7.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r corff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os gwnaeth y corff cymeradwyo—
(a)dyroddi tystysgrif o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3, a
(b)gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol o ran ei gweithredoedd.
(3) Rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith—
(a)anfon cyfrif llawn at y datblygwr o unrhyw symiau a gafwyd o dan y bond sydd wedi eu defnyddio i ddiwallu cost gwneud y gwaith,
(b)talu unrhyw swm dros ben i’r datblygwr, ac
(c)rhyddhau’r bond methu â chyflawni.