Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i’r Ddeddf;

ystyr “cais am gymeradwyaeth” (“application for approval”) yw—

(a)

cais am gymeradwyaeth a wneir yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 3, neu

(b)

y rhan honno o gais cyfun a wneir yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 3 y gwneir cais am gymeradwyaeth mewn perthynas â hi—

ac mae cyfeiriad at “cais dilys” (“valid application”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am gymeradwyaeth;

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 am system ddraenio(1) i waith adeiladu(2);

ystyr “cynnig a gadarnhawyd” (“confirmed proposal”) yw cynnig i wneud gwaith ailadeiladu a gadarnhawyd o dan reoliad 15;

mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3);

mae i “datblygwr” yr ystyr a roddir i “developer” ym mharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4), nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

ystyr “gwaith ailadeiladu” (“reconstruction work”) yw gwaith a wneir—

(a)

i ailadeiladu system ddraenio gynaliadwy i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau, neu

(b)

i adeiladu system ddraenio gynaliadwy newydd yn unol â’r safonau cenedlaethol i weithredu yn lle’r system ddraenio gynaliadwy yr effeithiwyd arni gan y gwaith statudol;

ystyr “gwaith adferol” (“remedial work”) yw gwaith a wneir ar system ddraenio gynaliadwy—

(a)

i unioni difrod a achoswyd gan waith statudol, a

(b)

i sicrhau bod y system ddraenio gynaliadwy yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol;

mae i “gwaith statudol” (“statutory works”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 14;

ystyr “safonau cenedlaethol” (“national standards”) yw’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddir o dan baragraff 5 o Atodlen 3;

ystyr “system ddraenio gynaliadwy” (“sustainable drainage system”) yw’r rhannau hynny o system ddraenio nad ydynt wedi eu breinio mewn ymgymerwr carthffosiaeth yn unol â chytundeb o dan adran 104 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(5);

mae i “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 13.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio(6).

(1)

Diffinnir “drainage system” ym mharagraff 1 o Atodlen 3.

(2)

Diffinnir “construction work” ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 3.

(5)

1991 p. 56. Amnewidiwyd adran 104(1) gan adran 96(4)(a) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

Diffinnir “drainage implications” ym mharagraff 7(2)(b) o Atodlen 3.