48. Mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn gymwys heb ragfarnu’r Ddeddf Dollau.
49.—(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(1) a’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 18 wedi eu dirymu.
(2) Bydd unrhyw hysbysiad a ddyroddwyd, neu unrhyw drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth arall a roddwyd o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym yn parhau mewn grym fel pe bai wedi ei ddyroddi neu ei rhoi neu ei roi o dan y Gorchymyn hwn.
(3) Mae cofnodion sydd ar y gofrestr a gedwir o dan erthygl 25(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym i’w trin fel pe baent wedi eu cofnodi ar y gofrestr o dan erthygl 25(1) o’r Gorchymyn hwn.
O.S. 2006/1643 (Cy. 158), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2716 (Cy. 229), 2007/3305 (Cy. 292), 2008/2781 (Cy. 248), 2008/2913 (Cy. 257), 2009/1376 (Cy. 137), 2010/1795 (Cy. 171), 2010/2976 (Cy. 247), 2012/3143 (Cy. 315), 2013/888 (Cy. 100), 2013/2939 (Cy. 287), 2014/521 (Cy. 62), 2014/1186 (Cy. 115), 2014/1463 (Cy. 144) a 2014/2368 (Cy. 231).