RHAN 5Gwaith ar dir cyhoeddus

Ystyr “statutory works”

14.  At ddiben paragraff 28(3)(b) o Atodlen 3, ystyr “statutory works” yw gwaith y caniateir ei wneud gan berson o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 159 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(1) (pŵer i osod, arolygu, cynnal a chadw etc. bibelli);

(b)Atodlen 4 i Ddeddf Nwy 1986(2) (pŵer i dyllu strydoedd);

(c)paragraff 10(4) o Atodlen 4 i Ddeddf Trydan 1989(3) (pŵer i wneud tyllau turio);

(d)Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(4).

(1)

1991 p. 56. Diwygiwyd adran 159 gan adran 97(1) a (5) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).

(2)

1986 p. 44. Diwygiwyd Atodlen 4 gan baragraffau 1 a 2(1) o Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27), a chan baragraff 119 o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

2003 p. 21. Mewnosodwyd Atodlen 3A gan Atodlen 1 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (p. 30).