 (defnydd ACC a’i ddirprwyon o wybodaeth);

  • adran 17 (cyfrinachedd gwybodaeth warchodedig am drethdalwr);

  • adran 18 (datgelu a ganiateir);

  • adran 19 (datganiad ynghylch cyfrinachedd);

  • adran 20 (y drosedd o ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr ar gam);

  • adran 21(1) (achosion llys);

  • adran 22 (tystiolaeth);

  • adran 23 (cyllid);

  • adran 27 (cynllun corfforaethol);

  • adran 29 (cyfrifon);

  • adran 33 (swyddog cyfrifo);

  • adran 34 (cofnodion cyhoeddus Cymru);

  • adran 35 (yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus);

  • adran 66 (cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôl);

  • adran 69(3) a (4) (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel);

  • adran 101(3) a (4) (diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig rhwng cynghorwyr cyfreithiol a chleientiaid);

  • adran 163 (cyfraddau llog taliadau hwyr a llog ad-daliadau); ac

  • adran 167 (ffioedd talu).

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol y Ddeddf ar 18 Hydref 2017. Mae’r darpariaethau hyn yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru fel corff corfforaethol ac yn caniatáu i waith gael ei wneud i baratoi ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig. Maent hefyd yn rhoi pwerau penodol i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau.