Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

5.  Caiff arolygydd gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd o dan erthygl 39(4)—

(a)yn achos cae halogedig neu uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad sy’n cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)yn achos cae nad yw’n halogedig a, phan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad sy’n cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.