Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru
Gwnaed
13 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Tachwedd 2018
Yn dod i rym
10 Rhagfyr 2018
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018.
(2) Deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Gorchymyn 2018” yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(3).
3.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwyth o drydedd wlad sydd ar ffurf planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 a restrir yn Atodlen 5 i Orchymyn 2018.
(2) Mae’r ffioedd a ganlyn yn daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad—
(a)mewn cysylltiad â phob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth, ffi o £9.71;
(b)mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 nad yw is-baragraff (c) yn gymwys iddi, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;
(c)mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn neu gynnyrch planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 ac sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;
(d)pan fo arolygydd yn amau bod y llwyth wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol ai peidio, ffi o £157.08 am bob sampl a brofir.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “pla planhigion a reolir” yr ystyr a roddir yn erthygl 32(7)(a) o Orchymyn 2018;
(b)ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;
(c)mae i “trydedd wlad” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.
4.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodiad pasbort planhigion.
(2) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 yn daladwy mewn cysylltiad ag arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig a gynhelir—
(a)mewn cysylltiad â chais am awdurdodiad pasbort planhigion;
(b)at ddiben monitro a gydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion.
(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.
(4) Mae ffi ychwanegol o £18.78 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) am awdurdodiad pasbort planhigion.
(5) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n gwneud cais am awdurdodiad pasbort planhigion neu gan ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion (yn ôl y digwydd).
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 29 o Orchymyn 2018;
(b)ystyr “mangre berthnasol”, mewn perthynas â chais am awdurdodiad pasbort planhigion neu ag awdurdodiad pasbort planhigion, yw’r fangre sy’n destun y cais neu’r awdurdodiad.
5.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 4 yn daladwy mewn cysylltiad ag—
(a)cais am drwydded;
(b)unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw a gynhelir mewn cysylltiad â thrwydded.
(2) Swm unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded neu unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4 yw’r swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, y’i canfyddir yn unol â’r cofnodion mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw (os oes rhai) yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.
(3) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â monitro telerau ac amodau’r drwydded yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre sy’n ddarostyngedig i’r drwydded, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir.
(4) Mae unrhyw ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n cyflwyno cais am drwydded neu ddeiliad y drwydded (yn ôl y digwydd).
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trwydded” yw trwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o Orchymyn 2018.
6.—(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi dros dro Aelod Wladwriaethau i gymryd camau brys i atal lledaeniad Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran yr Aifft(4).
7.—(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckerann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod Wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus(5).
8.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 5 yn daladwy mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw sy’n ymwneud â chais i ardystio tatws hadyd yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(6).
(2) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 yn daladwy yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd (os oes un) a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.
(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 mewn cysylltiad ag arolygiad o gnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb ac arolygiad o gloron a gynaeafwyd yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol.
(4) Mae ffi ychwanegol o £14.76 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) i ardystio tatws hadyd.
(5) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.
(6) Ym mharagraff (3), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r cnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb neu’r cloron a gynaeafwyd sydd i’w harolygu wedi eu lleoli.
9.—(1) Mae’r ffi a bennir ym mharagraff (2) yn daladwy mewn cysylltiad â chais i ardystio planhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(7).
(2) Mae ffi o £72.00 yr awr (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd.
(3) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r deunydd sydd i’w ardystio wedi ei leoli.
10. Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn daladwy i Weinidogion Cymru ar orchymyn.
11.—(1) Pan fo unrhyw swm sy’n daladwy drwy, neu mewn perthynas ag, unrhyw ffi neu unrhyw ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn dal heb ei dalu, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)adennill y swm fel dyled sifil, neu
(b)ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr hyd nes bod y swm hwnnw wedi ei dalu.
(2) Ym mharagraff (1), mae i “cofrestredig” (“registered”), “cofrestru” (“registration”) a “masnachwr planhigion” (“plant trader”) yr ystyron a roddir iddynt yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.
12. Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2018
Rheoliad 3(1)
Colofn 1 Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau | 139.84 |
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had) | 152.41 |
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws) | 233.18 |
Hadau, meithriniad meinwe | 117.81 |
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn | 152.41 |
Blodau wedi eu torri | 33.42 |
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri) | 64.67 |
Coed Nadolig wedi eu torri | 122.89 |
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog | 75.30 |
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) | 57.45 |
Cloron tatws | 156.63 |
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl | 122.85 |
Grawn | 133.23 |
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd | 11.16 |
Rheoliad 3(2)(c)
Colofn 1 Genws | Colofn 2 Gwlad tarddiad | Colofn 3 Ffi (£) |
---|---|---|
Blodau wedi eu torri | ||
Aster | Zimbabwe | 25.07 |
Dianthus | Colombia | 1.00 |
Ecuador | 5.01 | |
Kenya | 1.67 | |
Twrci | 5.01 | |
Rosa | Colombia | 1.00 |
Ecuador | 1.00 | |
Ethiopia | 1.67 | |
Kenya | 1.67 | |
Tanzania | 5.01 | |
Zambia | 3.34 | |
Canghennau gyda deiliant | ||
Phoenix | Costa Rica | 22.63 |
Ffrwythau | ||
Citrus | Moroco | 2.87 |
Periw | 5.74 | |
Twrci | 1.72 | |
UDA | 8.62 | |
Citrus limon a citrus aurantifolia | Israel | 14.36 |
Malus | Yr Ariannin | 20.11 |
Brasil | 43.09 | |
Chile | 2.87 | |
Seland Newydd | 5.74 | |
De Affrica | 2.87 | |
Passiflora | Colombia | 4.02 |
Kenya | 14.36 | |
De Affrica | 20.11 | |
Fiet-nam | 20.11 | |
Zimbabwe | 28.73 | |
Prunus | Yr Ariannin | 43.09 |
Chile | 5.74 | |
Moroco | 14.36 | |
Twrci | 20.11 | |
UDA | 14.36 | |
Prunus, ac eithrio prunus persica | De Affrica | 2.87 |
Pyrus | Yr Ariannin | 8.62 |
Chile | 8.62 | |
Tsieina | 28.73 | |
De Affrica | 5.74 | |
Vaccinium | Yr Ariannin | 14.36 |
Llysiau | ||
Capsicum | Moroco | 2.87 |
Lycopersicon | Yr Ynysoedd Dedwydd | 2.87 |
Moroco | 2.87 | |
Momordica | Surinam | 20.11 |
Solanum melongena | Kenya | 5.74 |
Twrci | 14.36 |
Rheoliad 4(2)
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019.
Colofn 1 Dyddiad yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig | Colofn 2 Ffi (£) | Colofn 3 Isafswm ffi (£) |
---|---|---|
Pan fo dyddiad yr arolygiad a’r gweithgareddau cysylltiedig yn digwydd o fewn cyfnod 1 | 66.91 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) | 133.82 |
Pan fo dyddiad yr arolygiad a’r gweithgareddau cysylltiedig yn digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 | 73.85 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) | 147.70 |
Rheoliad 5(1)
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019.
Colofn 1 Y math o gais neu arolygiad | Colofn 2 Dyddiad y cais | Colofn 3 Ffi (£) |
---|---|---|
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu, ac eithrio— — trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall — trwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau | Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 | 948.51 |
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 | 995.36 | |
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau | Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 | 948.51, plws 52.45 am bob eitem dros 5 |
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 | 995.36, plws 52.45 am bob eitem dros 5 | |
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall, ac eithrio trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu r | Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 | 705.20 |
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 | 745.41 | |
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau | Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 | 705.20, plws 52.45 am bob eitem dros 5 |
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 | 745.41, plws 52.45 am bob eitem dros 5 | |
Cais i amrywio trwydded gyda newidiadau y mae asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol ar eu cyfer | Yn achos cais a wneir yng nghyfnod 1 | 351.81 |
Yn achos cais a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 | 380.25 | |
Cais am unrhyw drwydded arall | — | 42.50 |
Dyroddi llythyr awdurdodi blynyddol | — | 42.50 |
Monitro a gydymffurfir ag amodau a thelerau trwydded | — | 17.50 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £35 |
Rheoliad 8(1)
Colofn 1 Gweithgaredd | Colofn 2 Ffi (£) | Colofn 3 Isafswm ffi (£) |
---|---|---|
Samplu a phrofi pridd ar gyfer Llyngyr Tatws | ||
Samplu a phrofi pridd at ddibenion paragraff 4, 7 neu 9 o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 | 21.53 am bob hectar (neu ran ohono) sy’n cael ei samplu a’i brofi | — |
Arolygu cnydau sy’n tyfu | ||
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PBTC yr Undeb | 33.62 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) | 67.24 |
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PB yr Undeb | 33.62 am bob ¼ hectar (neu ran ohono) a arolygir | 67.24 |
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd S yr Undeb | 58.47 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir | 116.94 |
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd SE yr Undeb | 58.47 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir | 116.94 |
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd E yr Undeb | 57.17 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir | 114.34 |
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd A neu B yr Undeb | 51.97 am bob ½ hectar (neu ran ohono) a arolygir | 103.94 |
Arolygu cloron a gynaeafwyd | ||
Arolygu | 31.84 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) | 63.69 |
Darparu labelau a seliau mewn cysylltiad â cheisiadau | ||
Labelau a seliau argraffedig | 0.48 am bob label/sêl | — |
Labelau a seliau gwag | 0.12 am bob label/sêl | — |
Rheoliad 12
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014(8).
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2015(9).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd, planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ffioedd Iechyd Planhigion (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1792 (Cy. 185)).
Mae’r ffioedd a bennir yn rheoliadau 3, 6 a 7 yn daladwy mewn perthynas â mewnforio planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd yn unol â gofynion Erthygl 13 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1).
Mae’r ffioedd a bennir yn rheoliadau 4 a 5 yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau a gweithgareddau eraill a gynhelir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC.
Mae’r ffioedd a bennir yn rheoliad 8 yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodol a gweithgareddau eraill a gynhelir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60).
Mae’r ffioedd a bennir yn rheoliad 9 yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodol a gweithgareddau eraill a gynhelir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ar farchnata deunydd lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau (OJ Rhif L 267, 8.10.2008, t. 8).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1973 p. 51 diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2011/1043.
Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t. 112.
OJ Rhif L 205, 1.8.2013, t. 13, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/2057 (OJ Rhif L 300, 17.11.2015, t. 43).
O.S. 2016/106 (Cy. 52), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2014/1792 (Cy. 185), a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/777 (Cy. 61).