xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1173 (Cy. 237)

Cyfraith Gyfansoddiadol

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018

Gwnaed

12 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

21 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).

Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Ionawr 2019.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 21.1.2019, gweler ergl. 1(2)

DirymiadauLL+C

2.  Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016(2);

(b)Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 21.1.2019, gweler ergl. 1(2)

DynodiadauLL+C

3.  Mae corff a restrir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn gorff dynodedig at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â Gweinidogion Cymru(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 21.1.2019, gweler ergl. 1(2)

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

Erthygl 3

YR ATODLENLL+CCyrff Dynodedig

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. mewn grym ar 21.1.2019, gweler ergl. 1(2)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r cyrff a restrir yn yr Atodlen at ddiben cynnwys mewn cynnig Cyllidebol yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny.

Mae’r Gorchymyn hwn yn disodli’r dynodiadau blaenorol a wnaed gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016 (O.S. 2016/1096 (Cy. 260)) a Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2017 (O.S. 2017/946 (Cy. 235)) ac felly yn dirymu’r offerynnau hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

2006 p. 32. Mewnosodwyd adran 126A gan adran 44(2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25).

(4)

Yn rhinwedd adran 124(3)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae Gweinidogion Cymru yn “relevant person” at ddibenion adran 126A o’r Ddeddf honno.

(5)

Sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6).

(7)

Sefydlwyd gan O.S. 1993/2838, erthygl 2. Amnewidiwyd erthygl 2 gan O.S. 2018/887 (Cy. 176), erthygl 3.

(8)

Sefydlwyd gan O.S. 1998/678, erthygl 2.

(9)

Sefydlwyd gan O.S. 2009/2058 (Cy. 177), erthygl 2.