Y gofynion am basbortau planhigionLL+C
21.—(1) Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno i Gymru, na symud o fewn Cymru, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6 pan fo’n nwyddau tramwy yr UE neu’n tarddu o Gymru neu o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol ac, os yw’n tarddu o Gymru, ei fod wedi bod yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.
(2) Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno i Gymru, na symud o fewn Cymru, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6 pan fo’n nwyddau tramwy yr UE neu’n tarddu o Gymru neu o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer Cymru fel parth gwarchod yn mynd gyda’r deunydd perthnasol ac, os yw’n tarddu o Gymru, ei fod wedi bod yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.
(3) Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi ei ollwng o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef.
(4) Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi ei ollwng o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer Cymru fel parth gwarchod yn mynd gydag ef.
(5) Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 7, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.
(6) Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 7, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer y parth gwarchod hwnnw yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.
(7) Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru na thraddodi o Gymru i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd a gydnabyddir fel parth gwarchod mewn perthynas â Thaumetopoea processionea L., unrhyw blanhigion, ac eithrio hadau, Quercus spp., ac eithrio Quercus suber, a fwriedir ar gyfer eu plannu, oni bai bod dogfennaeth swyddogol sy’n cadarnhau eu bod yn rhydd rhag Thaumetopoea processionea L. yn mynd gyda hwy.
(8) Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys mewn perthynas â chyflwyno i Gymru ddeunydd perthnasol y mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno, o dan gytundeb tramwy UE, i gynnal gwiriad iechyd planhigion mewn cysylltiad ag ef.
(9) Mae paragraffau (1), (2), (5) a (6) yn ddarostyngedig i erthygl 22.
(10) Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i erthygl 23.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 21 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)