- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
12.—(1) Caiff arolygydd ollwng deunydd perthnasol hysbysadwy o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion os yw’r arolygydd wedi ei fodloni—
(a)bod y deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;
(b)yn achos deunydd perthnasol sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod, fod y deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw bla planhigion a restrir mewn cysylltiad â’r parth gwarchod hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 690/2008;
(c)yn achos deunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, nad yw’r deunydd perthnasol yn cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;
(d)yn achos deunydd perthnasol a restrir yn ail golofn Atodiad II Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a restrir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad II Rhan B, nad yw’r deunydd perthnasol yn cario neu wedi ei heintio â’r plâu planhigion;
(e)yn achos deunydd perthnasol a restrir yn Atodiad III Rhan B i Gyfarwyddeb 2000/29/EC, nad yw’r deunydd perthnasol yn cael ei draddodi i barth gwarchod ar gyfer Erwinia amylovora (Burr) Winsl et al.;
(f)yn achos deunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4, fod y deunydd perthnasol yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A neu C o Atodlen 4 a, phan fo un neu ragor o ofynion eraill mewn unrhyw gofnod o’r fath, y gofyniad a ddatgenir yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio;
(g)yn achos deunydd perthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf Atodiad IV Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yn ail golofn Atodiad IV Rhan B, fod y deunydd perthnasol yn cydymffurfio â’r gofynion a restrir mewn cysylltiad â’r cofnodion hynny a, phan fo un neu ragor o ofynion eraill mewn unrhyw gofnod o’r fath, y gofyniad a ddatgenir yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio;
(h)bod y deunydd perthnasol yn cyfateb i’r disgrifiad a roddir iddo yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; ac
(i)bod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ofynnol o dan erthygl 7 a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen symud iechyd planhigion, yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.
(2) Caiff arolygydd, at ddiben cael ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (g), gynnal archwiliad o lwyth o ddeunydd perthnasol a’i ddeunydd pecynnu a, phan fo hynny’n angenrheidiol, y cerbyd sy’n cludo’r llwyth.
(3) Caiff arolygydd, at ddiben cael ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(h), gynnal archwiliad o lwyth o ddeunydd perthnasol er mwyn penderfynu a yw’n cyfateb i’r disgrifiad ohono yn y dogfennau sy’n mynd gydag ef.
(4) Yn achos deunydd perthnasol hysbysadwy sydd wrthi’n cael ei draddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd ac sy’n ddarostyngedig i gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a chorff swyddogol y gyrchfan mewn perthynas â’i draddodi i’w gyrchfan derfynol, nid oes ond angen i’r arolygydd fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(i) ac unrhyw faterion eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (h) y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb.
(5) Yn achos nwyddau tramwy yr UE sy’n ddarostyngedig i gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a chorff swyddogol y man cyrraedd ar gyfer y nwyddau hynny, nid oes ond angen i’r arolygydd fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (h) y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb.
(6) Pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni y caniateir gollwng y deunydd perthnasol o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion, rhaid i’r arolygydd—
(a)stampio’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ymwneud â’r deunydd perthnasol â stamp swyddogol Gweinidogion Cymru a’r dyddiad y darparwyd y dystysgrif yn unol ag erthygl 9(1); a
(b)pan fo hynny’n gymwys, lenwi penawdau perthnasol y ddogfen symud iechyd planhigion.
(7) Caiff arolygydd, at ddiben cynnal gwiriad iechyd planhigion, ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd, neu berson arall sydd â gofal am y fangre y mae’r gwiriad i’w gynnal ynddi, ddarparu—
(a)pan fo hynny’n briodol, ardaloedd arolygu addas;
(b)goleuo digonol; ac
(c)byrddau arolygu.
(8) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “archwilio” (“examination”), mewn perthynas â llwyth o ddeunydd perthnasol, yw archwilio’r llwyth yn ei gyfanrwydd neu ar sail un neu ragor o samplau cynrychioliadol o’r llwyth neu o bob lot sy’n ffurfio rhan o’r llwyth;
(b)mae i “lot” yr un ystyr ag a roddir i “lot” yn Erthygl 2(1)(o) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: