Diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 20062
1
Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 20063 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(2) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996”.
3
Yn rheoliad 4—
a
ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o “gyfrwng” hyd at y diwedd rhodder “gyfrifo (yn y safle asesu) a thrwy gyfrwng y dulliau asesu a nodir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.”;
b
ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
3A
Ym mharagraff (3), ystyr “safle asesu” yw’r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb.
c
hepgorer paragraffau (4) a (5).
4
Hepgorer Atodlen 2.
5
Yn Atodlen 3—
a
ym mharagraff 1, hepgorer y diffiniad o “LA10, 18h”;
b
hepgorer paragraff 2(a).