Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

RHAN CDeunydd perthnasol na chaniateir ei lanio yng Nghymru na’i symud o fewn Cymru (fel parth gwarchod) oni chydymffurfir â gofynion arbennig

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Gofynion glanio

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu Armenia, y Swistir neu UDA

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd:

(a)

mewn ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr., a sefydlwyd yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(b)

mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.

2.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle na wyddys bod Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;

(c)

eu bod wedi eu cynhyrchu mewn meithrinfeydd y canfuwyd eu bod, ynghyd â’u cyffiniau, yn rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller ar sail arolygiadau swyddogol ac arolygon swyddogol a gynhaliwyd ar adegau priodol; neu

(d)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller ac a arolygwyd ar adegau priodol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller

3.Planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd:

(a)

mewn man cynhyrchu mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr yn bresennol;

(b)

mewn ardal sy’n rhydd rhag Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(c)

mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr

4.Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al., sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;

(c)

eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o blanhigion tarddiol nad ydynt wedi dangos unrhyw symptomau Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf ac na welwyd unrhyw symptomau’r pla planhigion hwnnw ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(d)

yn achos planhigion Prunus laurocerasus L. neu Prunus lusitanica L. y ceir tystiolaeth amdanynt o’u deunydd pecynnu neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, na welwyd unrhyw symptomau Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r tymor tyfu cyflawn diweddaraf

5.Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart., Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth, Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart., neu Washingtonia Raf.

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Paysandisia archon (Burmeister) yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Paysandisia archon (Burmeister), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(c)

eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio neu eu symud, mewn man cynhyrchu:

(i)

sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Paysandisia archon (Burmeister); a

(iii)

lle na welwyd unrhyw arwyddion Paysandisia archon (Burmeister) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn eu symud o’r man cynhyrchu

6.Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendle., Borassus flabellifer L., Brahea armata S. Watson, Brahea edulis H. Wendl., Butia capitata (Mart.) Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. ex Mart., Chamaerops humilis L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubae chilensis (Molina) Baill., Livistona australis C. Martius, Livistona decora (W. Bull) Dowe, Livistona rotundifolia (Lam.) Mart., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix canariensis Chabaud, Phoenix dactylifera L., Phoenix reclinata Jacq., Phoenix roebelenii O’Brien, Phoenix sylvestris (L.) Roxb., Phoenix theophrasti Greuter, Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal palmetto (Walter) Lodd. ex Schult. a Schult. F., Syagrus roman-zoffiana (Cham.) Glassman, Trachycarpus fortunei (Hook.) H. Wendl. neu Washingtonia Raf.

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Rhynchophorus ferrugineus (Olivier), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(c)

eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio neu eu symud, mewn man cynhyrchu:

(i)

sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Rhynchophorus ferrugineus (Olivier); a

(iii)

lle na welwyd unrhyw arwyddion Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn eu symud o’r man cynhyrchu

7.Toriadau Euphorbia pulcherrima Willd. a ddiwreiddiwyd, a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar y toriadau nac ar y planhigion y mae’r toriadau yn deillio ohonynt ac a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod cyfnod cynhyrchu cyfan y planhigion hyn yn y man cynhyrchu; neu

(c)

mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y toriadau a’r planhigion y mae’r toriadau yn deillio ohonynt ac a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwn yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu hwn, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud

8.

Planhigion Euphorbia pulcherrima Willd., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio:

  • hadau,

  • y planhigion hynny y ceir tystiolaeth o’u deunydd pecynnu neu o ddatblygiad eu blodau (neu eu bractau) neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu i gwsmeriaid terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, neu

  • y rheini a bennir yn eitem 7

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar blanhigion yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn marchnata; neu

(c)

mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y planhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwn yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu hwn, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud; a

(d)

bod tystiolaeth ar gael eu bod wedi eu cynhyrchu o doriadau sydd:

(i)

yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd);

(ii)

wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu lle na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod cyfnod cynhyrchu cyfan y planhigion hyn; neu

(iii)

mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, wedi eu tyfu ar blanhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu sydd wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud

9.

Planhigion, ac eithrio hadau, cloron neu gormau, Begonia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu blanhigion, ac eithrio hadau, Dipladenia A.DC., Ficus L., Hibiscus L., Mandevilla Lindl. neu Nerium oleander

L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar blanhigion yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn marchnata;

(c)

pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y planhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod dan sylw; neu

(d)

yn achos planhigion y ceir tystiolaeth o’u deunydd pecynnu neu o ddatblygiad eu blodau neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) yn union cyn eu symud

10.Planhigion Castanea Mill., ac eithrio planhigion mewn meithriniad meinwe, ffrwythau neu hadau

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd:

mewn man cynhyrchu mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu yn bresennol;

(a)

mewn ardal sy’n rhydd rhag Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(b)

mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu