12. Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Solanum lycopersicum L.—
(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 28(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(1);
(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac
(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 27 neu 29 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.