Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Hysbysu am bresenoldeb, neu achos o amau presenoldeb, plâu planhigion penodol

42.—(1Rhaid i’r meddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fangre sy’n dod yn ymwybodol neu’n amau bod unrhyw bla planhigion hysbysadwy yn bresennol yn y fangre, neu unrhyw berson arall sydd, wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei fusnes, yn dod yn ymwybodol neu’n amau bod pla planhigion hysbysadwy yn bresennol mewn unrhyw fangre, hysbysu Gweinidogion Cymru neu arolygydd ar unwaith ei fod yn bresennol neu yr amheuir ei fod yn bresennol.

(2Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi ar lafar yn gyntaf, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “pla planhigion hysbysadwy” (“notifiable plant pest”) yw—

(a)pla planhigion, ac eithrio pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 17—

(i)sydd o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(ii)sydd o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 2;

(iii)sydd o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 2 ac sy’n bresennol ar ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r pla planhigion hwnnw yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 2, neu yr ymddengys i arolygydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â deunydd perthnasol o’r fath; neu

(iv)er nad yw o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 na 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(b)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 17—

(i)sy’n isrywogaeth neu’n fath sy’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac a ganfuwyd ym mangre masnachwr planhigion cofrestredig;

(ii)sy’n isrywogaeth neu’n fath nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac a ganfuwyd mewn unrhyw fangre; neu

(iii)a bennir hefyd yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 2 ac sy’n bresennol ar ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r pla planhigion hwnnw yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 2, neu yr ymddengys i arolygydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â deunydd perthnasol o’r fath.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn dod yn ymwybodol o bresenoldeb Xylella fastidiosa (Wells et al.) neu o amheuaeth ei fod yn bresennol, mewn unrhyw fan neu ardal yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw berson sydd â phlanhigion a allai fod wedi eu heintio â Xylella fastidiosa (Wells et al.) o dan ei reolaeth yn cael ei hysbysu ar unwaith—

(a)ei fod yn bresennol neu yr amheuir ei fod yn bresennol;

(b)am y canlyniadau posibl sy’n codi o’i bresenoldeb neu’r amheuaeth ei fod yn bresennol; ac

(c)am y mesurau sydd i’w cymryd o ganlyniad i hynny.