ATODLEN 14Mesurau arbennig ar gyfer rheoli poblogaethau Ewropeaidd o Lyngyr tatws

Gwaharddiad ar blannu tatws5

Oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd, ni chaiff unrhyw berson—

a

plannu mewn cae sydd wedi ei ddarnodi unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu tatws hadyd; neu

b

plannu neu storio mewn cae sydd wedi ei ddarnodi unrhyw blanhigyn a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2007/33/EC a fwriedir ar gyfer ei blannu.