xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
15 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Tachwedd 2018
Yn dod i rym
19 Rhagfyr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b) a 44(9)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 146(6) o’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Rhagfyr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2019.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3. Yn lle erthygl 5 rhodder—
“5. At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw—
(a)£12,000, neu
(b)£100,000 pan fodlonir yr amodau gofal plant yn erthygl 8.”
4. Yn erthygl 8(d), yn lle “£20,500” rhodder “£100,000”.
5. Yn erthygl 11—
(a)ym mharagraff (2), yn lle’r tabl rhodder—
(1) Erthygl | (2) Gwerth Ardrethol (£) | (3) Swm E |
---|---|---|
7 (gwerth ardrethol) | 0 i 6,000 | 5,000,000 |
7 (gwerth ardrethol) | 6,001 i 12,000 | Cyfrifir yn unol â pharagraff (3) o’r erthygl hon |
8 (gofal plant) | 0 i 100,000 | 5,000,000 |
9 (swyddfa bost) | 0 i 9,000 | 5,000,000 |
9 (swyddfa bost) | 9,001 i 12,000 | 2” |
(b)hepgorer paragraff (4).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n cael ei wneud o dan adrannau 43(4B)(b) a 44(9)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) (“Gorchymyn 2017”). Mae Gorchymyn 2017 yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi annomestig (“y cynllun”) sy’n gymwys i gategorïau penodol o hereditamentau.
Effaith y diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yw eithrio pob hereditament sy’n bodloni’r amodau (“yr amodau gofal plant”) a nodir yn erthygl 8 o Orchymyn 2017 rhag talu ardrethi annomestig.
Caiff erthygl 5 o Orchymyn 2017 ei diwygio er mwyn cynyddu uchafswm y gwerth ardrethol ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant i £100,000. Golyga hyn bod pob hereditament sydd â gwerth ardrethol o £100,000 neu lai, sy’n bodloni’r amodau gofal plant, yn gymwys ar gyfer rhyddhad o dan y cynllun. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn cadw uchafswm presennol y gwerth ardrethol (o £12,000) mewn perthynas â hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol yn erthygl 7 a’r amodau swyddfa bost yn erthygl 9.
Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi E at ddibenion Deddf 1988. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio E i 5,000,000 ar gyfer pob hereditament sy’n bodloni’r amodau gofal plant. Effaith hyn, pan gaiff ei fewnosod yn y fformiwla o fewn adran 43(4A)(b) o Ddeddf 1988, yw eithrio pob hereditament sy’n bodloni’r amodau gofal plant rhag talu ardrethi annomestig. Mae erthygl 11(4) o Orchymyn 2017 wedi ei hepgor, sy’n cael yr effaith o ddileu’r cynllun rhyddhad wedi ei dapro blaenorol ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41. Mewnosodwyd is-adran (4B) o adran 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 61(1) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26). Mewnosodwyd is-adran (9)(b) o adran 44 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 61(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).