Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)) a Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1344 (Cy. 134)).

Mae’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1) a deddfwriaeth gysylltiedig yr Undeb Ewropeaidd ar iechyd planhigion. Mae hefyd yn gweithredu offerynnau sy’n cynnwys:

(a)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2014/690/EU sy’n diddymu Penderfyniad 2006/464/EC ar fesurau brys dros dro i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu (OJ Rhif L 288, 2.10.2014, t. 5);

(b)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/749 sy’n diddymu Penderfyniad 2007/410/EC ar fesurau i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Firoid y gloronen bigfain (OJ Rhif L 119, 12.5.2015, t. 25);

(c)Penderfyniadau Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789, (EU) 2016/764 ac (EU) 2017/2352 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Xylella fastidiosa (Wells et al.) (OJ Rhif L 125, 21.5.2015, t. 36), (OJ Rhif L 126, 14.5.2016, t. 77) ac (OJ Rhif L 336, 16.12.2017, t. 31);

(d)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Anoplophora glabripennis (Motschulsky) (OJ Rhif 146, 11.6.2015, t. 16);

(e)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1199 sy’n cydnabod bod Bosnia a Herzegovina yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckerman a Kotthof) Davis et al. (OJ Rhif L 194, 22.7.2015, t. 42);

(f)Penderfyniadau Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715 ac (EU) 2017/801 sy’n nodi mesurau mewn cysylltiad â ffrwythau penodol sy’n tarddu o drydydd gwledydd penodol i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb yr organedd niweidiol Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa (OJ Rhif L 125, 13.5.2016, t. 16) ac (OJ Rhif L 120, 11.5.2017, t. 26);

(g)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1359 sy’n diwygio Penderfyniad Gweithredu 2012/270/EU o ran mesurau brys i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix similaris (Gentner), Epitrix subcrinata (Lec.) ac Epitrix tuberis (Gentner) (OJ Rhif L 215, 10.8.2016, t. 29);

(h)Penderfyniad Rhif 1/2015 y Cyd-bwyllgor ar Amaethyddiaeth ynglŷn â diwygio Ychwanegiadau 1, 2 a 4 i Atodiad 4 i’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar fasnachu cynhyrchion amaethyddol (OJ Rhif L 27, 1.2.2017, t. 155);

(i)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu a Goto (OJ Rhif L 31, 4.2.2017, t. 29);

(j)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2374 sy’n nodi amodau ar gyfer symud, storio a phrosesu ffrwythau penodol a’u cymysgrywiau sy’n tarddu o drydydd gwledydd i atal cyflwyno i’r Undeb organeddau niweidiol penodol (OJ Rhif L 337, 19.12.2017, t. 60); a

(k)Cyfarwyddebau Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/1279 ac (EU) 2017/1920 sy’n diwygio Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 184, 15.7.2017, t. 33) ac (OJ Rhif L 271, 20.10.2017, t. 34).

Cyflwyniad yw Rhan 1 ac mae’n cynnwys diffiniadau. Mae erthygl 2(5) yn darparu bod cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a restrir yn y ddarpariaeth honno i’w darllen fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Rhan 2 yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol sy’n dod o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys deunydd perthnasol o drydydd gwledydd sy’n dod drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd pan fo Gweinidogion Cymru wedi cytuno i gynnal gwiriadau penodol ar y deunydd hwnnw. Diffinnir “deunydd perthnasol” yn erthygl 2(1).

Mae erthygl 5 yn gwahardd glanio plâu planhigion a deunydd perthnasol penodol yng Nghymru ac yn gosod cyfyngiadau ar ddeunydd perthnasol arall y caniateir iddo gael ei fewnforio i Gymru o drydydd gwledydd. Mae erthygl 6 yn ei gwneud yn ofynnol i fewnforwyr mewnforion deunydd perthnasol a reolir hysbysu Gweinidogion Cymru ymlaen llaw y byddant yn cael eu glanio ac mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r dystysgrif ffytoiechydol briodol fynd gyda’r mewnforion hynny. Mae erthyglau 10 i 12 yn gwahardd symud y deunydd perthnasol hwn o ardal rheolaeth iechyd planhigion hyd nes y bydd arolygydd wedi arolygu’r deunydd ac wedi ei fodloni y gellir gollwng y deunydd.

Mae erthygl 8 yn eithrio deunydd perthnasol penodol a ddygir i Gymru ym mhaciau person rhag y gofynion yn erthygl 5 a gofynion cysylltiedig eraill.

Mae Rhan 3 yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd (pa un a yw’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu o drydydd gwledydd). Mae erthyglau 18 i 20 yn gwahardd cyflwyno plâu planhigion a deunydd perthnasol penodol i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd ac yn cynnwys gwaharddiadau a chyfyngiadau ar symud plâu planhigion a deunydd perthnasol a gweithgareddau eraill yng Nghymru. Mae erthygl 21 yn ei gwneud yn ofynnol i basbort planhigion fynd gyda deunydd perthnasol penodol pan fo’n cael ei symud o fewn Cymru neu’n cael ei draddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Rhan 4 yn gosod gofyniad ar fasnachwyr planhigion i fod yn gofrestredig o ran unrhyw weithgaredd y maent yn ymgymryd ag ef ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Gorchymyn (erthyglau 25 i 28) ac yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru awdurdodi masnachwyr planhigion i ddyroddi pasbortau planhigion (erthygl 29).

Mae Rhan 5 yn cynnwys trefniadau arbennig sy’n llywodraethu deunydd perthnasol o’r Swistir.

Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau gorfodi cyffredinol a roddir i arolygwyr iechyd planhigion.

Mae Rhan 7 yn gosod gofynion ychwanegol mewn perthynas â rhywogaethau mochlysaidd penodol (tatws a thomatos).

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru roi trwyddedau sy’n awdurdodi gweithgareddau a fyddai’n cael eu gwahardd gan y Gorchymyn hwn fel arall.

Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu Gweinidogion Cymru neu arolygydd am blâu planhigion penodol sy’n bresennol neu yr amheuir eu bod yn bresennol yng Nghymru ac yn gwneud darpariaeth i arolygwyr ofyn am wybodaeth ynglŷn â materion iechyd planhigion penodol.

Mae Rhan 10 y cynnwys troseddau o beidio â chydymffurfio â’r Gorchymyn ac â’r gofynion a osodir o dan erthygl 46. Mae erthygl 47 yn nodi’r cosbau am y troseddau. (Mae torri unrhyw waharddiad ar lanio a osodir gan y Gorchymyn hwn yn drosedd o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2)).

Mae Rhan 11 yn ymdrin â dirymiadau a darpariaethau trosiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.