xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 39(3)

ATODLEN 13Mesurau arbennig ar gyfer rheoli Clefyd y ddafaden tatws

1.  Mae llain i’w hystyried yn halogedig at ddibenion yr Atodlen hon os cadarnheir bod Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol ar o leiaf un planhigyn o’r llain o ganlyniad i brawf swyddogol.

2.  Rhaid i arolygydd ddarnodi llain halogedig a pharth diogelwch o amgylch y llain honno sy’n ddigon mawr i sicrhau diogelwch yr ardaloedd oddi amgylch.

3.  Caiff hysbysiad o dan erthygl 32 ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gloron neu wlydd sy’n bresennol ar lain halogedig neu sydd wedi dod o lain o’r fath gael eu trin mewn modd sy’n sicrhau bod Clefyd y ddafaden tatws sy’n bresennol arnynt yn cael ei ddinistrio.

4.  Pan fo arolygydd wedi ei fodloni bod unrhyw gloron neu wlydd wedi eu halogi â Chlefyd y ddafaden tatws ac na all yr arolygydd ganfod pa un a fu’r cloron neu’r gwlydd hynny yn bresennol ar lain halogedig, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 32 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r swp cyfan sy’n cynnwys y cloron neu’r gwlydd a effeithiwyd gael ei drin mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Clefyd y ddafaden tatws.

5.  Pan fo llain halogedig wedi ei darnodi o dan baragraff 2—

(a)ni chaniateir tyfu unrhyw datws arni; a

(b)ni chaniateir tyfu na storio unrhyw blanhigion y bwriedir eu trawsblannu ar y llain honno, na symud planhigion o’r fath ar y llain honno.

6.  Ni chaniateir tyfu unrhyw datws mewn parth diogelwch a ddarnodwyd o dan baragraff 2 oni bai bod arolygydd wedi ei fodloni eu bod o rywogaeth sydd ag ymwrthedd i hiliau o Glefyd y ddafaden tatws sy’n bresennol ar y llain halogedig y mae’r parth diogelwch yn ymwneud â hi.

7.  Mae amrywogaeth datws i’w hystyried yn un sydd ag ymwrthedd i hil benodol o Glefyd y ddafaden tatws at ddibenion paragraff 6 pan fo’r amrywogaeth honno yn ymateb i halogi gan asiant pathogenig o’r hil honno mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw berygl o sgil-heintio.

8.  Pan fo arolygydd wedi ei fodloni nad yw Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol mwyach ar lain a ddarnodwyd o dan baragraff 2 neu ar ei pharth diogelwch cysylltiedig, rhaid i’r arolygydd ddirymu’r darnodiad hwnnw.