- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
14. Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo arolygydd wedi darnodi parth mewn perthynas ag achos o gadarnhau bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan erthygl 39(4).
15. Caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad—
(a)am ba mor hir y mae’r parth i barhau i fod wedi ei ddarnodi;
(b)y mesurau sy’n gymwys yn y parth sydd wedi ei ddarnodi.
16. Mewn perthynas â hysbysiad o dan baragraff 15—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth sydd wedi ei ddarnodi;
(c)rhaid iddo bennu, mewn perthynas â phob mesur, pa un a yw’n gymwys yn gyffredinol neu i grynhofa dŵr wyneb yn y parth sydd wedi ei ddarnodi;
(d)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae pob mesur yn cael effaith;
(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn dull sy’n briodol i’w ddwyn i sylw’r cyhoedd; ac
(f)caniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad pellach.
17. Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth sydd wedi ei ddarnodi ac yn rhannol y tu allan i barth sydd wedi ei ddarnodi fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion yr Atodlen hon, ac eithrio pan na fo’r rhan sydd y tu allan i’r parth sydd wedi ei ddarnodi yng Nghymru.
18. Mae hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff 16 i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno i—
(a)unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi;
(b)unrhyw berson—
(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig;
(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi y mae’r person yn ei meddiannu neu â gofal amdani; ac
(c)unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu’n cyflawni unrhyw weithgarwch arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi.
19. Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn hysbysiad o dan baragraff 15—
(a)bod rhaid glanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu storfeydd mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drafod cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;
(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu;
(c)bod rhaid trafod tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trafod tatws hadyd a thatws bwyta;
(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfir o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu;
(e)ni chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, phan fo’n berthnasol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd;
(f)os yw gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol yn y parth sy’n trafod deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd.
20. Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond pennu—
(a)y mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19(a) i (d) pan fo’r parth wedi ei ddarnodi at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;
(b)y mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19(e) ac (f) pan fo’r parth wedi ei ddarnodi at ddibenion Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: