RHAN 1DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2018.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anifail buchol llawn-dwf” (“adult bovine animal”) yw anifail buchol sy’n wyth mis oed neu ragor;
(a)
ystyr “carcas” yw holl gorff anifail a gigyddwyd fel y’i cyflwynir ar ôl ei waedu, ei ddiberfeddu a thynnu ei groen, a
(b)
ystyr “hanner carcas” yw’r cynnyrch a geir drwy wahanu’r carcas yn gymesur drwy ganol pob fertebra gyddfol, dorsal, meingefnol a sacrol a thrwy ganol y sternwm a’r symffysis isgiopwbig;
ystyr “carcas mochyn” (“pig carcase”) yw corff mochyn glân sydd wedi ei gigydda, wedi ei waedu ac wedi ei ddiberfeddu, yn gyfan ynteu wedi ei rannu ar hyd y llinell ganol;
ystyr “cyfathrebiad rhagnodedig” (“prescribed communication”) yw cyfathrebiad o’r canlyniadau dosbarthu yn unol â gofynion Erthygl 1 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn;
ystyr “darpariaeth eidion Ewropeaidd” (“European beef provision”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Atodlen 1, y disgrifir ei chynnwys yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno;
ystyr “darpariaeth moch Ewropeaidd” (“European pig provision”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Atodlen 2, y disgrifir ei chynnwys yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno;
ystyr “dosbarthu” (“classification”) yw—
(a)
dosbarthu carcasau buchol yn unol â’r darpariaethau eidion Ewropeaidd, neu
(b)
dosbarthu carcasau moch yn unol â’r darpariaethau moch Ewropeaidd a rheoliad 14,
yn ôl y digwydd, ac mae termau cytras i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy’n cynnal busnes lladd-dy cymeradwy;
ystyr “mochyn glân” (“clean pig”) yw mochyn sydd heb ei ddefnyddio ar gyfer bridio;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ond nid yw’n cynnwys person a benodir er mwyn ystyried apêl o dan reoliad 10.
(2)
Mae i’r termau eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir y termau Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Rheoliad (EU) 2013, Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn neu Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, yr ystyron a ddygir gan y termau cyfatebol Saesneg yn y Rheoliadau hynny.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at—
(a)
Rheoliad (EU) 2013,
(b)
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu
(c)
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn,
i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Darpariaethau trosiannol3.
Mae unrhyw hysbysiad, trwydded, cymeradwyaeth neu awdurdodiad a roddwyd neu a ganiatawyd o dan Reoliadau 2011 ac sy’n effeithiol pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym yn aros mewn grym fel pe baent wedi eu rhoi neu wedi eu caniatáu o dan y Rheoliadau hyn.
Dirymu4.
Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a)
Rheoliadau 2011; a