xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 2(1)

ATODLEN 9Y gofynion o ran pasbortau planhigion

RHAN AY gofynion o ran pasbortau planhigion ar gyfer unrhyw ddeunydd perthnasol yn Atodlen 6 neu 7

1.  Caniateir ond dyrannu pasbort planhigion mewn cysylltiad â deunydd perthnasol a fu’n destun arolygiad boddhaol yn y man y’i cynhyrchwyd.

2.  Rhaid i basbort planhigion fod ar ffurf—

(a)label swyddogol sy’n cynnwys o leiaf fanylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4(a) i (e); a

(b)dogfen o fath a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach sy’n cynnwys holl fanylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4.

3.  Ond pan fo’r pasbort planhigion yn ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol y cyfeirir ato yn Rhan B, caiff y pasbort planhigion fod ar ffurf label swyddogol sy’n cynnwys manylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4 ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol o dan Ran B.

4.  Mae manylion y pasbort planhigion fel a ganlyn—

(a)y teitl “EU-plant passport”;

(b)y cod ar gyfer yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y pasbort planhigion;

(c)enw neu god corff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y pasbort planhigion;

(d)rhif cofrestru’r cynhyrchydd, y mewnforiwr neu berson arall sydd wedi ei awdurdodi i ddyroddi’r pasbort planhigion neu’r sawl y dyroddwyd y pasbort planhigion iddynt;

(e)rhif wythnos y dyddiad yr atodwyd y pasbort planhigion i’r deunydd perthnasol, neu rif cyfresol neu rif swp sy’n fodd o adnabod y deunydd hwnnw;

(f)enw botanegol Lladin y deunydd perthnasol y mae’r pasbort planhigion yn ymwneud ag ef;

(g)nifer y deunydd perthnasol y mae’r pasbort planhigion yn ymwneud â hwy (nifer y planhigion, y cynhyrchion planhigion, cyfaint neu bwysau);

(h)pan fo’r deunydd perthnasol yn bodloni’r gofynion ar gyfer parth gwarchod, y nod “ZP” a’r cod ar gyfer y parth gwarchod;

(i)yn achos pasbort planhigion amnewid, y nod “RP” a, phan fo’n briodol, god ar gyfer y cynhyrchydd neu’r mewnforiwr a awdurdodwyd i ddyroddi’r pasbort planhigion gwreiddiol neu’r sawl y dyroddwyd y pasbort planhigion iddynt;

(j)yn achos deunydd perthnasol sy’n tarddu o drydedd wlad, enw’r wlad y mae’r deunydd yn tarddu ohoni neu (os yw’n briodol), y wlad y traddodwyd y deunydd ohoni i Gymru.

5.  O ran label swyddogol—

(a)ni chaiff fod wedi ei ddefnyddio’n flaenorol;

(b)rhaid iddo fod wedi ei wneud o ddeunydd sy’n addas at ei ddiben; ac

(c)yn achos label gludiog, rhaid iddo fod ar ffurf a gymeradwyir at ddefnydd fel label swyddogol gan—

(i)yn achos pasbortau planhigion a ddyroddir yng Nghymru, Gweinidogion Cymru;

(ii)yn achos pasbortau planhigion a ddyroddir mewn mannau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, y corff swyddogol cyfrifol sydd â chyfrifoldeb mewn perthynas â dyroddi pasbortau planhigion yn y rhan berthnasol o’r Undeb Ewropeaidd.

6.—(1Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn pasbort planhigion—

(a)bod mewn o leiaf un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd;

(b)bod wedi ei hargraffu, ac eithrio pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

(2Pan fo’r wybodaeth wedi ei hargraffu, rhaid iddi fod wedi ei hargraffu mewn priflythrennau.

(3Pan na fo’r wybodaeth wedi ei hargraffu, rhaid iddi fod wedi ei nodi mewn teipysgrif neu ei hysgrifennu mewn priflythrennau.

7.  Caiff dogfen ychwanegol o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2(b) gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir ym mharagraff 8 ar yr amod ei fod yn amlwg ar wahân i fanylion y pasbort planhigion sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen.

8.  Yr wybodaeth ychwanegol yw unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol at ddiben labelu’r deunydd perthnasol y mae’n ymwneud ag ef ac a nodir yn—

(a)Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/66/EC sy’n nodi’r gofynion o ran y label neu ddogfen arall a gaiff ei llunio gan y cyflenwr yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 98/56/EC(1);

(b)Erthygl 8(1) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/48/EEC sy’n nodi’r atodlen sy’n nodi’r amodau sydd i’w bodloni gan ddeunydd lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu ffrwythau, yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/34/EEC(2); neu

(c)Erthygl 6(1) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/61/EEC sy’n nodi’r atodlenni sy’n nodi’r amodau sydd i’w bodloni gan ddeunydd lluosogi a phlannu llysiau, ac eithrio hadau, yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/33/EEC(3).

RHAN BY gofynion o ran pasbortau planhigion a ganiateir ar gyfer deunydd perthnasol penodol yn Atodlen 6 neu 7

9.  Rhaid i label swyddogol sy’n basbort planhigion neu’n rhan o basbort planhigion ac sy’n ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn y Rhan hon gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn mewn perthynas â’r deunydd hwnnw.

10.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â chloron Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 13(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(4);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir y cloron ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 18.1 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

11.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Helianthus annuus L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 12(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(5);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; a

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 26 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

12.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Solanum lycopersicum L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 28(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(6);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 27 neu 29 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

13.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Medicago sativa L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 10(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(7);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitemau 28.1 a 28.2 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

(1)

OJ Rhif L 164, 30.6.1999, t. 76.

(2)

OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 1.

(3)

OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 19.

(4)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(5)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/68/EU (OJ Rhif L 195, 24.7.2002, t. 32); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.

(6)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(7)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/72/EC (OJ Rhif L 304, 27.11.1996, t. 10); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.