Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018 a deuant i rym ar 19 Hydref 2018.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.

Gosod terfyn cyflymder

2.  Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.

Diwygio Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015

3.  Yn yr Atodlen i Reoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015(1), yn lle paragraff (r) rhodder—

(r)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o’r M4 o’r man y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at bwynt 85 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw.

Ken Skates

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2018