Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

RHAN 3Rheolaethau mewnol yr UE ar symud

Gwaharddiadau ar gyflwyno plâu planhigion a deunydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd

18.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno dim o’r plâu planhigion a’r deunydd perthnasol a ganlyn i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 3;

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 4;

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 4;

(g)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys i’r plâu planhigion a’r deunydd perthnasol penodedig pa un a ydynt yn tarddu o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd neu o drydedd wlad.

(3Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4 y mae Rhan 2 yn gymwys iddi.

(4Nid yw paragraff (1)(e) ac (f) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol a waherddir rhag cael ei gyflwyno i Gymru o dan baragraff (1)(d).

(5Ni chaiff unrhyw berson ddod â dim o’r tatws a ganlyn i Gymru oni bai y darperir hysbysiad ysgrifenedig am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) i arolygydd o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd—

(a)tatws hadyd a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir; neu

(b)tatws, ac eithrio tatws hadyd, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yng Ngwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu unrhyw ran o Sbaen sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

(6Y materion yw—

(a)yr amser a’r dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd;

(b)y defnydd arfaethedig ohonynt;

(c)eu cyrchfan arfaethedig;

(d)eu hamrywogaeth a’u nifer; ac

(e)rhif adnabod cynhyrchydd y tatws.

(7Yn achos ffrwythau sitrws hysbysadwy, rhaid i’r person sy’n cyflwyno’r ffrwythau i’r Undeb Ewropeaidd drwy fan cyrraedd mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad penodedig, cyn iddynt gyrraedd y man cyrraedd hwnnw, am—

(a)y dyddiad y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd;

(b)eu man cyrraedd yn yr Undeb Ewropeaidd;

(c)eu cyfaint;

(d)rhifau adnabod eu cynwysyddion;

(e)enwau, cyfeiriadau a lleoliadau’r mangreoedd yng Nghymru y maent i’w prosesu ynddynt.

(8Mae paragraffau (1)(e), (f) ac (g) a (5) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(9Yn yr erthygl hon—

ystyr “cyfeiriad penodedig” (“specified address”) yw’r cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion paragraff (7);

ystyr “ffrwythau sitrws hysbysadwy” (“notifiable citrus fruits”) yw ffrwythau sitrws i’w prosesu sydd i’w cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd drwy fan cyrraedd mewn Aelod-wladwriaeth arall a’u prosesu’n sudd yng Nghymru.

Hysbysu am lanio planhigion penodol ar gyfer eu plannu

19.—(1Rhaid i berson sy’n dod â’r planhigion a ganlyn i Gymru hysbysu arolygydd yn ysgrifenedig am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, neu’n ddim hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl hynny—

(a)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall; neu

(b)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yn y Swistir ac nad yw gofynion erthygl 6 yn gymwys iddynt.

(2Y materion yw—

(a)y dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd neu, os ydynt wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y gwnaethant gyrraedd Cymru gyntaf;

(b)eu cyrchfan arfaethedig, neu os ydynt wedi cyrraedd eu cyrchfan arfaethedig yng Nghymru, eu lleoliad presennol;

(c)eu genws, eu rhywogaeth a’u nifer;

(d)rhif adnabod cyflenwr y planhigion; ac

(e)y wlad y maent wedi eu traddodi ohoni, neu y maent i’w traddodi iddi.

(3Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

Atal plâu planhigion rhag lledaenu

20.—(1Ni chaiff unrhyw berson gadw, storio, plannu, gwerthu na symud y canlynol yn fwriadol, na pheri na chaniatáu yn fwriadol i’r canlynol gael eu cadw, eu storio, eu plannu, eu gwerthu na’u symud—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol a gyflwynwyd i Gymru gan dorri erthygl 5(1)(d), (e) neu (f) neu erthygl 18(1)(d), (e), (f) neu (g);

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 4 sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 4;

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4 sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4;

(g)unrhyw ddeunydd perthnasol a gyflwynwyd i Gymru o Loegr neu o’r Alban a fyddai, pe bai wedi ei gyflwyno o drydedd wlad neu o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, wedi torri erthygl 5(1)(d), (e) neu (f) neu erthygl 18(1)(d), (e), (f) neu (g).

(2Nid yw’r gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’n ofynnol ei gadw, ei storio neu ei symud gan gydymffurfio â gofyniad a osodir gan arolygydd o dan Ran 6 neu 7.

(3Mae paragraff (1)(e) ac (f) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(4Yn yr erthygl hon, mae “symud” (“move” a “moved”) yn golygu symud neu waredu fel arall.

Y gofynion am basbortau planhigion

21.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno i Gymru, na symud o fewn Cymru, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6 pan fo’n nwyddau tramwy yr UE neu’n tarddu o Gymru neu o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol ac, os yw’n tarddu o Gymru, ei fod wedi bod yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.

(2Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno i Gymru, na symud o fewn Cymru, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6 pan fo’n nwyddau tramwy yr UE neu’n tarddu o Gymru neu o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer Cymru fel parth gwarchod yn mynd gyda’r deunydd perthnasol ac, os yw’n tarddu o Gymru, ei fod wedi bod yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.

(3Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi ei ollwng o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef.

(4Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi ei ollwng o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer Cymru fel parth gwarchod yn mynd gydag ef.

(5Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 7, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.

(6Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 7, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer y parth gwarchod hwnnw yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.

(7Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru na thraddodi o Gymru i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd a gydnabyddir fel parth gwarchod mewn perthynas â Thaumetopoea processionea L., unrhyw blanhigion, ac eithrio hadau, Quercus spp., ac eithrio Quercus suber, a fwriedir ar gyfer eu plannu, oni bai bod dogfennaeth swyddogol sy’n cadarnhau eu bod yn rhydd rhag Thaumetopoea processionea L. yn mynd gyda hwy.

(8Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys mewn perthynas â chyflwyno i Gymru ddeunydd perthnasol y mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno, o dan gytundeb tramwy UE, i gynnal gwiriad iechyd planhigion mewn cysylltiad ag ef.

(9Mae paragraffau (1), (2), (5) a (6) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(10Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i erthygl 23.

Eithriadau rhag gwaharddiadau a gofynion penodol

22.—(1Nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys i symiau bach o ddeunydd perthnasol, ac eithrio deunydd eithriedig, os yw’r deunydd perthnasol yn bodloni’r amodau ym mharagraff (2)—

(a)erthygl 18(1)(e), (f) ac (g) a (5);

(b)erthygl 19(1);

(c)erthygl 20(1)(e) ac (f); a

(d)erthygl 21(1), (2), (5) a (6).

(2Yr amodau yw—

(a)nad yw’r deunydd perthnasol yn dangos unrhyw arwyddion bod pla planhigion yn bresennol;

(b)na fwriedir i’r deunydd perthnasol gael ei ddefnyddio wrth fasnachu neu redeg busnes; ac

(c)y bwriedir y deunydd perthnasol at ddefnydd aelwydydd.

(3Nid yw’r gofynion yn erthygl 21(1) yn gymwys i blanhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/697/EU ac nad ydynt ond yn cael eu symud o fewn yr ardal honno.

(4Mae’r gofynion yn erthygl 21(1) a (5) a fyddai’n gymwys yn rhinwedd paragraffau 16 a 17 o Ran A o Atodlenni 6 a 7 i blanhigion cynhaliol Xylella o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 ac i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunydd cyn-sylfaenol y cyfeirir atynt yn Erthygl 9(9) o’r Penderfyniad hwnnw yn anghymwys pan fo’r planhigion yn cael eu symud gan berson sy’n gweithredu at ddibenion y tu allan i fasnach, busnes neu broffesiwn y person, a’r person yn eu caffael at ddefnydd personol.

(5Caiff Gweinidogion Cymru eithrio symud deunydd perthnasol sy’n tarddu o Brydain Fawr o’r gwaharddiad ar symud yn erthygl 21(1) neu (2) os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y symudiad yn cael ei wneud yn lleol gan gynhyrchwyr neu broseswyr bach y bwriedir y broses gyfan o gynhyrchu a gwerthu deunydd o’r fath ar gyfer defnyddio’r deunydd yn y pen draw gan bersonau yn y farchnad leol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion; a

(b)nad oes unrhyw risg y bydd y plâu planhigion yn lledaenu neu’n cael eu lledaenu o ganlyniad i’r symudiad hwnnw.

(6Ym mharagraff (1), ystyr “deunydd eithriedig” (“excluded material”) yw unrhyw un neu ragor o’r deunydd a ganlyn—

(a)planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(b)planhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(c)planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L, a fwriedir ar gyfer eu plannu.

Dilysrwydd pasbortau planhigion ar gyfer Cymru

23.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6 a symudir o fan yng Nghymru, neu drwy Gymru, i leoliad y tu allan i Gymru.

(2Nid yw’r gofynion yn erthygl 21(2) a (4) yn gymwys os yw—

(a)y deunydd perthnasol yn tarddu o Brydain Fawr; neu

(b)dogfen o fath a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach, sy’n ardystio bod y deunydd yn tarddu y tu allan i Gymru a’i fod yn tramwyo i gyrchfan derfynol y tu allan i Gymru a bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni, yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wrth iddo dramwyo drwy Gymru.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y deunydd pecynnu y caiff y deunydd perthnasol ei gludo ynddo ac unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo’r deunydd yn rhydd rhag pridd a malurion planhigion ac unrhyw bla planhigion perthnasol y mae Cymru yn barth gwarchod mewn perthynas ag ef;

(b)y cafodd y deunydd ei selio yn union ar ôl ei becynnu neu, pan fo hynny’n briodol, ar ôl ei lwytho, a’i fod yn parhau i fod wedi ei selio wrth i’r deunydd dramwyo drwy Gymru; ac

(c)bod natur neu wneuthuriad y deunydd pecynnu y caiff y deunydd ei gludo ynddo ac unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo’r deunydd yn ddigonol i sicrhau nad oes unrhyw risg bod unrhyw bla planhigion perthnasol a allai fod yn bresennol yn y deunydd perthnasol neu arno yn dianc.

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â phasbortau planhigion

24.—(1Mae unrhyw newid neu ddilead mewn pasbort planhigion yn gwneud y pasbort planhigion yn annilys yn awtomatig, oni bai bod y newid neu’r dilead yn cael ei ardystio gan swyddog awdurdodedig neu’r masnachwr planhigion a awdurdodwyd o dan erthygl 29 i ddyroddi’r pasbort planhigion, yn y naill achos a’r llall drwy roi ei flaenlythrennau â llaw wrth y newid neu’r dilead.

(2Nid yw pasbort planhigion sy’n ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol ond i’w drin fel ei fod yn mynd gyda’r deunydd perthnasol os yw swyddog awdurdodedig, y masnachwr planhigion a awdurdodwyd i’w ddyroddi neu arolygydd yn rhoi’r pasbort planhigion ynghlwm wrth y deunydd perthnasol.

(3Pan fo pasbort planhigion ar ffurf label swyddogol a bod y masnachwr planhigion sydd wedi ei awdurdodi i ddyroddi’r pasbort planhigion i’w roi ynghlwm, rhaid i’r masnachwr planhigion ei roi ynghlwm mewn modd sy’n golygu na ellir ei ailddefnyddio.

(4Ni chaiff person ond dyroddi pasbort planhigion amnewid yn lle pasbort planhigion a ddyroddwyd mewn cysylltiad â llwyth os yw—

(a)y llwyth wedi ei rannu, y llwyth neu ran o’r llwyth wedi ei gyfuno â llwyth arall neu statws iechyd planhigion y llwyth wedi ei newid; a

(b)y person wedi ei fodloni y gellir adnabod y deunydd perthnasol y bydd y pasbort planhigion amnewid yn ymwneud ag ef a’i fod yn rhydd rhag unrhyw risg o heigiad gan bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2.

(5Rhaid i basbort planhigion neu ddogfen swyddogol sy’n mynd gydag unrhyw ddeunydd perthnasol yn unol ag erthygl 21 gael ei gadw neu ei chadw gan y person sy’n ddefnyddiwr terfynol i’r deunydd perthnasol neu sy’n defnyddio’r deunydd perthnasol wrth fasnachu neu gynnal busnes.