Diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996”.

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o “gyfrwng” hyd at y diwedd rhodder “gyfrifo (yn y safle asesu) a thrwy gyfrwng y dulliau asesu a nodir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Ym mharagraff (3), ystyr “safle asesu” yw’r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb.;

(c)hepgorer paragraffau (4) a (5).

(4Hepgorer Atodlen 2.

(5Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 1, hepgorer y diffiniad o “LA10, 18h”;

(b)hepgorer paragraff 2(a).