NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol y Ddeddf ar 18 Hydref 2017. Mae’r darpariaethau hyn yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru fel corff corfforaethol ac yn caniatáu i waith gael ei wneud i baratoi ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig. Maent hefyd yn rhoi pwerau penodol i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau.