RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018.

2

Deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2018.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Gorchymyn 2018” yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 20183.

RHAN 2Ffioedd sy’n ymwneud ag iechyd planhigion

Ffioedd arolygu mewnforio3

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwyth o drydedd wlad sydd ar ffurf planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 a restrir yn Atodlen 5 i Orchymyn 2018.

2

Mae’r ffioedd a ganlyn yn daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad—

a

mewn cysylltiad â phob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth, ffi o £9.71;

b

mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 nad yw is-baragraff (c) yn gymwys iddi, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;

c

mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn neu gynnyrch planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 ac sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;

d

pan fo arolygydd yn amau bod y llwyth wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol ai peidio, ffi o £157.08 am bob sampl a brofir.

3

Yn y rheoliad hwn—

a

mae i “pla planhigion a reolir” yr ystyr a roddir yn erthygl 32(7)(a) o Orchymyn 2018;

b

ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;

c

mae i “trydedd wlad” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.

Ffioedd awdurdodiad pasbort planhigion4

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodiad pasbort planhigion.

2

Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 yn daladwy mewn cysylltiad ag arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig a gynhelir—

a

mewn cysylltiad â chais am awdurdodiad pasbort planhigion;

b

at ddiben monitro a gydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion.

3

Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.

4

Mae ffi ychwanegol o £18.78 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) am awdurdodiad pasbort planhigion.

5

Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n gwneud cais am awdurdodiad pasbort planhigion neu gan ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion (yn ôl y digwydd).

6

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 29 o Orchymyn 2018;

b

ystyr “mangre berthnasol”, mewn perthynas â chais am awdurdodiad pasbort planhigion neu ag awdurdodiad pasbort planhigion, yw’r fangre sy’n destun y cais neu’r awdurdodiad.

Ffioedd trwydded iechyd planhigion5

1

Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 4 yn daladwy mewn cysylltiad ag—

a

cais am drwydded;

b

unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw a gynhelir mewn cysylltiad â thrwydded.

2

Swm unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded neu unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4 yw’r swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, y’i canfyddir yn unol â’r cofnodion mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw (os oes rhai) yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

3

Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â monitro telerau ac amodau’r drwydded yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre sy’n ddarostyngedig i’r drwydded, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir.

4

Mae unrhyw ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n cyflwyno cais am drwydded neu ddeiliad y drwydded (yn ôl y digwydd).

5

Yn y rheoliad hwn, ystyr “trwydded” yw trwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o Orchymyn 2018.

Tatws sy’n tarddu o’r Aifft: ffi6

1

Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.

2

Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi dros dro Aelod Wladwriaethau i gymryd camau brys i atal lledaeniad Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran yr Aifft4.

Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffi7

1

Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckerann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.

2

Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod Wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus5.

RHAN 3Ffioedd sy’n ymwneud ag ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau

Tatws hadyd: ffioedd8

1

Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 5 yn daladwy mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw sy’n ymwneud â chais i ardystio tatws hadyd yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 20166.

2

Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 yn daladwy yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd (os oes un) a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.

3

Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 mewn cysylltiad ag arolygiad o gnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb ac arolygiad o gloron a gynaeafwyd yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol.

4

Mae ffi ychwanegol o £14.76 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) i ardystio tatws hadyd.

5

Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.

6

Ym mharagraff (3), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r cnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb neu’r cloron a gynaeafwyd sydd i’w harolygu wedi eu lleoli.

Planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau: ffioedd9

1

Mae’r ffi a bennir ym mharagraff (2) yn daladwy mewn cysylltiad â chais i ardystio planhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 20177.

2

Mae ffi o £72.00 yr awr (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd.

3

Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.

4

Ym mharagraff (2), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r deunydd sydd i’w ardystio wedi ei leoli.

RHAN 4Talu’r ffioedd

Talu’r ffioedd10

Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn daladwy i Weinidogion Cymru ar orchymyn.

Atal dros dro gofrestriad11

1

Pan fo unrhyw swm sy’n daladwy drwy, neu mewn perthynas ag, unrhyw ffi neu unrhyw ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn dal heb ei dalu, caiff Gweinidogion Cymru—

a

adennill y swm fel dyled sifil, neu

b

ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr hyd nes bod y swm hwnnw wedi ei dalu.

2

Ym mharagraff (1), mae i “cofrestredig” (“registered”), “cofrestru” (“registration”) a “masnachwr planhigion” (“plant trader”) yr ystyron a roddir iddynt yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.

RHAN 5Dirymiadau

Dirymiadau12

Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.

Hannah BlythynGweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru