ATODLEN 16Pydredd coch tatws

DehongliI11

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

  • ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron), ac eithrio gwir hadau, Solanum tuberosum L. neu blanhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Solanum lycopersicum L;

  • ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

  • ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

  • ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”), yn F1Rhannau A i C, yw hysbysiad o dan erthygl 32;

  • ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig fel y’u diffinir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.