RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i’r Ddeddf;

  • ystyr “cais am gymeradwyaeth” (“application for approval”) yw—

    1. a

      cais am gymeradwyaeth a wneir yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 3, neu

    2. b

      y rhan honno o gais cyfun a wneir yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 3 y gwneir cais am gymeradwyaeth mewn perthynas â hi—

    ac mae cyfeiriad at “cais dilys” (“valid application”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am gymeradwyaeth;

  • ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 am system ddraenio2 i waith adeiladu3;

  • ystyr “cynnig a gadarnhawyd” (“confirmed proposal”) yw cynnig i wneud gwaith ailadeiladu a gadarnhawyd o dan reoliad 15;

  • mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19904;

  • mae i “datblygwr” yr ystyr a roddir i “developer” ym mharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19715, nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

  • ystyr “gwaith ailadeiladu” (“reconstruction work”) yw gwaith a wneir—

    1. a

      i ailadeiladu system ddraenio gynaliadwy i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau, neu

    2. b

      i adeiladu system ddraenio gynaliadwy newydd yn unol â’r safonau cenedlaethol i weithredu yn lle’r system ddraenio gynaliadwy yr effeithiwyd arni gan y gwaith statudol;

  • ystyr “gwaith adferol” (“remedial work”) yw gwaith a wneir ar system ddraenio gynaliadwy—

    1. a

      i unioni difrod a achoswyd gan waith statudol, a

    2. b

      i sicrhau bod y system ddraenio gynaliadwy yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol;

  • mae i “gwaith statudol” (“statutory works”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 14;

  • ystyr “safonau cenedlaethol” (“national standards”) yw’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddir o dan baragraff 5 o Atodlen 3;

  • ystyr “system ddraenio gynaliadwy” (“sustainable drainage system”) yw’r rhannau hynny o system ddraenio nad ydynt wedi eu breinio mewn ymgymerwr carthffosiaeth yn unol â chytundeb o dan adran 104 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 19916;

  • mae i “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 13.

2

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio7.