Gofynion cofrestru
27.—(1) Rhaid i gais am gofrestriad—
(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru; a
(b)bod ar ffurf a chynnwys yr wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud yn rhesymol ofynnol at ddiben ystyried y cais.
(2) Rhaid i fasnachwr planhigion hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ar unwaith os ceir—
(a)cyn bod y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru, unrhyw newid yn amgylchiadau’r masnachwr planhigion a gofnodir yng nghais y masnachwr planhigion am gofrestriad; neu
(b)unrhyw newid yn y manylion a restrir yn y gofrestr mewn perthynas â’r masnachwr planhigion.
(3) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond cofrestru masnachwr planhigion mewn cysylltiad â gweithgaredd neu fangre os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau yn erthygl 28(1) ac yn fodlon gwneud hynny.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu masnachwr planhigion pan fydd y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru.