xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliadau 2, 15 a 27
(1) Y Rheoliad sy’n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd | (2) Y ddarpariaeth | (3) Y cynnwys |
---|---|---|
Rheoliad (EU) 2013 | Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt B(II) | Gofyniad i ddosbarthu carcasau i un o’r dosbarthiadau penodedig |
Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt B(III), fel y’i haddaswyd gan Erthyglau 3 a 4 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/370/EC yn awdurdodi dulliau ar gyfer graddio carcasau moch yn y Deyrnas Unedig(1) | Gofyniad i gyflwyno carcasau yn y dull penodedig | |
Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt B(IV), is-baragraff 1, ynghyd ag Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/370/EC, ac Atodiad I iddo, yn awdurdodi dulliau ar gyfer graddio carcasau moch yn y Deyrnas Unedig | Gofyniad i raddio carcasau drwy ddulliau a awdurdodir gan y Comisiwn | |
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn | Erthygl 6(1) | Gwahardd tynnu braster, cyhyr neu feinwe arall cyn pwyso, graddio a marcio |
Erthygl 7(1) | Gofyniad ynghylch lle ac amser y dosbarthu | |
Erthygl 7(3)(b) a 7(4)(a) | Gofynion ynghylch pwyso’r carcas ac addasu’r pwysau | |
Erthygl 12 | Gofynion ynghylch dosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd | |
Erthygl 14(1), (2) a (3) | Gofyniad ynghylch pwyso’r carcas er mwyn hysbysu prisiau’r farchnad | |
Erthygl 14(4) | Gofynion ynghylch hysbysu prisiau fesul dosbarth | |
Erthygl 17(2) o ran y modd y’i cymhwysir at daliadau atodol am garcasau | Gofynion ynghylch hysbysu unrhyw daliadau atodol | |
Pwynt 2 o Ran A o Atodiad V | Gofynion ynghylch asesu faint o gig heb lawer o fraster sydd mewn carcasau | |
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn | Erthygl 1 | Gofynion ynghylch y cyfathrebiad rhagnodedig |
Erthygl 9 | Gofynion ynghylch dosbarthiadau a phwysau er mwyn cofnodi prisiau marchnad carcasau moch | |
Erthygl 10 | Cofnodi prisiau’r farchnad |
(1) Y Rheoliad sy’n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd | (2) Y ddarpariaeth | (3) Y cynnwys |
---|---|---|
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn | Erthygl 8(1), 8(2)(b), Erthygl 8(3)(c) o’u darllen gydag ail baragraff yr Erthygl honno ac Erthygl 8(4) | Gofynion ynghylch marcio carcasau neu eu labelu |
Erthygl 8(5) | Gofynion mewn perthynas â labelu carcas |
OJ Rhif L 116, 22.4.2004, t. 32, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/374/EC (OJ Rhif L 142, 30.5.2006, t. 34).