Search Legislation

Gorchymyn Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), ym mharagraff (2), ar ôl “Chymru” mewnosoder “a pharth Cymru”.

(3Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer y diffiniad o “Erthygl 9”;

(ii)hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad CFP”;

(iii)mewnosoder yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—

mae i “Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;;

mae i “parth Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Welsh zone” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;;

ystyr “y Rheoliad Rheolaeth” (“the Control Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 dyddiedig 20 Tachwedd 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.;

(iv)yn y diffiniad o “darpariaethau cywerth”, yn lle “Erthygl 9, neu Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”; a

(v)yn y diffiniad o “pysgod”, yn lle “mae Erthygl 9 neu Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “mae’r Rheoliad Rheolaeth”;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nad ydynt wedi eu diffinio ym mharagraff (1) na (2) ac sy’n ymddangos yn y Rheoliad Rheolaeth, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y Rheoliad Rheolaeth.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl yn golygu Erthygl o’r Rheoliad Rheolaeth, ac mae cyfeiriad at Bennod II o Deitl V yn golygu Pennod II o Deitl V o’r Rheoliad Rheolaeth.

(4Yn rheoliad 3 (cofrestru gwerthwyr pysgod)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 9” rhodder “Pennod II o Deitl V (Rheoli marchnata: gweithgareddau ar ôl glanio)”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 59, 62, 63, 64, 66 a 67”; ac

(c)ym mharagraff (8)(b) yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 59, 62, 63, 64, 66 neu 67”.

(5Yn rheoliad 5 (cadw cofnodion gan werthwr pysgod cofrestredig), ym mharagraff (3), yn lle “hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw” rhodder “am 3 blynedd”.

(6Yn rheoliad 6 (dynodi safleoedd arwerthu pysgod)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 9 ac Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “gydag Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP” rhodder “gyda Phennod II o Deitl V”; ac

(c)ym mharagraff (7)(b), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”.

(7Yn rheoliad 7 (cofrestru prynwyr pysgod)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 22(2)(b) o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthygl 59”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 62, 63, 64, 66 a 67”; ac

(c)ym mharagraff (7)(b), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 62, 63, 64, 66 neu 67”.

(8Yn lle rheoliad 8 (prynu pysgod gan brynwr anghofrestredig) rhodder—

8.  Bydd unrhyw berson sy’n prynu pysgod yn groes i Erthygl 59(2) yn euog o drosedd, oni bai bod yr esemptiad yn Erthygl 59(3) yn gymwys.

(9Yn rheoliad 9 (cadw cofnodion gan brynwr pysgod cofrestredig), ym mharagraff (3), yn lle “hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw” rhodder “, am 3 blynedd”.

(10Yn rheoliad 13 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydain mewn cysylltiad â chychod pysgota), ym mharagraff (1), ar ôl “Cymru” mewnosoder “a pharth Cymru”.

(11Yn lle rheoliad 15 (pwerau swyddogion pysgod môr Prydain i atafaelu pysgod) rhodder—

15.  Caiff unrhyw swyddog pysgod môr Prydain atafaelu unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy’n dal y pysgod) y mae gan y swyddog achos rhesymol dros amau y cyflawnwyd trosedd mewn cysylltiad â hwy o dan y Rheoliadau hyn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gywerth.

(12Yn Atodlen 1 (amodau perthnasol i gofrestriadau gwerthwyr pysgod), ym mharagraff 2, yn lle “Erthygl 9” rhodder “Erthyglau 62 i 64”.

(13Yn Atodlen 3 (amodau perthnasol i gofrestriadau prynwyr pysgod), ym mharagraff 2, yn lle “Erthygl 22(2) o’r Rheoliad Cyngor (EC) 2371/2002” rhodder “Erthyglau 62 i 64”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources