2018 Rhif 1216 (Cy. 249)

Adnoddau Dŵr, Cymru
Amaethyddiaeth, CymruY Diwydiannau Da Byw
Anifeiliaid, CymruIechyd AnifeiliaidLles Anifeiliaid
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Dŵr, Cymru
Garddwriaeth, Cymru
Gwastraff, Cymru
Hadau, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Pysgodfeydd Môr, CymruCadwraeth Pysgod Môr
Rhyddid Gwybodaeth, Cymru

Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

a

adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)1 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 2, 5, 15, 16, 36 and 37;

b

adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20062, i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 2 a 5;

c

adrannau 103(1) i (3), (7), 104(4) a (6) o Ddeddf Dŵr 20033, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 15;

d

adrannau 33A a 219(2)(f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19914, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 16;

e

adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19815, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 36 a 37.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi6 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag—

a

ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd7;

b

mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu8;

c

atal, lleihau a rheoli gwastraff9;

d

atal halogi tir ac adfer tir halogedig10;

e

rheoli perygl llifogydd11;

f

mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr12;

g

diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol13;

h

y polisi amaethyddol cyffredin14;

i

y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd15;

j

mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ryddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau16;

k

polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd17;

l

y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd18.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliadau 11, 17(2), 17(3), 18(2)(a), 18(2)(b), 18(3), 23, 37(2)(a) a 37(4) fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwynI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2018.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994I22

1

Mae Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 199419 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)—

a

yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “treatment,” mewnosoder “as last amended by Regulation (EC) No 1137/2008 of the European Parliament and of the Council20,”;

b

yn y geiriau ar ôl y diffiniad o “Wales”, ar ôl “used” mewnosoder “in these Regulations and”.

3

Yn Atodlen 1, yn Rhan 1, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “the concentration” hyd at “Member States” rhodder “50 mg/l of nitrates in 95% of the samples”.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000I33

Yn rheoliad 2 o Reoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 200021, ar ôl “human consumption)” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive (EU) 2015/178722,”.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002I44

1

Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 200223 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

F12

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

3

Yn lle rheoliad 13(4)(c) rhodder—

c

unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 201425,

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004I55

Yn rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 200426, yn lle’r geiriau o “applies to a decision notice” hyd at y diwedd rhodder “does not apply”.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005I66

1

Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 200527 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 12(3), yn lle “Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC28” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2006 ar drawslwytho gwastraff29”.

3

Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1(b), yn lle’r geiriau o “yr Atodiad” hyd at “1994” rhodder “Atodiad 1A i Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar drawslwytho gwastraff”.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006I77

Yn rheoliad 3(b)(ii) o Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 200630, ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU31”.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009I88

1

Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 200932 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—

A1

Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.

3

Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—

5

1

Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—

a

Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 199433;

b

Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 200134;

c

Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 201035;

d

Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 201736;

e

Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 201737.

2

Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 198138.

3

Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011I99

1

Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 201139 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”), ar ôl “fasnach ynddynt” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/16040,”.

3

Yn rheoliad 6(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/87041”.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011I1010

Yn erthygl 3(4) o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 201142

a

yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17(EU)43”;

b

yn is-baragraff (c), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”;

c

ar ôl is-baragraff (c) hepgorer “a”;

d

yn is-baragraff (ch), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU”.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012I1111

Yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 201244, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “clinical waste”, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Council Directive” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EC) No 1272/2008 of the European Parliament and of the Council on classification, labelling and packaging of substances and mixtures45, as amended from time to time,”.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013I1212

Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 201346, ar ôl “water policy” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive 2014/101/EU”.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013I1313

1

Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 201347 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 6, yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”), hepgorer “a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU”.

3

Yn rheoliad 11(2)(b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/178748”.

4

Yn rheoliad 22(2)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu Reoliad (EU) 1305/201349”.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 13 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016I1414

Yn Atodlen 10 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 201650, ym mharagraff 5—

a

yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/852 of the European Parliament and of the Council on mercury51”;

b

hepgorer is-baragraff (5).

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017I1515

Yn rheoliad 9 o Reoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 201752, yn lle paragraff (3) rhodder—

3

In paragraph (1), an abstraction of more limited extent does not include—

a

a Qn95 hands-off flow constraint on a licence where the licensed abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply does not support good ecological potential, good ecological status or good quantitative status, or

b

75% of Qn99 hands-off flow constraint on a licence where the licenced abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply supports good ecological potential, good ecological status or good quantitative status.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017I1616

1

Mae Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 201753 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)—

a

yn lle’r diffiniad o “the 2010 Regulations” rhodder—

  • “the 2017 Regulations” means the Conservation of Habitats and Species Regulations 201754;

b

yn y diffiniad o “conservation site”—

i

ym mharagraff (a), yn lle “regulation 10(5) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 12(5) of the 2017 Regulations”;

ii

ym mharagraff (b), yn lle “regulation 11 of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 13 of the 2017 Regulations”;

iii

ym mharagraff (c), yn lle “regulations 12A and 12B, respectively, of the 2010 Regulations” rhodder “regulations 15 and 16, respectively, of the 2017 Regulations”;

c

yn y diffiniad o “protected species”, ym mharagraff (a), yn lle “regulation 40(1) of, and Schedule 2 to, the 2010 Regulations” rhodder “regulation 42(1) of, and Schedule 2 to, the 2017 Regulations”.

3

Yn rheoliad 14(1)(b), yn lle “regulation 99(2) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 102(2) of the 2017 Regulations”.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 3Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chynllunio

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004I1717

1

Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 200455 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”), yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC” rhodder “, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

3

Yn rheoliad 5(2)(b), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC” rhodder “Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar y amgylchedd56, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 17 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015I1818

1

Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 201557 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn Atodlen 1—

a

yn Rhan 1, colofn 1, adran ‘P’, ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 440/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

b

yn Rhan 4—

i

ym mharagraff 11(1), ar ôl “chyflenwyr erosol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

ii

ym mharagraff 13(a), ar ôl “gwrteithiau” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

iii

ym mharagraffau 14 ac 16(b), ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 2003/2003”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

3

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(a), yn lle “Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel” rhodder “Erthygl 13(1) o Reoliad (EU) 2017/852 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fercwri, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1102/200858, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Annotations:
Commencement Information
I18

Rhl. 18 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016I1919

1

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201659 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor60, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/99761”.

3

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 201662”.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 19 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017I2020

1

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201763 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,”.

3

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 20 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 4Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995I2121

1

Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 199564 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 5(d)(i), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 199365” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 201266”.

3

Yn rheoliad 8(4), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 1993” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012”.

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 21 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999I2222

1

Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 199967 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)—

a

hepgorer y diffiniad o “Directive 77/93/EEC”;

b

yn y diffiniad o “Directive 98/56/EC”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Regulation (EU) No 652/2014 of the European Parliament and of the Council68”;

c

ar ôl y diffiniad o “Directive 98/56/EC” mewnosoder—

  • Directive 2000/29/EC” means Council Directive 2000/29/EC on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community69;

3

Yn rheoliad 9(2), yn lle “Council Directive 77/93/EEC” rhodder “Directive 2000/29/EC”.

Annotations:
Commencement Information
I22

Rhl. 22 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009I2323

Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 200970, yn lle’r diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) rhodder—

  • Ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol71, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 23 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016I2424

Yn rheoliad 3 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 201672

a

yn y diffiniad o “y Penderfyniad” (“the Decision”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/32073”;

b

yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/31774”.

Annotations:
Commencement Information
I24

Rhl. 24 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 5Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid

Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 1980I2525

1

Mae Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 198075 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2—

a

ym mharagraff (a), yn lle “the Animal Health Act 198176” rhodder “the Act”;

b

ym mharagraff (b), yn lle “section 84(3)(a) and (b)” rhodder “section 88(1) and (3)”.

3

Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 195077” rhodder “the Animal Health Act 1981”.

4

Hepgorer erthygl 9.

Annotations:
Commencement Information
I25

Rhl. 25 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980I2626

1

Mae Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 198078 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2—

a

yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “the Animal Health Act 1981 (“the 1981 Act”)” rhodder “the Act”;

b

ym mharagraffau (a) a (b), yn lle “the 1981 Act” rhodder “the Act”.

3

Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 1950” rhodder “the Animal Health Act 1981”.

4

Hepgorer erthygl 10.

Annotations:
Commencement Information
I26

Rhl. 26 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003I2727

1

Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 200379 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 3(1)—

a

yn y lle priodol, mewnosoder—

b

yn y diffiniad o “diheintio” (“disinfect”), yn lle “Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 197881” rhodder “Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 200782”.

3

Yn erthygl 6(4), yn lle “Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC83” rhodder “Erthygl 50 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.

4

Yn Atodlen 1—

a

yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC, ac Atodiad I iddi” rhodder “Erthygl 7(2)(f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ac Atodiad 3 iddi”;

b

yn Rhan 2, ym mharagraff 11, yn lle “Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC” rhodder “Atodiad 6 i Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.

Annotations:
Commencement Information
I27

Rhl. 27 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006I2828

1

Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 200684 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 8(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.

3

Yn erthygl 43(1)(b)(ii), yn lle’r geiriau o “regulation 9” hyd at y diwedd rhodder “the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 201185”.

Annotations:
Commencement Information
I28

Rhl. 28 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006I2929

1

Mae Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 200686 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2, yn y diffiniad o “border inspection post”, yn lle’r geiriau o “Schedule 2” hyd at y diwedd rhodder “regulation 11 of the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011”.

3

Yn erthygl 3—

a

ym mharagraff (4), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 199887” rhodder “the Specified Animal Pathogens (Wales) Order 200888”;

b

ym mharagraff (5), yn lle’r geiriau o “Regulation 19” hyd at y diwedd rhodder “Article 6 of Commission Implementing Regulation (EU) No 139/2013 laying down animal health conditions for imports of certain birds into the Union and the quarantine conditions thereof89”.

4

Yn erthygl 4(7), yn lle “Department for Agriculture and Rural Development of Northern Ireland” rhodder “Department of Agriculture, Environment and Rural Affairs, Northern Ireland”.

5

Yn erthygl 66(5)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.

6

Yn erthygl 71(3)—

a

yn is-baragraff (a), yn lle “section 8(2) of the Medicines Act 196890” rhodder “regulation 17 of the Human Medicines Regulations 201291”;

b

yn is-baragraff (b), yn lle “Regulation 5 of the Veterinary Medicines Regulations 200592” rhodder “regulation 5 of the Veterinary Medicines Regulations 201393”;

c

yn is-baragraff (d), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 1998” rhodder “the Specified Animals Pathogens (Wales) Order 2008”.

Annotations:
Commencement Information
I29

Rhl. 29 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006I3030

Yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 200694, yn lle “reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005” rhodder “reoliad 3(2)(b) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 30 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006I3131

1

Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 200695 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 12—

a

ym mharagraff (1)—

i

ar ôl is-baragraff (a) hepgorer “or”;

ii

hepgorer is-baragraff (b);

b

hepgorer paragraff (2).

3

Yn erthygl 17(1)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.

Annotations:
Commencement Information
I31

Rhl. 31 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006I3232

Yn erthygl 18(1)(a) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 200696, yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.

Annotations:
Commencement Information
I32

Rhl. 32 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007I3333

Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 200797

a

yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/630/EEC98” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/120/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch99”;

b

ar ôl is-baragraff (b), hepgorer “ac”;

c

yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/629/EEC100” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/119/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod lloi101”.

Annotations:
Commencement Information
I33

Rhl. 33 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008I3434

Yn rheoliad 17 o Reoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008102, yn lle “Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2011103” rhodder “Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.

Annotations:
Commencement Information
I34

Rhl. 34 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009I3535

1

Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009104 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2, yn y lle priodol, mewnosoder—

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012” (“Commission Regulation (EU) No 200/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012 dyddiedig 8 Mawrth 2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o frwyliaid, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor 105.

3

Yn erthygl 3, yn lle paragraff (a) rhodder—

a

Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012;

4

Yn erthygl 5(1)—

a

yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”;

b

yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”;

c

yn lle “express post” rhodder “express mail”.

5

Yn erthygl 8, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”.

Annotations:
Commencement Information
I35

Rhl. 35 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010I3636

1

Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010106 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2(2)—

a

yn lle is-baragraff (a) rhodder—

a

Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012 yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1190/2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o dyrcwn, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor107, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,

b

hepgorer is-baragraff (b).

3

Yn erthygl 4(1)—

a

yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012”;

b

yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”.

4

Yn erthygl 7, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Annotations:
Commencement Information
I36

Rhl. 36 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011I3737

Yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011108, yn Rhan 2, ym mharagraff 9(1), yn lle’r geiriau o “Rheoliad y Comisiwn” hyd at y diwedd rhodder “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 139/2013 sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i’r Undeb, a’r amodau cwarantin ar eu cyfer109”.

Annotations:
Commencement Information
I37

Rhl. 37 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

DirymiadauI3838

Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

a

Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005110;

b

Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006111.

Annotations:
Commencement Information
I38

Rhl. 38 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 6Diwygiad i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd

Gorchymyn Trwyddedu Pysgod Môr 1992I3939

Yn erthygl 2 o Orchymyn Trwyddedu Pysgod Môr 1992112, yn y diffiniad o “length”, yn lle’r geiriau o “Council Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/1130 of the European Parliament and of the Council defining characteristics for fishing vessels113”.

Annotations:
Commencement Information
I39

Rhl. 39 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran Cymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd, cynllunio a materion gwledig.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391) i derfynu cymhwysiad adran 53 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 32) (eithrio rhag dyletswydd i gydymffurfio â hysbysiad o benderfyniad neu hysbysiad gorfodi) i’r Rheoliadau hynny. Mae hyn yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn R (on the application of Evans) and another v Attorney General [2015] UKSC 21 bod dyroddi unrhyw dystysgrif o dan reoliad 18(6) mewn cysylltiad â gwybodaeth amgylcheddol yn anghydnaws ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2003/4/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fynediad y cyhoedd at wybodaeth amgylcheddol (OJ Rhif L 41, 14.2.2003, t. 26).

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 20 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/995 (Cy. 81)) (“Rheoliadau 2009”) i’w gwneud yn ofynnol i weithredwyr ganfod mesurau adfer posibl a’u cyflwyno i’r awdurdod gorfodi. Mae rheoliad 8 hefyd yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb 2004/35/EC (OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56) ei throsi’n briodol. Mae’r diwygiad yn mynd i’r afael â difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol sydd hefyd yn Safle Ewropeaidd (fel y’i diffinnir yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (O.S. 2017/1012)). Mae’r diwygiad yn darparu nad yw difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (“Deddf 1981”) wedi ei eithrio’n awtomatig rhag cwmpas Rheoliadau 2009. Bydd difrod o’r fath yn parhau i gael ei eithrio os rhoddwyd yr awdurdodiad o dan Ddeddf 1981 yn unol â deddfwriaeth sy’n trosi Cyfarwyddeb y Cyngor 92/42/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7).

Mae rheoliad 15 yn diwygio Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017 (O.S. 2017/1047) i gywiro gwall yn y disgrifiad o ba amgylchiadau y mae’n gymwys i roi trwydded tynnu dŵr fwy cyfyngedig oddi tanynt na’r drwydded y gwnaed cais amdani.

Mae’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau amrywiol eraill i ddeddfwriaeth ym meysydd amaethyddiaeth, iechyd a lles anifeiliaid, diogelu’r amgylchedd, pysgodfeydd môr, hadau, cynllunio gwlad a thref, gwastraff a dŵr, yn enwedig diwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio at ddeddfwriaeth Ewropeaidd mewn deddfwriaeth ddomestig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.