Eithriadau i’r gofyniad i gael cymeradwyaeth: caniatâd cynllunio heb fod yn ofynnol
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i waith adeiladu pan na fo’n ofynnol cael caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith adeiladu(1).
(2) Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r gwaith adeiladu yn cynnwys adeiladu adeilad neu strwythur arall ar ddarn o dir sy’n mesur 100 metr sgwâr neu fwy.
(1)
Diffinnir “planning permission” ym mharagraff 8(4) o Atodlen 3.