xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1113 (Cy. 231)

Caffael Tir, Cymru

Digolledu

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018

Gwnaed

24 Hydref 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Hydref 2018

Yn dod i rym

3 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 1973(1) ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru(2):

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 3 Rhagfyr 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.

Diwygio symiau rhagnodedig y taliad colli cartref

2.  Pan fo dyddiad y dadleoli ar 3 Rhagfyr 2018 neu ar ôl hynny—

(a)£59,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;

(b)£5,900 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac

(c)£5,900 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.

Dirymu ac arbed

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017(3) wedi eu dirymu.

(2Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 3 Rhagfyr 2018.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

24 Hydref 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sy’n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref.

Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn pennu swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £57,500 i £59,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £5,750 i £5,900.

Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, o £5,750 i £5,900.

Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 3 Rhagfyr 2018 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3 yn dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1973 p. 26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) gydag effaith o 25 Medi 1991 (gweler erthygl 3 o O.S. 1991/2067).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 30 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).