RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU
Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi21
1
Caiff person apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gorfodi os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei roi.
2
Caiff person apelio o fewn y cyfnod o un mis sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
3
Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn; a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 198013 yn gymwys i’r achos.
4
Ar apêl, caiff y llys naill ai ddiddymu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, ac os bydd yn ei gadarnhau caiff wneud hynny naill ai yn ei ffurf wreiddiol neu gyda pha addasiadau bynnag y mae’r llys yn meddwl eu bod yn briodol.