2018 Rhif 1001 (Cy. 204)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac a freinir bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018 a daw i rym ar 10 Hydref 2018.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dyddiad prisio2

1 Ebrill 2019 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y mae’n rhaid cyfeirio ato i bennu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Dirymu3

Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 20143 wedi ei ddirymu.

Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Yn rhinwedd adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), sydd i’w darllen ar y cyd â Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1370 (Cy. 139)) a wneir o dan adran 54A o Ddeddf 1988, mae rhestrau ardrethu annomestig ar gyfer Cymru i’w llunio ar 1 Ebrill 2017 a phob pumed flwyddyn wedi hynny.

Mae paragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 yn darparu, at ddibenion llunio rhestrau o’r fath, fod gwerth ardrethol hereditament annomestig i’w bennu drwy gyfeirio at y diwrnod y mae rhaid llunio’r rhestrau neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2019 fel y diwrnod hwnnw at ddibenion llunio’r rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf pan fydd y Gorchymyn hwn wedi dod i rym.

Mae erthygl 3 yn diddymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2917 (Cy. 297)), a oedd yn pennu’r diwrnod yr oedd rhaid cyfeirio ato o ran yr eiddo a oedd i’w brisio at ddibenion y rhestrau a luniwyd ar 1 Ebrill 2017. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Polisi Trethi Lleol, yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.