Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Ionawr 2019.
Dirymiadau
2. Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016(1);
(b)Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017(2).
Dynodiadau
3. Mae corff a restrir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn gorff dynodedig at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â Gweinidogion Cymru(3).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2018