Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Ionawr 2019.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 21.1.2019, gweler ergl. 1(2)

DirymiadauLL+C

2.  Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016(1);

(b)Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 21.1.2019, gweler ergl. 1(2)

DynodiadauLL+C

3.  Mae corff a restrir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn gorff dynodedig at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â Gweinidogion Cymru(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 21.1.2019, gweler ergl. 1(2)

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru