RHAN 6Mesurau i reoli glanio deunydd perthnasol ac atal plâu planhigion rhag lledaenu

Cyflwyno hysbysiadau35

1

Rhaid i hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn sydd i’w gyflwyno i fasnachwr planhigion cofrestredig gael ei gyflwyno drwy—

a

ei ddanfon yn bersonol; neu

b

ei adael ar gyfer y masnachwr, neu ei anfon ato drwy’r post, yng nghyfeiriad mangre gofrestredig y masnachwr neu, os oes gan y masnachwr fwy nag un cyfeiriad yn y gofrestr, ym mhrif gyfeiriad y masnachwr yn y gofrestr.

2

Caniateir i hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn sydd i’w gyflwyno i unrhyw berson arall gael ei gyflwyno drwy—

a

ei ddanfon yn bersonol; neu

b

ei adael ar ei gyfer, neu ei anfon ato drwy’r post, yn ei gartref neu ei fan gwaith hysbys diwethaf.

3

Os yw hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn i’w gyflwyno i’r meddiannydd neu i berson arall sydd â gofal am y fangre, ac na ellir dod o hyd i gartref neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad i’r person hwnnw drwy ei gyfeirio at “y meddiannydd” a’i adael wedi ei osod yn weladwy ar wrthrych yn y fangre am gyfnod o saith niwrnod.

4

Caniateir cyflwyno hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn—

a

yn achos corff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw;

b

yn achos partneriaeth (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond gan gynnwys partneriaeth Albanaidd), i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth; neu

c

yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth.

5

At ddibenion paragraff (4), prif swyddfa cwmni sy’n gofrestredig y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.