xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
13 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Tachwedd 2018
Yn dod i rym
10 Rhagfyr 2018
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraffau 9(1) a 10(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“y Ddeddf”)(1) ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru(2).
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â Sir Gaerfyrddin.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraff 10(4) o Atodlen 8 i’r Ddeddf.
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Sir Gaerfyrddin) 2018 a daw i rym ar 10 Rhagfyr 2018.
2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi Sir Gaerfyrddin yn—
(a)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau; a
(b)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau traffig sy’n symud.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi Sir Gaerfyrddin yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae Sir Gaerfyrddin eisoes wedi ei dynodi yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan y Ddeddf honno gan Orchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gaerfyrddin) 2004 (O.S. 2004/104 (Cy. 11)), y’i bernir gan baragraff 8(4) o Atodlen 8 i’r Ddeddf i fod yn orchymyn sy’n dynodi’r ardal yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan baragraff 8 o Atodlen 8 i’r Ddeddf.
Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud yn Sir Gaerfyrddin drwy gyfundrefn cyfraith sifil.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth y Gangen Orchmynion, Adran yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Ddeddf i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Yn rhinwedd adran 92(1) o’r Ddeddf, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf honno.