- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Erthyglau 3, 5(1), 12(1), 15(2), 18(1), 18(3) ac 20(1)
(1) Eitem | (2) Disgrifiad o’r deunydd perthnasol | (3) Gofynion glanio |
---|---|---|
1. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, coed conwydd (Coniferales), sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cynhyrchu mewn meithrinfa, a bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Pissodes spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd) |
2. | Planhigion, ac eithrio hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Scirrhia acicola (Dearn.) Siggers neu Scirrhia pini Funk a Parker yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
3. | Planhigion, ac eithrio hadau, Abies Mill., Larix Mill., Picea A. Dietr., Pinus L., Pseudotsuga Carr. neu Tsuga Carr., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
4. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Quercus L. sy’n tarddu o UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Ceratocystis fagacearum (Bretz) Hunt. |
5. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Castanea Mill. neu Quercus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw arwyddion Cronartium spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
6. | Planhigion, ac eithrio hadau, Castanea Mill, neu Quercus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr; neu (b) na welwyd unrhyw symptomau Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
7. | Planhigion, ac eithrio hadau, Corylus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada neu UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa ac: (a) yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller, yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu (b) yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller o gynnal arolygiadau swyddogol yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” a datganiad ei fod yn rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller |
8. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, ond gan gynnwys canghennau wedi eu torri, gyda deiliach neu hebddo, Fraxinus L., Juglans ailantifolia Carr., Juglans mandshurica Maxim., Ulmus davidiana Planch. neu Pterocarya rhoifolia Siebold a Zucc., sy’n tarddu o Ganada, Tsieina, Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Korea, Japan, Mongolia, Gweriniaeth Korea, Rwsia, Taiwan neu UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Agrilus planipennis Fairmaire at ddibenion pwynt 11.4 o Adran I o Atodiad IV Rhan A, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio |
9. | Planhigion Betula L., ac eithrio ffrwythau neu hadau, ond gan gynnwys canghennau wedi eu torri Betula L., gyda deiliach neu hebddo, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Agrilus anxius Gory |
10. | Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Armenia, y Swistir neu UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr. yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
11. | Planhigion, ac eithrio hadau, Populus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
12. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Populus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad ar gyfandir America | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Mycosphaerella populorum G.E. Thompson yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf. |
13. | Planhigion, ac eithrio hadau, Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad yng Ngogledd America | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Candidatus Phytoplasma ulmi yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
14. | Planhigion, ac eithrio impynnau, toriadau, planhigion mewn meithriniad meinwe, paill neu hadau, Amelanchier Medik., Aronia Medik., Cotoneaster Medik., Crataegus L., Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L., Pyracantha M. Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada neu UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Saperda candida Fabricius, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohono yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu (b) eu bod wedi eu tyfu yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio, neu yn achos planhigion sy’n iau na dwy flynedd, wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd, mewn man cynhyrchu a sefydlwyd yn fan sy’n rhydd rhag Saperda candida Fabricius yn unol ag ISPM Rhif 10: (i) sydd wedi ei gofrestru a’i oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; (ii) a fu’n destun dau arolygiad swyddogol bob blwyddyn ar gyfer unrhyw arwyddion Saperda candida Fabricius a gynhaliwyd ar adegau priodol; (iii) lle mae’r planhigion wedi eu tyfu mewn safle sydd wedi ei ddiogelu’n llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Saperda candida Fabricius neu drwy gymhwyso triniaethau ataliol priodol ac a amgylchynir gan barth clustogi sydd o leiaf 500 m o led lle y cadarnhawyd nad yw Saperda candida Fabricius yn bresennol gan arolygon swyddogol a gynhelir yn flynyddol ar adegau priodol; a (iv) yn union cyn eu hallforio, bod y planhigion, ac yn enwedig eu coesynnau, wedi bod yn destun arolygiad manwl ar gyfer presenoldeb Saperda candida Fabricius, a oedd yn cynnwys samplu dinistriol, pan fo’n briodol |
15. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r ffrwythau fod yn rhydd rhag pedynclau a dail, a rhaid i’r deunydd pecynnu, unrhyw label a osodir ar y deunydd pecynnu neu unrhyw ddogfen a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach sy’n dod gyda’r llwyth ddwyn nod tarddiad priodol (caiff y nod hwnnw fod yn gyfeiriad at enw’r wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni) |
16. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; (b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; (c) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn fan sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; (d) eu bod: (i) wedi eu trin â sodiwm orthoffenylffenad neu unrhyw driniaeth effeithiol arall yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; (ii) yn tarddu o safle cynhyrchu sy’n ddarostyngedig, ynghyd â’i gyffiniau agos, i driniaethau ac arferion meithrin priodol i atal Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii; a (iii) yn rhydd rhag symptomau Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolli, fel y dangosir o gynnal arolygiadau swyddogol ar adegau priodol cyn allforio; a (iv) sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd; neu (e) yn achos ffrwythau sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn yr Undeb Ewropeaidd: (i) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn ystod arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd cyn eu hallforio; (ii) eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu a oedd yn ddarostyngedig, ynghyd â’i gyffiniau agos, i driniaethau ac arferion meithrin priodol i atal Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii; (iii) eu bod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru; (iv) eu bod yn cael eu cludo mewn pecynnau unigol sy’n dwyn label sy’n cynnwys cod olrheiniadwyedd ac sy’n dangos bod y ffrwythau yn cael eu hanfon i’w prosesu’n ddiwydiannol; a (v) sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd |
17. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; (b) eu bod yn tarddu o ardal y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neu (c) na welwyd unrhyw symptomau Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn y safle cynhyrchu nac yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant diweddaraf ac nad oes unrhyw un o’r ffrwythau a gynaeafwyd yn y safle cynhyrchu wedi dangos, mewn archwiliad swyddogol priodol, symptomau o’r pla planhigion hwn |
18. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; (b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; (c) eu bod: (i) yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; a (ii) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa gan arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31; (d) eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu fu’n destun: (i) triniaethau a mesurau meithrin priodol i atal Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa; a (ii) cynhaliwyd arolygiadau swyddogol yn y safle cynhyrchu yn ystod y tymor tyfu ers dechrau’r cylch llystyfiant diweddaraf, ac ni chanfuwyd unrhyw symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn y ffrwythau; a (iii) y canfuwyd bod y ffrwythau a gynaeafwyd o’r safle cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn ystod arolygiad swyddogol, cyn allforio, o sampl gynrychioliadol, a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31; a (iv) sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd; neu (e) yn achos ffrwythau sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn yr Undeb Ewropeaidd: (i) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa cyn eu hallforio yn ystod arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31; (ii) eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu a oedd yn destun triniaethau priodol i atal Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa ar adegau priodol ac a grybwyllwyd ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; (iii) eu bod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru; (iv) eu bod yn cael eu cludo mewn pecynnau unigol sy’n dwyn label sy’n cynnwys cod olrheiniadwyedd ac sy’n dangos bod y ffrwythau i’w hanfon i’w prosesu’n ddiwydiannol; a (v) sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd |
19. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay ac nad ydynt i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn unig | Rhaid i’r ffrwythau: (a) dod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; (b) yn achos ffrwythau sy’n tarddu o Frasil, dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional Declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthyglau 4 a 7 o Benderfyniad (EU) 2016/715; (c) yn achos ffrwythau sy’n tarddu o Dde Affrica neu Uruguay, dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthyglau 5 a 7 o Benderfyniad (EU) 2016/715; (d) yn achos ffrwythau sy’n tarddu o’r Ariannin, dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional Declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthyglau 5a a 7 o Benderfyniad (EU) 2016/715 |
20. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay ac sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn unig | Rhaid i’r ffrwythau: (a) dod gyda datganiad swyddogol: (i) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neu (ii) eu bod: (aa) yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; a (bb) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa gan arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31; (b) yn achos ffrwythau a gyflwynir i’r Undeb Ewropeaidd o dan y rhanddirymiad a bennir yn Erthygl 8 o Benderfyniad (EU) 2016/715, rhaid iddynt: (i) dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthyglau 9(1) a 10 o Benderfyniad (EU) 2016/715 a’r wybodaeth a bennir yn Erthygl 9(2) o’r Penderfyniad hwnnw; (ii) bod wedi eu pecynnu a’u labelu yn unol ag Erthygl 17 o’r Penderfyniad hwnnw; a (iii) bod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru |
21. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn bresennol ar y ffrwythau hynny | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd); (b) na welwyd unrhyw arwyddion Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu, ac nad oes unrhyw un o’r ffrwythau a gynaeafwyd yn y man cynhyrchu wedi dangos, mewn archwiliad swyddogol priodol, arwyddion Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd); (c) y dangoswyd eu bod, mewn archwiliad swyddogol priodol o samplau cynrychioliadol, yn rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) ym mhob cam o’u datblygiad; neu (d) y bu’r ffrwythau yn destun triniaeth briodol, unrhyw driniaeth gwres anwedd, triniaeth oer, neu driniaeth rhewi’n gyflym sy’n dderbyniol ac y dangoswyd ei bod yn effeithiol yn erbyn Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) heb niweidio’r ffrwythau, neu, pan na fo ar gael, triniaeth gemegol i’r graddau y bo’n dderbyniol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd |
22. | Ffrwythau Capsicum (L.) Citrus L., ac eithrio Citrus limon (L.) Osbeck, neu Citrus aurantii-folia (Christm.) Swingle, Prunus persica (L.) Batsch neu Punica granatum L., sy’n tarddu o unrhyw wlad ar gyfandir Affrica, Cape Verde, Saint Helena, Madagasgar, La Reunion, Mauritius neu Israel | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yn unol ag ISPM Rhif 4; (b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; (c) eu bod: (aa) yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yn unol ag ISPM Rhif 10; a (bb) yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw fel y dangosir gan arolygiadau swyddogol a gynhelir yn y man cynhyrchu ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, a oedd yn cynnwys archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, ac sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd; neu (d) yn achos ffrwythau fu’n destun triniaeth oer effeithiol neu unrhyw driniaeth effeithiol arall i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol, y buont yn destun triniaeth o’r fath, ac sy’n cynnwys data’r driniaeth |
23. | Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod y planhigion yn y cae cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al. wedi eu symud ymaith |
24. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., neu blanhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Radopholus citrophilus Huettel et al. a Radopholus similis (Cobb) Thorne; neu (b) y bu samplau cynrychioliadol o bridd a gwreiddiau o’r man cynhyrchu yn destun, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, brofion nematolegol swyddogol ar gyfer o leiaf Radopholus citrophilus Huettel et al. a Radopholus similis (Cobb) Thorne ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny |
25. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau ond gan gynnwys hadau, Aegle Corrêa, Aeglopsis Swingle, Afraegle Engl., Atalantia Corrêa, Balsamocitrus Stapf, Burkillanthus Swingle, Calodendrum Thunb., Choisya Kunth, Clausena Burm. f., Limonia L., Microcitrus Swingle, Murraya J. Koenig ex L., Pamburus Swingle, Severinia Ten., Swinglea Merr., Triphasia Lour. neu Vepris Comm., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad; neu hadau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Candidatus Liberibacter spp., sef cyfrwng achosol clefyd Huanglongbing ffrwythau sitrws/ gwyrddu ffrwythau sitrws |
26. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau Casimiroa La Llave, Choisya Kunth, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm, Zanthoxylum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad lle y gwyddys nad yw Trioza erytreae Del Guercio yn bresennol; (b) eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Trioza erytreae Del Guercio, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu (c) eu bod wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu: (i) sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; (ii) lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Trioza erytreae Del Guercio; a (iii) lle y cynhaliwyd dau arolygiad swyddogol ar adegau priodol yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf cyn eu symud o’r safle, ac na welwyd unrhyw arwyddion o’r pla planhigion hwnnw yn y safle hwnnw neu yn yr ardal oddi amgylch hyd at o leiaf 200m o led |
27. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Aegle Corrêa, Aeglopsis Swingle, Afraegle Engl., Amyris P. Browne, Atalantia Corrêa, Balsamocitrus Stapf, Choisya Kunth, Citropsis Swingle a Kellermen, Clausena Burm. f., Eremocitrus Swingle, Esenbeckia Kunth., Glycosmis Corrêa, Limonia L., Merrillia Swingle, Microcitrus Swingle, Murraya J. Koenig ex L., Naringi Adans., Pamburus Swingle, Severinia Ten., Swinglea Merr., Tetradium Lour., Toddalia Juss., Triphasia Lour, Vepris Comm. neu Zanthoxylum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o: (a) gwlad lle y gwyddys nad yw Diaphorina citri Kuway yn bresennol; neu (b) ardal sy’n rhydd rhag Diaphorina citri Kuway, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” |
28. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Microcitrus Swingle, Naringi Adans. neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neu (b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol |
29. | Planhigion, ac eithrio hadau, Crataegus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Phyllosticta solitaria Ell. ac Ev. Yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Phyllosticta solitaria Ell. ac Ev. ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
30. | Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Fragaria L., Malus Mill., Prunus L., Pyrus L., Ribes L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol ar y genera a ganlyn:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
31. | Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill. neu Pyrus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycolpasma dirywiad gellyg yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod planhigion yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau sy’n codi amheuon ynghylch halogi gan Fycoplasma dirywiad gellyg wedi eu clirio o’r man hwnnw o fewn y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
32. | Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) bod y planhigion, ac eithrio’r rhai a dyfwyd o hadau: (i) wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu (ii) yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; a (b) na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
33. | Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Aphelenchoides besseyi Christie yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) na welwyd unrhyw symptomau Aphelenchoides besseyi Christie ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu (b) yn achos planhigion mewn meithriniad meinwe, bod y planhigion yn deillio o blanhigion a oedd yn cydymffurfio â pharagraff (a) neu fod profion swyddogol wedi eu cynnal arnynt drwy ddulliau nematolegol priodol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie |
34. | Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Anthonomus signatus Say ac Anthonomus bisignifer (Schenkling) |
35. | Planhigion, ac eithrio hadau, Malus Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol ar Malus Mill.:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod: (i) wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu (ii) yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu (b) na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
36. | Planhigion, ac eithrio hadau, Malus Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycoplasm ymlediad afalau yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm ymlediad afalau; neu (b) ac eithrio planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod: (i) wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu (ii) yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y chwe chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd, yn y profion hynny, ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; a (iii) na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan Fycoplasma ymlediad afalau ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
37. | Planhigion, ac eithrio hadau, o’r rhywogaethau Prunus L. a ganlyn, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws brech eirin yn bresennol:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) ac eithrio’r planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod: (i) wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu (ii) yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; a (b) na welwyd unrhyw symptomau’r clefydau a achosir gan Firws brech eirin ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu (c) bod planhigion yn y man cynhyrchu sydd wedi dangos symptomau clefydau a achosir gan firysau eraill neu bathogenau sy’n debyg i firysau wedi eu clirio |
38. | Planhigion Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod: (i) wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu (ii) yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; a (b) na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
39. | Planhigion Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu (b) eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; ac (c) na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
40. | Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival yn bresennol | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival (pob hil ac eithrio Hil 1, sef yr hil Ewropeaidd gyffredin) ac na welwyd unrhyw symptomau Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau cyfnod digonol |
41. | Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis spp. sepedonicus (Spieckermann a Kottoff) Davis et al. |
42. | Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio tatws cynnar, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firoid y gloronen bigfain yn bresennol | Rhaid i’r gyneddf egino fod wedi ei hatal yn y cloron |
43. | Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o gae y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens a Globodera pallida (Stone) Behrens; (b) eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol; ac (c) eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol; neu (d) mewn ardaloedd lle y gwyddys bod Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol: (i) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn seiliedig ar arolwg blynyddol o’r cnydau cynhaliol drwy gynnal arolygiad gweledol o’r planhigion cynhaliol ar adegau priodol a thrwy arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron ar ôl eu cynaeafu o gnydau tatws a dyfwyd yn y man cynhyrchu; neu (ii) bod y cloron, ar ôl cynaeafu, wedi eu hapsamplu a, naill ai wedi eu gwirio am bresenoldeb symptomau ar ôl defnyddio dull priodol i achosi symptomau, neu wedi bod yn destun profion labordy, yn ogystal ag arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron, ar adegau priodol ac ym mhob achos ar adeg selio’r pecynnau neu’r cynwysyddion cyn eu marchnata yn unol â’r darpariaethau ynghylch selio yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd, ac na chanfuwyd unrhyw symptomau Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) neu Meloidogyne fallax Karssen |
44. | Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio’r rhai a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol |
45. | Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o: (a) gwlad lle y gwyddys nad yw Scrobipalpopsis solanivora Povolny yn bresennol; neu (b) ardal sy’n rhydd rhag Scrobipalpopsis solanivora Povolny, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4 |
46. | Planhigion, ac eithrio hadau, Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycoplasm stolbur tatws yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Mycoplasm stolbur tatws ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
47. | Planhigion Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cloron Solanum tuberosum L. neu hadau Solanum lycopersicum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firoid y gloronen bigfain yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firoid y gloronen bigfain ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
48. | Planhigion, ac eithrio hadau, Capsicum annuum L., Solanum lycopersicum L., Musa L., Nicotiana L. neu Solanum melongena L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y canfuwyd ei bod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.; neu (b) na welwyd unrhyw symptomau Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
49. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4; neu (b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” |
50. | Ffrwythau Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4; (b) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu (c) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) ar sail arolygiadau ac arolygon swyddogol a gynhaliwyd yn ystod y tri mis diwethaf cyn eu hallforio, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” |
51. | Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Verticillium alboatrum Reinke a Berthold neu Verticillium dahliae Klebahn ar hopys yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
52. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L. neu Pelargonium L’Hérit. ex Ait., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Helicoverpa armigera (Hübner) a Spodoptera littoralis (Boisd.), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad cenedlaethol diogelu planhigion yn unol ag ISPM Rhif 4; (b) na welwyd unrhyw arwyddion Helicoverpa armigera (Hübner) neu Spodoptera littoralis (Boisd.) yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu (c) y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i’w diogelu rhag y plâu planhigion hynny |
53. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L. neu Pelargonium L’Hérit. ex Ait., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Spodoptera eridania (Cramer), Spodoptera frugiperda Smith a Spodoptera litura (Fabricius), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; (b) na welwyd unrhyw arwyddion Spodoptera eridania (Cramer), Spodoptera frugiperda Smith neu Spodoptera litura (Fabricius) yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu (c) y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i’w diogelu rhag y plâu planhigion hynny |
54. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn stoc o’r drydedd genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o ddeunydd y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf yn ystod profion firolegol, neu eu bod yn deillio yn uniongyrchol o ddeunydd y canfuwyd bod sampl gynrychioliadol o 10% ohono o leiaf yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf o gynnal arolygiad swyddogol yn ystod y cyfnod blodeuo; (b) bod y planhigion neu’r toriadau: (i) wedi dod o fangreoedd sydd wedi eu harolygu yn swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn eu hanfon, ac na welwyd unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings yn ystod y cyfnod hwnnw, ac na wyddys fod unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings wedi digwydd yn y cyffiniau agos yn ystod y tri mis cyn eu hallforio; neu (ii) y buont yn destun triniaeth briodol i atal Puccinia horiana Hennings; ac (c) yn achos toriadau heb wreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx naill ai ar y toriadau neu ar y planhigion yr oedd y toriadau yn deillio ohonynt, neu, yn achos toriadau â gwreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx naill ai ar y toriadau neu ar y gwely gwreiddio |
55. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul. neu Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn gwlad sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf; (b) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad sy’n allforio yn ardal sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf yn unol ag ISPM Rhif 4; neu (c) bod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn man cynhyrchu a sefydlwyd yn fan sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf ac y gwiriwyd hynny drwy arolygiadau swyddogol a, phan fo hynny’n briodol, drwy brofion |
56. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Erwinia chrysanthemi pv. dianthicola (Hellmers) Dickey, Pseudomonas caryophylli (Burkholder) Starr a Burkholder a Phialophora cinerescens (Wollenw.) Van Beyma o ganlyniad i brofion a gymeradwyir yn swyddogol, a gynhaliwyd o leiaf unwaith yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; a (b) na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion hynny ar y planhigion |
57. | Bylbiau Tulipa L. neu Narcissus L. ac eithrio’r rhai y ceir tystiolaeth ar eu deunydd pecynnu, neu drwy ddulliau eraill, a fwriedir ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu blodau wedi eu torri yn broffesiynol, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r bylbiau ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ar y planhigion ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
58. | Planhigion, ac eithrio hadau, Pelargonium L’Hérit. ex Ait., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn deillio yn uniongyrchol o fan cynhyrchu y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos; neu (b) eu bod yn stoc o’r bedwaredd genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos o dan system o brofion firolegol a gymeradwyir yn swyddogol |
59. | Planhigion, ac eithrio hadau, Pelargonium L’Hérit. ex Ait., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn deillio yn uniongyrchol o fan cynhyrchu y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos yn y pridd neu’r planhigion; neu (b) eu bod yn stoc o’r ail genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos o dan system o brofion firolegol a gymeradwyir yn swyddogol |
60. | Planhigion rhywogaethau llysieuol, ac eithrio:
a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Liriomyza sativae (Blanchard) neu Amauromyza maculosa (Malloch) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa a’u bod: (a) yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; (b) yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac y datganwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch) o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; (c) yn union cyn eu hallforio, wedi bod yn destun triniaeth briodol i atal Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch) ac wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch). Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neu (d) yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Liriomyza sativae (Blanchard) neu Amauromyza maculosa (Malloch) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
61. | Blodau Dendranthema wedi eu torri (DC.) Des Moul., Dianthus L., Gypsophila L., Solidago L. neu lysiau deiliog Apium graveolens L. neu Ocimum L, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r llysiau deiliog ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch); neu (b) yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch) |
62. | Planhigion rhywogaethau llysieuol, ac eithrio:
a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess); (b) na welwyd unrhyw arwyddion Liriomyza huidobrensis (Blanchard) neu Liriomyza trifolii (Burgess) yn y man cynhyrchu, o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu; (c) yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess) ac wedi bod yn destun triniaeth briodol i atal Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess); neu (d) eu bod yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess), wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Liriomyza huidobrensis (Blanchard) neu Liriomyza trifolii (Burgess) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
63. | Planhigion â gwreiddiau, a blannwyd neu a fwriedir ar gyfer eu plannu, sydd wedi eu tyfu yn yr awyr agored, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) y gwyddys bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. a Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival; a (b) bod y planhigion yn tarddu o gae y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens |
64. | Pridd neu gyfrwng tyfu:
| Rhaid i’r cyfrwng tyfu ddod gyda datganiad swyddogol: (a) ar adeg plannu: (i) ei fod yn rhydd rhag pridd a deunydd organig; (ii) y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag pryfed a nematodau niweidiol ac y bu’n destun archwiliad priodol neu driniaeth â gwres neu fygdarthu i sicrhau ei fod yn rhydd rhag plâu planhigion eraill; neu (iii) y bu’n destun triniaeth briodol â gwres neu fygdarthu i sicrhau ei fod yn rhydd rhag plâu planhigion; a (b) ers plannu: (i) y cymerwyd camau priodol i sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion; neu (ii) o fewn dwy wythnos cyn eu hanfon, y cafodd y planhigion eu hysgwyd er mwyn cael gwared ar y deunydd, gan adael y swm lleiaf sy’n angenrheidiol i gynnal bywiogrwydd wrth gludo, ac, os caiff y planhigion eu hailblannu, bod y cyfrwng tyfu a ddefnyddir at y diben hwnnw yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (a) |
65. | Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firws crych betys (arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd) ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
66. | Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro betys yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) y gwyddys nad yw Firws deildro betys yn bresennol yn yr ardal gynhyrchu; a (b) na welwyd unrhyw symptomau Firws crych betys yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
67. | Planhigion, ac eithrio:
a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa ac: (a) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; (b) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”, ac y datganwyd ei fod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; (c) yn union cyn eu hallforio, y buont yn destun triniaeth briodol i atal Thrips palmi Karny, a’u bod wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny. Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neu (d) eu bod yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, eu bod wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Thrips palmi Karny a’u bod yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
68. | Blodau Orchidaceae wedi eu torri neu ffrwythau Momordica L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny; neu (b) yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny |
69. | Ffrwythau Capsicum L., sy’n tarddu o Belize, Costa Rica, y Weriniaeth Ddomenicaidd, El Salvador, Guatemala, Honduras, Jamaica, Mecsico, Nicaragua, Panama, Puerto Rico, UDA neu Polynesia Ffrengig lle y gwyddys bod Anthonomus eugenii Cano yn bresennol | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu (b) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”, ac y datganwyd ei fod yn rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y ddau fis cyn eu hallforio yn y man cynhyrchu ac yn ei gyffiniau agos |
70. | Planhigion, ac eithrio hadau, Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm melynu marwol palmwydd a Firoid Cadang-Cadang, ac na welwyd unrhyw symptomau yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; (b) na welwyd unrhyw symptomau Mycoplasm melynu marwol palmwydd neu Firoid Cadang-Cadang ar y planhigion ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, a bod unrhyw blanhigion yn y man cynhyrchu sydd wedi dangos symptomau sy’n codi amheuon ynghylch halogi gan y clefydau hynny wedi eu clirio o’r man hwnnw, ac y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i gael gwared ar Myndus crudus Van Duzee; neu (c) yn achos planhigion mewn meithriniad meinwe, bod y planhigion yn deillio o blanhigion sydd wedi bodloni’r gofynion ym mharagraffau (a) neu (b) |
71. | Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Paysandisia archon (Burmeister) yn bresennol; (b) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Paysandisia archon (Burmeister), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; (c) eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio, mewn man cynhyrchu: (i) sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; (ii) lle mae’r planhigion wedi eu gosod mewn safle a oedd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Paysandisia archon (Burmeister) neu drwy gymhwyso triniaethau atal priodol; a (iii) lle na welwyd unrhyw arwyddion Paysandisia archon (Burmeister) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn allforio |
72. | Planhigion, ac eithrio hadau, Fuchsia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o UDA neu Frasil | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Aculops fuchsiae Keifer yn y man cynhyrchu, a bod y planhigion wedi eu harolygu yn union cyn eu hallforio a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aculops fuchsiae Keifer |
73. | Coed neu lwyni, ac eithrio hadau neu blanhigion mewn meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r coed a’r llwyni ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa; (b) eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; ac (c) eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio, a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau, ac organeddau sy’n debyg i firysau, a naill ai y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath |
74. | Coed neu lwyni collddail, ac eithrio hadau neu blanhigion mewn meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r coed a’r llwyni ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn blanhigion cwsg ac yn rhydd rhag dail |
75. | Planhigion unflwydd neu eilflwydd, ac eithrio planhigion Gramineae neu hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa; (b) eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; ac (c) eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio; ac (i) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; a (ii) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath |
76. | Planhigion, ac eithrio hadau, o’r teulu Gramineae, glaswelltoedd lluosflwydd addurniadol o’r is-deuluoedd Bambusoideae, Panicoideae neu o’r genera Buchloe, Bouteloua Lag., Calamagrostis, Cortaderia Stapf., Glyceria R. Br., Hakonechloa Mak. ex. Honda, Hystrix, Molinia, Phalaris L. Shibataea, Spartina Schreb., Stipa L. neu Uniola L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa; (b) eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; (c) eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio; ac (i) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; a (ii) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath |
77. | Planhigion sydd wedi eu corachu yn naturiol neu’n artiffisial, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) bod y planhigion, gan gynnwys y rheini a gasglwyd yn uniongyrchol o gynefinoedd naturiol, wedi eu tyfu, eu cadw a’u hyfforddi am ddwy flynedd yn olynol o leiaf cyn eu hanfon mewn meithrinfa a gofrestrwyd yn swyddogol sy’n ddarostyngedig i gyfundrefn reoli a oruchwylir yn swyddogol; a (b) yn ystod y cyfnod hwnnw bod y planhigion wedi, o leiaf: (i) eu plannu mewn potiau sydd wedi eu gosod ar silffoedd sydd o leiaf 50 cm uwchben lefel y ddaear; (ii) bod yn destun triniaethau priodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhydni heb fod yn Ewropeaidd (a rhaid crybwyll cynhwysyn gweithredol a chrynodiad y triniaethau hyn, a’r dyddiadau y’u defnyddiwyd, ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “disinfestation and/or disinfection treatment”); (iii) cael eu harolygu yn swyddogol o leiaf chwe gwaith y flwyddyn ar adegau priodol ar gyfer presenoldeb y plâu planhigion a grybwyllir yn yr Atodlenni i’r Gorchymyn hwn, ynghyd â’r planhigion yng nghyffiniau agos y feithrinfa, drwy archwiliad gweledol o bob rhes yn y cae neu’r feithrinfa a phob rhan o’r planhigion uwchben y cyfrwng tyfu, gan ddefnyddio hapsampl o 300 o blanhigion o leiaf o genws penodol lle nad oes mwy na 3,000 o blanhigion o’r genws hwnnw, neu 10% o’r planhigion os oes mwy na 3,000 o blanhigion o’r genws hwnnw; (iv) eu canfod, yn yr arolygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (iii), yn rhydd rhag y plâu planhigion perthnasol, neu pan fo heigiad, eu bod wedi eu symud ymaith, a bod y planhigion sy’n weddill wedi eu trin yn effeithiol, eu cadw am gyfnod priodol a’u harolygu i sicrhau eu bod yn rhydd rhag plâu planhigion o’r fath; (v) eu plannu mewn cyfrwng tyfu artiffisial sydd heb ei ddefnyddio neu mewn cyfrwng tyfu naturiol sydd wedi ei drin â mygdarthiad neu wedi ei drin yn briodol â gwres, a bod archwiliad ar ôl hynny wedi canfod eu bod yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion; a (vi) eu cadw o dan amodau sy’n sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion ac o fewn dwy wythnos cyn eu hanfon, eu bod: (aa) wedi eu hysgwyd a’u golchi â dŵr glân i symud ymaith y cyfrwng tyfu gwreiddiol a chadw’r gwreiddiau yn noeth; neu (bb) wedi eu hysgwyd a’u golchi â dŵr glân i symud ymaith y cyfrwng tyfu gwreiddiol ac wedi eu hailblannu mewn cyfrwng tyfu sy’n bodloni’r gofynion ym mharagraff (v); neu (cc) wedi bod yn destun triniaethau priodol i sicrhau bod y cyfrwng tyfu yn rhydd rhag plâu planhigion (a rhaid crybwyll y cynhwysyn gweithredol, y crynodiad a’r dyddiad y cymhwyswyd y triniaethau hyn ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “disinfestation and/or disinfection treatment”); ac (c) bod y planhigion wedi eu pecynnu mewn cynwysyddion caeedig sydd wedi eu selio yn swyddogol ac sy’n dwyn rhif cofrestru’r feithrinfa gofrestredig, a rhaid nodi’r rhif cofrestru ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” at ddibenion adnabod |
78. | Planhigion llysieuol lluosflwydd, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, o’r teuluoedd Caryophyllaceae (ac eithrio Dianthus L.), Compositae (ac eithrio Dendranthema (DC.) Des Moul., Cruciferae, Leguminosae neu Rosaceae (ac eithrio Fragaria L.), sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio unrhyw wlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa; (b) eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; ac (c) eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio, a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag: (i) symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; a (ii) arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu eu bod wedi bod yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath |
79. | Planhigion, ac eithrio bylbiau, cormau, rhisomau, hadau neu gloron, rhywogaethau llysieuol neu blanhigion Ficus L. neu Hibiscus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; (b) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac y datganwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn allforio; (c) mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, eu bod yn cael eu cadw neu eu cynhyrchu yn y man cynhyrchu hwnnw ac wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac wedi hynny canfuwyd bod y man cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y naw wythnos cyn allforio ac yn y gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neu (d) eu bod y tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn cael eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
80. | Blodau wedi eu torri Aster spp., Eryngium L., Gypsophila L., Hypericum L., Lisianthus L., Rosa L., Solidago L. neu Trachelium L. neu lysiau deiliog Ocimum L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r blodau deiliog ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd); neu (b) yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) |
81. | Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro melyn tomatos yn bresennol ac y gwyddys nad yw Bemisia tabaci Genn. yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos ar y planhigion |
82. | Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro melyn tomatos a Bemisia tabaci Genn. yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos ar y planhigion; a (i) bod y planhigion yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn.; neu (ii) y canfuwyd bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; neu (b) na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos yn y man cynhyrchu, ac y bu’r man cynhyrchu yn destun triniaeth a chyfundrefn fonitro briodol i sicrhau ei fod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. |
83. | Planhigion, ac eithrio hadau, bylbiau, cloron, cormau neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:
Bemisia tabaci Genn., a lle y gwyddys nad yw Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill y plâu planhigion perthnasol yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn |
84. | Planhigion, ac eithrio hadau, bylbiau, cloron, cormau neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn ystod cyfnod digonol, ac: (a) bod y planhigion yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. a fectorau eraill y plâu planhigion; (b) y canfuwyd bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. a fectorau eraill y plâu planhigion o gynnal arolygiadau swyddogol ar adegau priodol; (c) bod y planhigion wedi bod yn destun triniaeth briodol gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn.; neu (d) bod y planhigion yn deillio o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac nad oeddent yn dangos unrhyw symptomau Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), eu bod yn cael eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) a’u bod yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
85. | Hadau Helianthus annuus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni; neu (b) ac eithrio’r rheini a gynhyrchwyd ar amrywogaethau sydd ag ymwrthedd i bob hil Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni sy’n bresennol yn yr ardal gynhyrchu, y buont yn destun triniaeth briodol i atal Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni |
86. | Hadau Solanum lycopersicum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cael drwy ddull echdynnu ag asid priodol ac: (a) eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Clavibacter michiganensis ssp. michiganesnsis (Smith) Davis et al., Xanthomonas campestris pv. vesicatoria (Doidge) Dye neu Firoid y gloronen bigfain yn bresennol; (b) na welwyd unrhyw symptomau’r clefydau a achosir gan y plâu planhigion hynny ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn; neu (c) y bu’r hadau yn destun profion swyddogol ar gyfer y plâu planhigion hynny o leiaf, sef profion ar sampl gynrychioliadol a chan ddefnyddio dulliau priodol, ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny |
87. | Hadau Medicago sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, ac na amlygwyd Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev gan brofion labordy ar sampl gynrychioliadol; (b) bod yr hadau wedi eu mygdarthu cyn eu hallforio; neu (c) y bu’r hadau yn destun triniaeth ffisegol briodol i atal Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ar ôl cynnal profion labordy ar sampl gynrychioliadol |
88. | Hadau Medicago sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn bresennol | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) y gwyddys na fu Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn bresennol ar y fferm neu yn ei chyffiniau agos ers dechrau’r 10 mlynedd ddiwethaf; (b) naill ai: (i) bod y cnwd yn perthyn i amrywogaeth y cydnabyddir ei bod ag ymwrthedd uchel i Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al.; (ii) nad oedd wedi dechrau ei bedwerydd cylch llystyfiant cyflawn ers hau pan gafodd yr hadau eu cynaeafu, ac na fu mwy nag un cynhaeaf hadau blaenorol o’r cnwd; neu (iii) nad yw cynnwys y deunydd anadweithiol a bennwyd yn unol â’r rheolau sy’n gymwys ar gyfer ardystio hadau a farchnetir yn yr Undeb Ewropeaidd yn fwy na 0.1% o ran pwysau; (c) na welwyd unrhyw symptomau Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn y man cynhyrchu, neu ar unrhyw gnwd Medicago sativa L. cyfagos, yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf neu, pan fo’n briodol, yn ystod y ddau gylch llystyfiant diweddaraf; a (d) y tyfwyd y cnwd ar dir lle na fu unrhyw gnwd Medicago sativa L. blaenorol yn bresennol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf cyn hau |
89. | Hadau Oryza sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu profi yn swyddogol gan brofion nematolegol priodol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie; neu (b) y buont yn destun triniaeth briodol â dŵr poeth neu driniaeth briodol arall i atal Aphelenchoides besseyi Christie |
90. | Hadau Phaseolus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye; neu (b) y profwyd sampl gynrychioliadol o’r hadau a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye |
91. | Hadau Zea mays L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Erwinia stewartii (Smith) Dye; neu (b) y profwyd sampl gynrychioliadol o’r hadau a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Erwinia stewartii (Smith) Dye |
92. | Hadau o’r genera Triticum, Secale neu X Triticosecale o Affganistan, India, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA lle y gwyddys bod Tilletia indica Mitra yn bresennol | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Tilletia indica Mitra yn bresennol, a rhaid crybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio |
93. | Grawn o’r genera Triticum, Secale neu X Triticosecale o Affganistan, India, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA lle y gwyddys bod Tilletia indica Mitra yn bresennol | Rhaid i’r grawn ddod gyda datganiad swyddogol: (a) ei fod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Tilletia indica Mitra yn bresennol, a rhaid crybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “place of origin”; neu (b) na welwyd unrhyw symptomau Tilletia indica Mitra ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf ac y cymerwyd samplau cynrychioliadol o’r grawn ar adeg cynaeafu a chyn eu hanfon, a chynhaliwyd profion ar y samplau hynny a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Tilletia indica Mitra, a rhaid dangos tystiolaeth o hynny drwy nodi’r datganiad “tested and found free from Tilletia indica Mitra” ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “name of produce” |
94. | Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2002/757/EC sy’n tarddu o UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys: (a) datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”: (i) eu bod yn bodloni’r gofynion ym mhwynt 1a(a) neu 1a(b) o Atodiad I i Benderfyniad 2002/757/EC; a (ii) y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum Werres, De Cock a Man in’t Veld sp. nov.; a (b) pan fo pwynt 1a(a) o’r Atodiad hwnnw yn gymwys, enw’r ardal y maent yn tarddu ohoni o dan y pennawd “place of origin” |
95. | Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/EC sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” fod y planhigion, gan gynnwys y rheini a gasglwyd o gynefinoedd naturiol, yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1(a), (b) neu (c) o Atodiad I i Benderfyniad 2007/365/EC |
96. | Planhigion penodedig o fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”: (a) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; a (b) eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1(a), (b) neu (c) o Atodiad I i Benderfyniad 2007/433/EC |
97. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o Tsieina | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys: (a) datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol â phwynt 1 o Adran 1(B) o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU; a (b) pan fo pwynt 1(b) o’r Adran honno yn gymwys, rhaid i fan cynhyrchu’r planhigion fodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 1(c) o Benderfyniad 2012/138/EU |
98. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora chinensis (Forster) yn bresennol, ac eithrio Tsieina | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys: (a) datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol â phwynt 1 o Adran 1(A) o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU; a (b) pan fo pwynt 1(a) o’r Adran honno yn gymwys, enw’r ardal berthnasol sy’n rhydd rhag plâu o dan y pennawd “place of origin” |
99. | Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa sp.n, Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner) yn bresennol | Rhaid i’r cloron ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran 1 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/270/EU |
100. | Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, ac sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran I o Atodiad I i Benderfyniad 2012/697/EU |
101. | Paill byw Actinidia Lindl. neu blanhigion, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r paill byw neu’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran I o Atodiad I i Benderfyniad (EU) 2017/198 |
102. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio trydedd wlad lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion: (a) tarddu o drydedd wlad yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol yn unol ag Erthygl 16(a) o Benderfyniad (EU) 2015/789; a (b) dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”; (i) yn unol ag Erthygl 16(b) o’r Penderfyniad hwnnw; neu (ii) yn achos planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, yn unol ag Erthygl 16(b) a’r ail is-baragraff o Erthygl 16 o’r Penderfyniad hwnnw |
103. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys: (a) yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd fel ardal sy’n rhydd rhag Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn unol ag ISPM Rhif 4 ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol yn unol ag Erthygl 17(2)(a) o Benderfyniad (EU) 2015/789, enw’r ardal o dan y pennawd “place of origin”; (b) yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol a phan na fo’r planhigion wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyfan: (i) datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthygl 17(3) o’r Penderfyniad hwnnw; a (ii) enw’r safle y mae’r planhigion yn tarddu ohono o dan y pennawd “place of origin”; (c) yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol a’u bod wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyfan: (i) datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthygl 17(3a) o’r Penderfyniad hwnnw; a (ii) enw’r safle y mae’r planhigion yn tarddu ohono o dan y pennawd “place of origin” |
104. | Planhigion, ac eithrio hadau, Mangifera L. sy’n tarddu o India | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” sy’n disgrifio’r mesurau priodol a gymerwyd i sicrhau eu bod yn rhydd rhag organeddau niweidiol |
105. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora glabripennis (Motschulsky) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys— (a) datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(a), (b) neu (c) o Adran 1(A) o Atodiad II i Benderfyniad (EU) 2015/893; a (b) pan fo pwynt (1)(a) o’r Adran honno yn gymwys, enw’r ardal berthnasol sy’n rhydd rhag plâu o dan y pennawd “place of origin” |
106. | Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni ac sy’n cynnwys datganiad swyddogol, o dan y pennawd “Additional declaration”, bod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn ardal sy’n rhydd, ac y cedwir yn rhydd, rhag Chalara fraxinea T. Kowalski (gan gynnwys ei deleomorff Hymenoscyphus pseudoalbidus) yn unol ag ISPM Rhif 4 |
(1) Eitem | (2) Disgrifiad o’r deunydd perthnasol | (3) Gofynion o ran cyflwyno |
---|---|---|
1. | Planhigion, ac eithrio hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Scirrhia pini Funk a Parker yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
2. | Planhigion, ac eithrio hadau, Abies Mill., Larix Mill., Picea A. Dietr., Pinus L., Pseudotsuga Carr. neu Tsuga Carr., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
3. | Planhigion, ac eithrio hadau, Populus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
4. | Planhigion, ac eithrio hadau, Castanea Mill, neu Quercus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr; neu (b) na welwyd unrhyw symptomau Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
5. | Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.; neu (b) na welwyd unrhyw symptomau Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr. yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
6. | Planhigion, ac eithrio hadau, Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Candidatus Phytoplasma ulmi yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
7. | Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenonmeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o barth y cydnabyddir ei fod yn rhydd rhag Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al.; neu (b) bod y planhigion yn y cae cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al. wedi eu clirio |
8. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf. | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Spiroplasma citri Saglio et al., Phoma tracheiphila (Petri) Kanchaveli a Gikashvili a Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd); (b) bod y planhigion yn deillio o gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd sydd wedi ei gadw o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion unigol swyddogol ar gyfer, o leiaf, Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd), gan ddefnyddio profion neu ddulliau priodol yn unol â safonau rhyngwladol, a’u bod wedi bod yn tyfu yn barhaol mewn tŷ gwydr neu gaets arunig sy’n ddiogel rhag pryfed lle na welwyd unrhyw symptomau Spiroplasma citri Saglio et al., Phoma tracheiphila (Petri) Kanchaveli a Gikashvili neu Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd); neu (c) eu bod: (i) wedi deillio o gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeilio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd sydd wedi ei gadw o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion unigol swyddogol ar gyfer, o leiaf, Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd), gan ddefnyddio profion neu ddulliau priodol yn unol â safonau rhyngwladol, ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd) ac ardystiwyd eu bod yn rhydd rhag o leiaf Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd) mewn profion unigol swyddogol a gynhaliwyd yn unol â’r dulliau a grybwyllir yn y paragraff hwn; a (ii) wedi eu harolygu ac na welwyd unrhyw symptomau Spiroplasma citri Saglio et al., Phoma tracheiphila (Petri) Kanchaveli a Gikashvili neu Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd) ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
9. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Choisya Kunth, Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Casimiroa La Llave, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm., neu Zanthoxylum L. | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Trioza erytreae Del Guercio, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; (b) eu bod wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu: (i) sydd wedi ei gofrestru a’i oruchwylio gan yr awdurdod cymwys perthnasol yn yr Aelod-wladwriaeth y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; (ii) lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Trioza erytreae Del Guercio; a (iii) lle y cynhaliwyd dau arolygiad swyddogol ar adegau priodol yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf cyn eu symud o’r safle, ac na welwyd unrhyw arwyddion o’r pla planhigion hwnnw yn y safle hwnnw neu yn yr ardal oddi amgylch hyd at o leiaf 200m o led |
10. | Planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) na welwyd unrhyw halogi gan Radopholus similis (Cobb) Thorne yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu (b) y bu pridd a gwreiddiau o’r planhigion a amheuir yn destun, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, i brofion nematolegol swyddogol ar gyfer o leiaf Radopholus similis (Cobb) Thorne ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw |
11. | Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., Prunus L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (c) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag y plâu planhigion a ganlyn: (i) yn achos Fragaria L.:
(ii) yn achos Prunus L.:
(iii) yn achos Prunus persica (L.) Batsch:
(iv) yn achos Rubus L.:
(d) na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion ym mharagraff (a) ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
12. | Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill. neu Pyrus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm dirywiad gellyg; neu (b) bod planhigion yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau sy’n codi amheuon o halogi gan Fycoplasma dirywiad gellyg wedi eu clirio o’r man hwnnw o fewn y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
13. | Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie; (b) na welwyd unrhyw symptomau Aphelenchoides besseyi Christie ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu (c) yn achos planhigion mewn meithriniad meinwe, bod y planhigion yn deillio o blanhigion sy’n cydymffurfio â pharagraff (b) neu wedi eu profi yn swyddogol drwy ddulliau nematolegol priodol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie |
14. | Planhigion, ac eithrio hadau, Malus Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm ymlediad afalau; neu (b) ac eithrio’r planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod: (i) wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu (ii) yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y chwe chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; ac (c) na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan Fycoplasma ymlediad afalau ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu yn ei gyffiniau agos ar blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
15. | Planhigion, ac eithrio hadau, y rhywogaethau Prunus L. a ganlyn a fwriedir ar gyfer eu plannu:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Firws brech eirin; (b) ac eithrio’r planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod: (i) wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu (ii) yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; ac (c) na welwyd unrhyw symptomau’r clefyd a achosir gan Firws brech eirin ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; a (d) bod planhigion yn y man cynhyrchu sydd wedi dangos symptomau clefydau a achosir gan firysau eraill neu bathogenau sy’n debyg i firysau wedi eu clirio |
16. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L. | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Flavescence dorée MLO gwinwydd neu Xylophilus ampelinus (Panagopoulos) Willems et al. ar y planhigion tarddiol yn y man cynhyrchu ers dechrau’r ddau gylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
17. | Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol: (a) y cydymffurfiwyd â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival; (b) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis spp. sepedonicus (Spieckermann a Kottoff) Davis et al. neu y cydymffurfiwyd â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Clavibacter michiganensis spp. sepedonicus(Spieckermann a Kottoff) Davis et al.; (c) eu bod yn tarddu o ardal: (i) lle y gwyddys nad yw Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol; neu (ii) lle y gwyddys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol, a bod y cloron yn tarddu o fan cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., neu yr ystyrir ei fod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ganlyniad i roi gweithdrefn briodol ar waith gyda’r nod o ddileu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.; a (d) eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) na Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol neu ardal lle y gwyddys bod Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) neu Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol a: (i) eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn seiliedig ar arolwg blynyddol o’r cnydau cynhaliol drwy gynnal arolygiad gweledol o’r planhigion cynhaliol ar adegau priodol a thrwy arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron ar ôl eu cynaeafu o gnydau tatws a dyfwyd yn y man cynhyrchu; neu (ii) bod y cloron, ar ôl cynaeafu, wedi eu hapsamplu a’u gwirio am bresenoldeb symptomau ar ôl defnyddio dull priodol i achosi symptomau, neu wedi bod yn destun profion labordy, yn ogystal ag arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron, ar adegau priodol ac ym mhob achos ar adeg selio’r pecynnau neu’r cynwysyddion cyn eu marchnata yn unol â’r darpariaethau ynghylch selio yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(1), ac na chanfuwyd unrhyw symptomau Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) neu Meloidogyne fallax Karssen |
18. | Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r rheini sydd i’w plannu yn unol ag Erthygl 4(4)(b) o Gyfarwyddeb 2007/33/EC | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol y cydymffurfir â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens |
19. | Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cloron y rhywogaethau hynny a dderbynnir mewn un neu ragor o Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC ar y catalog cyffredin o amrywogaethau rhywogaethau planhigion amaethyddol(2) | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod: (a) yn perthyn i ddetholiadau datblygedig, gyda datganiad o’r fath wedi ei nodi mewn ffordd briodol ar y ddogfen sy’n mynd gyda’r cloron; (b) wedi eu cynhyrchu yn yr Undeb Ewropeaidd; (c) wedi deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion cwarantin swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd yn unol â dulliau priodol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag plâu planhigion |
20. | Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r cloron Solanum tuberosum L. hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 17 i 19, gyda deunydd cynnal meithriniad yn cael ei gadw mewn cronfeydd genynnau neu gasgliadau o stoc genetig neu hadau Solanum tuberosum L., a bennir yng ngholofn 2 o eitem 21 | Rhaid i’r planhigion fod wedi eu cadw o dan amodau cwarantin a: (a) rhaid eu bod wedi eu canfod yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion mewn profion cwarantin a oedd: (i) wedi eu goruchwylio gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth dan sylw ac wedi eu cynnal gan staff y sefydliad hwnnw sydd wedi cael hyfforddiant gwyddonol, neu gan staff unrhyw gorff a gymeradwyir yn swyddogol sydd wedi cael hyfforddiant o’r fath; (ii) wedi eu cynnal ar safle sydd â chyfleusterau priodol sy’n ddigonol i atal plâu planhigion a chadw’r deunydd, gan gynnwys planhigion dangosol, mewn modd sy’n atal unrhyw risg o ledaenu plâu planhigion; (iii) wedi eu cynnal ar bob uned o’r deunydd: (aa) drwy gynnal archwiliadau gweledol ar adegau rheolaidd yn ystod hyd cyfan o leiaf un cylch llystyfiant, gan roi sylw i’r math o ddeunydd a’i gam datblygu yn ystod y rhaglen brofi, ar gyfer symptomau a achosir gan blâu planhigion; a (bb) drwy gynnal profion:
(iv) wedi cynnwys profion priodol ar unrhyw symptom arall a welwyd yn yr archwiliad gweledol er mwyn adnabod y plâu planhigion sydd wedi achosi symptomau o’r fath; (b) rhaid i unrhyw ddeunydd y canfuwyd nad oedd yn rhydd, o dan y profion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a), rhag plâu planhigion a bennir yn y paragraff hwnnw fod wedi ei ddifa ar unwaith neu fod yn destun gweithdrefnau sy’n dileu’r plâu planhigion; ac (c) rhaid i bob sefydliad neu gorff ymchwil sy’n cadw’r deunydd hwn hysbysu Sefydliad Diogelu Planhigion swyddogol ei Aelod-wladwriaeth ynghylch y deunydd a gedwir |
21. | Hadau Solanum tuberosum L, ac eithrio’r rheini a bennir yng ngholofn 2 o eitem 22 | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod: (i) yn deillio o blanhigion sy’n cydymffurfio â’r gofynion a bennir yng ngholofn 3 o eitemau 17 i 20; a (ii) yn tarddu o ardaloedd y gwyddys eu bod yn rhydd rhag Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival, Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al., Ralstonia solanancearum (Smith) Yabuuchi et al. a Firoid y gloronen bigfain; neu (b) eu bod wedi eu cynhyrchu mewn safle lle na welwyd unrhyw symptomau o’r clefyd a achosir gan y plâu planhigion hynny ers dechrau’r cylch llystyfiant diweddaraf a phan fo’r camau a ganlyn wedi eu cymryd: (i) bod y safle wedi ei wahanu oddi wrth blanhigion mochlysaidd eraill a phlanhigion eraill sy’n cynnal Firoid y gloronen bigfain; (ii) bod staff ac eitemau eraill, megis offer, peiriannau, cerbydau, llestri a deunydd pecynnu, o safleoedd eraill sy’n cynhyrchu planhigion mochlysaidd a phlanhigion eraill sy’n cynnal Firoid y gloronen bigfain, wedi eu hatal rhag dod i gysylltiad â’r safle neu y cymerwyd mesurau hylendid priodol eraill i atal heintio gan staff sy’n gweithio, neu eitemau a ddefnyddiwyd, ar safleoedd eraill sy’n cynhyrchu planhigion mochlysaidd a phlanhigion eraill sy’n cynnal Firoid y gloronen bigfain; (iii) mai dim ond dŵr sy’n rhydd rhag y plâu planhigion hynny a ddefnyddiwyd |
22. | Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n cael eu storio mewn cronfeydd genynnau neu gasgliadau stoc genetig | Rhaid i bob sefydliad neu gorff ymchwil sy’n cadw deunydd o’r fath hysbysu Sefydliad Diogelu Planhigion swyddogol ei Aelod-wladwriaeth am y deunydd a gedwir |
23. | Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio’r rheini a grybwyllir yng ngholofn 2 o eitemau 18 i 22 | Rhaid bod tystiolaeth ar ffurf rhif cofrestru a roddir ar y deunydd pecynnu, neu yn achos tatws rhydd a gludir mewn swmp, ar y cerbyd sy’n cludo’r tatws, bod y tatws wedi eu tyfu gan gynhyrchwr sydd wedi ei gofrestru yn swyddogol, neu’n tarddu o ganolfannau storio neu anfon ar y cyd sydd wedi eu cofrestru yn swyddogol sydd wedi eu lleoli yn yr ardal gynhyrchu, yn nodi bod y cloron yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. ac y cydymffurfiwyd â’r darpariaethau a ganlyn: (a) darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival; (b) pan fo’n briodol, darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al.; ac (c) darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens |
24. | Planhigion, ac eithrio hadau, Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio planhigion a grybwyllir yng ngholofn 2 o eitemau 22 a 23 | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm stolbur tatws; neu (b) na welwyd unrhyw symptomau Mycoplasm stolbur tatws ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
25. | Planhigion gyda gwreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r rheini sydd i’w plannu yn unol ag Erthygl 4(4)(a) o Gyfarwyddeb 2007/33/EC | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol y cydymffurfiwyd â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens |
26. | Planhigion gyda gwreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L., Musa L. neu Solanum melongena L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. neu (b) na welwyd unrhyw symptomau Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
27. | Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Verticillium albo-atrum Reinke a Berthold neu Verticillium dahliae Klebahn ar hopys yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
28. | Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Paysandisia archon (Burmeister), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; (b) eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio, mewn man cynhyrchu: (i) sydd wedi ei gofrestru a’i oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; (ii) lle yr oedd y planhigion wedi eu gosod mewn safle a oedd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Paysandisia archon (Burmeister) neu drwy gymhwyso triniaethau ataliol priodol; a (iii) lle na welwyd, yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, unrhyw arwyddion Paysandisia archon (Burmeister) |
29. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L. neu Pelargonium L’Hérit. ex Ait., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Helicoverpa armigera (Hübner) a Spodoptera littoralis (Boisd.), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad cenedlaethol diogelu planhigion yn unol ag ISPM Rhif 4; (b) na welwyd unrhyw arwyddion Helicoverpa armigera (Hübner) neu Spodoptera littoralis (Boisd.) yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu (c) y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i’w diogelu rhag y plâu planhigion hynny |
30. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn stoc o’r drydedd genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o ddeunydd y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf yn ystod profion firolegol, neu eu bod yn deillio yn uniongyrchol o ddeunydd y canfuwyd bod sampl gynrychioliadol o 10% ohono o leiaf yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf yn ystod arolygiad swyddogol a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod blodeuo; (b) bod y planhigion neu’r toriadau: (i) wedi dod o fangre sydd wedi ei harolygu yn swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn eu hanfon, ac na welwyd unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings yno yn ystod y cyfnod hwnnw, a gwyddys nad oes unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings wedi bod yn bresennol yn y cyffiniau agos yn ystod y tri mis cyn eu marchnata; neu (ii) y buont yn destun triniaeth briodol i atal Puccinia horiana Hennings; ac (c) yn achos toriadau heb wreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx ar y toriadau neu’r planhigion yr oedd y toriadau yn deillio ohonynt neu, yn achos toriadau â gwreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx naill ai ar y toriadau neu ar y gwely gwreiddio |
31. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Erwinia chrysanthemi pv. Dianthicola (Hellmers) Dickey, Pseudomonas caryophylli (Burkholder) Starr a Burkholder a Phialophora cinerescens (Wollenw.) Van Beyma drwy brofion a gymeradwyir yn swyddogol, a gynhaliwyd o leiaf unwaith yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; a (b) na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion hyn ar y planhigion |
32. | Bylbiau Tulipa L. neu Narcissus L. ac eithrio’r rheini y mae tystiolaeth ar eu deunydd pecynnu, neu drwy ddulliau eraill, a fwriedir ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu blodau wedi eu torri yn broffesiynol | Rhaid i’r bylbiau ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Fililjev ar y bylbiau ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
33. | Planhigion rhywogaethau llysieuol, ac eithrio:
Gramineae,
a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess); (b) na welwyd unrhyw arwyddion Liriomyza huidobrensis (Blanchard) neu Liriomyza trifolii (Burgess) yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu; (c) yn union cyn eu marchnata, bod y planhigion wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess) ac y buont yn destun triniaeth briodol i atal Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess); neu (d) eu bod yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess), eu bod wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess) a’u bod yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
34. | Planhigion â gwreiddiau, a blannwyd neu a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfir yn yr awyr agored | Rhaid bod tystiolaeth y gwyddys bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. a Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival |
35. | Y planhigion â gwreiddiau a ganlyn a dyfir yn yr awyr agored, Allium porrum L., Asparagus officinalis L., Beta vulgaris L., Brassica spp. neu Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r planhigion hynny sydd i’w plannu yn unol ag Erthygl 4.4(a) neu (c) o Gyfarwyddeb 2007/33/EC | Rhaid bod tystiolaeth y cydymffurfir â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens |
36. | Bylbiau, cloron neu risomau, a dyfir yn yr awyr agored, Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Dahlia spp., Gladiolus Tourn. ex L., Hyacinthus spp., Iris spp., Lilium spp., Narcissus L. neu Tulipa L., ac eithrio’r bylbiau, y cloron neu’r rhisomau hynny sydd i’w plannu yn unol ag Erthygl 4.4(a) neu (c) o Gyfarwyddeb 2007/33/EC | Rhaid bod tystiolaeth y cydymffurfir â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens |
37. | Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Firws deildro betys; neu (b) y gwyddys nad yw Firws deildro betys yn bresennol yn yr ardal gynhyrchu, ac na welwyd unrhyw symptomau Firws crych betys yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
38. | Hadau Helianthus annuus L. | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni; neu (b) ac eithrio’r rheini a gynhyrchwyd ar amrywogaethau sydd ag ymwrthedd i bob hil Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni sy’n bresennol yn yr ardal gynhyrchu, y buont yn destun triniaeth briodol i atal Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni |
39. | Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Firws deildro melyn tomatos; (b) na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos ar y planhigion; a (i) bod y planhigion yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn.; neu (ii) y canfuwyd bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; neu (c) na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos yn y man cynhyrchu, ac y bu’r man cynhyrchu yn destun triniaeth a chyfundrefn fonitro briodol i sicrhau ei fod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. |
40. | Hadau Solanum lycopersicum L. | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cael drwy ddull echdynnu ag asid priodol ac: (a) eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Clavibacter michiganensis ssp. michiganesnsis (Smith) Davis et al., neu Xanthomonas campestris pv. vesicatoria (Doidge) Dye yn bresennol; (b) na welwyd unrhyw symptomau’r clefydau a achosir gan y plâu planhigion hynny ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn; neu (c) y bu’r hadau yn destun profion swyddogol ar gyfer y plâu planhigion hynny o leiaf, ar sampl gynrychioliadol a chan ddefnyddio dulliau priodol, ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny |
41. | Hadau Medicago sativa L. | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, ac na amlygwyd Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev gan brofion labordy ar sampl gynrychioliadol; (b) bod mygdarthu wedi digwydd cyn eu marchnata; neu (c) y bu’r hadau yn destun triniaeth ffisegol briodol i atal Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ar ôl cynnal profion labordy ar sampl gynrychioliadol |
42. | Hadau Medicago sativa L. | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al.; neu (b) y gwyddys nad oedd Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn bresennol ar y fferm neu yn ei chyffiniau agos ers dechrau’r 10 mlynedd diweddaraf; a (i) bod y cnwd yn perthyn i amrywogaeth y cydnabyddir ei bod ag ymwrthedd uchel i Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al.; (ii) nad oedd wedi dechrau ei bedwerydd cylch llystyfiant cyflawn ers hau pan gafodd yr hadau eu cynaeafu, ac na fu mwy nag un cynhaeaf hadau blaenorol o’r cnwd; neu (iii) nad yw cynnwys y deunydd anadweithiol a bennwyd yn unol â’r rheolau sy’n gymwys ar gyfer ardystio hadau a farchnetir yn yr Undeb Ewropeaidd yn fwy na 0.1% o ran pwysau; (c) na welwyd unrhyw symptomau Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn y man cynhyrchu, neu ar unrhyw gnwd Medicago sativa L. cyfagos, yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf neu, pan fo’n briodol, yn ystod y ddau gylch llystyfiant diweddaraf; a (d) bod y cnwd wedi ei dyfu ar dir lle nad oes unrhyw gnwd Medicago sativa L. blaenorol wedi bod yn bresennol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf cyn hau |
43. | Hadau Phaseolus L. | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye; neu (b) y profwyd sampl gynrychioliadol o’r hadau a chanfuwyd ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye |
44. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf. | Rhaid i’r deunydd pecynnu, unrhyw label sydd ynghlwm wrth y deunydd pecynnu neu unrhyw ddogfen a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach sy’n dod gyda’r llwyth ddwyn nod tarddiad priodol (caiff y nod hwnnw fod yn gyfeiriad at enw’r wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni) |
45. | Planhigion, ac eithrio hadau, Viburnum spp. L., Camellia spp. neu Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch, a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 3 o Atodiad I i Benderfyniad 2002/757/EC |
46. | Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/EC | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu yn unol â’r gofynion a bennir ym mhwynt 2(a), (b), (c) neu (d) o Atodiad I i Benderfyniad 2007/365/EC |
47. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Adran II o Atodiad I i Benderfyniad 2007/433/EC |
48. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 6 o’r Penderfyniad hwnnw | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1 o Adran 2 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU |
49. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU nad ydynt yn tarddu o fan cynhyrchu sydd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 6 o’r Penderfyniad hwnnw ond a gyflwynwyd i fan cynhyrchu o’r fath | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod y man cynhyrchu y cyflwynwyd y planhigion iddo yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1(iii) o Adran 2 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU |
50. | Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rheini a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU, ac eithrio’r rheini sy’n tarddu o Gymru ac sydd ond yn cael eu symud o fewn ardal o’r fath | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(a) i (c) o Adran 2 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/270/EU |
51. | Paill byw Actinidia Lindl. neu blanhigion, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl. a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r paill a’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r un o’r gofynion a bennir ym mhwynt (2) a, phan fo’n briodol, un o’r gofynion ym mhwynt (3) o Atodiad II i Benderfyniad 2017/198/EU |
52. | Planhigion cynhaliol o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 nad ydynt erioed wedi eu tyfu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9(8)(a) o Benderfyniad (EU) 2015/789; neu (b) yn achos planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn ail is-baragraff Erthygl 9(8) o’r Penderfyniad hwnnw |
53. | Planhigion tarddiol cyn-sylfaenol fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(3) o Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/98/EU neu ddeunydd cyn-sylfaenol fel y’i diffinnir yn Erthygl 2(5) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/90EC:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9(9)(a) a (b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 |
54. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789, ac eithrio’r rheini sy’n perthyn i’r amrywogaethau a bennir yn Atodiad III i’r Penderfyniad hwnnw, sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw | Rhaid i’r planhigion: (a) yn achos planhigion nad ydynt wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyflawn: (i) dod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9(2) i (4) a (5) o Benderfyniad (EU) 2015/789; neu (ii) yn achos planhigion cwsg, ac eithrio hadau, Vitis a fwriedir ar gyfer eu plannu, ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9(4a) a (5) o’r Penderfyniad hwnnw; (b) yn achos planhigion sydd wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyflawn, ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9a(2) a (3) o’r Penderfyniad hwnnw, a chael eu cludo yn y dull a bennir yn Erthygl 9a(4) o’r Penderfyniad hwnnw |
55. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 7 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i fan cynhyrchu mewn ardal o’r fath | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 7 o Benderfyniad (EU) 2015/893, eu bod wedi eu tyfu yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu symud, neu yn achos planhigion sy’n iau na dwy flynedd, drwy gydol eu bywyd, mewn man cynhyrchu sy’n bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(a) a (b) o Adran 2(A) o Atodiad II i’r Penderfyniad hwnnw; a (b) eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(c) o’r Adran honno |
56. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka sydd:
| Rhaid i’r ffrwythau fod: (a) wedi eu pecynnu a’u labelu yn unol ag Erthygl 17 o’r Penderfyniad hwnnw; a (b) yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu cyflwyno i Gymru, eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru. |
57. | Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans. neu Swinglea Merr. sydd:
| Rhaid i’r ffrwythau fod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu cyflwyno i Gymru, eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru |
58. | Planhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn ardal sy’n rhydd, ac a gedwir yn rhydd, rhag Chalara fraxinea T. Kowalski (gan gynnwys ei deleomorff Hymenoscyphus pseudoalbidus) yn unol ag ISPM Rhif 4 |
59. | Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio’r rheini a grybwyllir yng ngholofn 2 o eitemau 19 i 22, sy’n tarddu o Wlad Pwyl | Rhaid i’r cloron ddod gyda thystysgrif a ddyroddir gan gorff cyfrifol swyddogol Gwlad Pwyl yn cadarnhau y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. mewn profion labordy swyddogol |
60. | Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rheini a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw ardal o Sbaen sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac eithrio’r rheini sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU neu Ynysoedd Baleares | Rhaid i’r cloron fod wedi eu golchi fel nad oes mwy na 0.1% o bridd yn weddill |
(1) Eitem | (2) Disgrifiad o’r deunydd perthnasol | (3) Gofynion glanio |
---|---|---|
1. | Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu Armenia, y Swistir neu UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd: (a) mewn ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr., a sefydlwyd yn unol ag ISPM Rhif 4; neu (b) mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr. |
2. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle na wyddys bod Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller yn bresennol; (b) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; (c) eu bod wedi eu cynhyrchu mewn meithrinfeydd y canfuwyd eu bod, ynghyd â’u cyffiniau, yn rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller ar sail arolygiadau swyddogol ac arolygon swyddogol a gynhaliwyd ar adegau priodol; neu (d) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller ac a arolygwyd ar adegau priodol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller |
3. | Planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd: (a) mewn man cynhyrchu mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr yn bresennol; (b) mewn ardal sy’n rhydd rhag Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu (c) mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr |
4. | Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. yn bresennol; (b) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al., sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; (c) eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o blanhigion tarddiol nad ydynt wedi dangos unrhyw symptomau Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf ac na welwyd unrhyw symptomau’r pla planhigion hwnnw ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu (d) yn achos planhigion Prunus laurocerasus L. neu Prunus lusitanica L. y ceir tystiolaeth amdanynt o’u deunydd pecynnu neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, na welwyd unrhyw symptomau Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r tymor tyfu cyflawn diweddaraf |
5. | Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart., Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth, Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart., neu Washingtonia Raf. | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Paysandisia archon (Burmeister) yn bresennol; (b) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Paysandisia archon (Burmeister), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu (c) eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio neu eu symud, mewn man cynhyrchu: (i) sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; (ii) lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Paysandisia archon (Burmeister); a (iii) lle na welwyd unrhyw arwyddion Paysandisia archon (Burmeister) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn eu symud o’r man cynhyrchu |
6. | Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendle., Borassus flabellifer L., Brahea armata S. Watson, Brahea edulis H. Wendl., Butia capitata (Mart.) Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. ex Mart., Chamaerops humilis L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubae chilensis (Molina) Baill., Livistona australis C. Martius, Livistona decora (W. Bull) Dowe, Livistona rotundifolia (Lam.) Mart., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix canariensis Chabaud, Phoenix dactylifera L., Phoenix reclinata Jacq., Phoenix roebelenii O’Brien, Phoenix sylvestris (L.) Roxb., Phoenix theophrasti Greuter, Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal palmetto (Walter) Lodd. ex Schult. a Schult. F., Syagrus roman-zoffiana (Cham.) Glassman, Trachycarpus fortunei (Hook.) H. Wendl. neu Washingtonia Raf. | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) yn bresennol; (b) eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Rhynchophorus ferrugineus (Olivier), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu (c) eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio neu eu symud, mewn man cynhyrchu: (i) sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; (ii) lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Rhynchophorus ferrugineus (Olivier); a (iii) lle na welwyd unrhyw arwyddion Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn eu symud o’r man cynhyrchu |
7. | Toriadau Euphorbia pulcherrima Willd. a ddiwreiddiwyd, a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd); (b) na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar y toriadau nac ar y planhigion y mae’r toriadau yn deillio ohonynt ac a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod cyfnod cynhyrchu cyfan y planhigion hyn yn y man cynhyrchu; neu (c) mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y toriadau a’r planhigion y mae’r toriadau yn deillio ohonynt ac a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwn yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu hwn, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud |
8. | Planhigion Euphorbia pulcherrima Willd., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio:
| Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd); (b) na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar blanhigion yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn marchnata; neu (c) mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y planhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwn yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu hwn, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud; a (d) bod tystiolaeth ar gael eu bod wedi eu cynhyrchu o doriadau sydd: (i) yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd); (ii) wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu lle na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod cyfnod cynhyrchu cyfan y planhigion hyn; neu (iii) mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, wedi eu tyfu ar blanhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu sydd wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud |
9. | Planhigion, ac eithrio hadau, cloron neu gormau, Begonia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu blanhigion, ac eithrio hadau, Dipladenia A.DC., Ficus L., Hibiscus L., Mandevilla Lindl. neu Nerium oleander L., a fwriedir ar gyfer eu plannu | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol: (a) eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd); (b) na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar blanhigion yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn marchnata; (c) pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y planhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod dan sylw; neu (d) yn achos planhigion y ceir tystiolaeth o’u deunydd pecynnu neu o ddatblygiad eu blodau neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) yn union cyn eu symud |
10. | Planhigion Castanea Mill., ac eithrio planhigion mewn meithriniad meinwe, ffrwythau neu hadau | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd: mewn man cynhyrchu mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu yn bresennol; (a) mewn ardal sy’n rhydd rhag Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu (b) mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu |
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. l, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: