2018 Rhif 1192 (Cy. 243)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b) a 44(9)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881, ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 146(6) o’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.