xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
21.—(1) Caiff person apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gorfodi os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei roi.
(2) Caiff person apelio o fewn y cyfnod o un mis sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
(3) Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn; a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i’r achos.
(4) Ar apêl, caiff y llys naill ai ddiddymu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, ac os bydd yn ei gadarnhau caiff wneud hynny naill ai yn ei ffurf wreiddiol neu gyda pha addasiadau bynnag y mae’r llys yn meddwl eu bod yn briodol.
1980 p. 43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 47.