- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
18.—(1) Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno dim o’r plâu planhigion a’r deunydd perthnasol a ganlyn i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd—
(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;
(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;
(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;
(d)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 3;
(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 4;
(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 4;
(g)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys i’r plâu planhigion a’r deunydd perthnasol penodedig pa un a ydynt yn tarddu o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd neu o drydedd wlad.
(3) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4 y mae Rhan 2 yn gymwys iddi.
(4) Nid yw paragraff (1)(e) ac (f) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol a waherddir rhag cael ei gyflwyno i Gymru o dan baragraff (1)(d).
(5) Ni chaiff unrhyw berson ddod â dim o’r tatws a ganlyn i Gymru oni bai y darperir hysbysiad ysgrifenedig am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) i arolygydd o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd—
(a)tatws hadyd a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir; neu
(b)tatws, ac eithrio tatws hadyd, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yng Ngwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu unrhyw ran o Sbaen sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
(6) Y materion yw—
(a)yr amser a’r dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd;
(b)y defnydd arfaethedig ohonynt;
(c)eu cyrchfan arfaethedig;
(d)eu hamrywogaeth a’u nifer; ac
(e)rhif adnabod cynhyrchydd y tatws.
(7) Yn achos ffrwythau sitrws hysbysadwy, rhaid i’r person sy’n cyflwyno’r ffrwythau i’r Undeb Ewropeaidd drwy fan cyrraedd mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad penodedig, cyn iddynt gyrraedd y man cyrraedd hwnnw, am—
(a)y dyddiad y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd;
(b)eu man cyrraedd yn yr Undeb Ewropeaidd;
(c)eu cyfaint;
(d)rhifau adnabod eu cynwysyddion;
(e)enwau, cyfeiriadau a lleoliadau’r mangreoedd yng Nghymru y maent i’w prosesu ynddynt.
(8) Mae paragraffau (1)(e), (f) ac (g) a (5) yn ddarostyngedig i erthygl 22.
(9) Yn yr erthygl hon—
ystyr “cyfeiriad penodedig” (“specified address”) yw’r cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion paragraff (7);
ystyr “ffrwythau sitrws hysbysadwy” (“notifiable citrus fruits”) yw ffrwythau sitrws i’w prosesu sydd i’w cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd drwy fan cyrraedd mewn Aelod-wladwriaeth arall a’u prosesu’n sudd yng Nghymru.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: