2018 Rhif 1216 (Cy. 249)
Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)1 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 2, 5, 15, 16, 36 and 37;
adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20062, i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 2 a 5;
adrannau 103(1) i (3), (7), 104(4) a (6) o Ddeddf Dŵr 20033, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 15;
adrannau 33A a 219(2)(f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19914, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 16;
adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19815, i’r graddau y maent yn ymwneud â rheoliadau 36 a 37.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi6 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag—
ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd7;
mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu8;
atal, lleihau a rheoli gwastraff9;
atal halogi tir ac adfer tir halogedig10;
rheoli perygl llifogydd11;
mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr12;
diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol13;
y polisi amaethyddol cyffredin14;
y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd15;
mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ryddhau’n fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau16;
polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd17;
y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd18.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliadau 11, 17(2), 17(3), 18(2)(a), 18(2)(b), 18(3), 23, 37(2)(a) a 37(4) fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
RHAN 1Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2018.
RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd
Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 19942
1
Mae Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 199419 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1)—
a
yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “treatment,” mewnosoder “as last amended by Regulation (EC) No 1137/2008 of the European Parliament and of the Council20,”;
b
yn y geiriau ar ôl y diffiniad o “Wales”, ar ôl “used” mewnosoder “in these Regulations and”.
3
Yn Atodlen 1, yn Rhan 1, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “the concentration” hyd at “Member States” rhodder “50 mg/l of nitrates in 95% of the samples”.
Rheoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 20003
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 20024
1
Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 200223 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddeb y Cyngor” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2009/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig24”.
3
Yn lle rheoliad 13(4)(c) rhodder—
c
unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 201425,
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 20045
Yn rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 200426, yn lle’r geiriau o “applies to a decision notice” hyd at y diwedd rhodder “does not apply”.
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20056
1
Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 200527 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 12(3), yn lle “Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC28” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2006 ar drawslwytho gwastraff29”.
3
Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1(b), yn lle’r geiriau o “yr Atodiad” hyd at “1994” rhodder “Atodiad 1A i Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar drawslwytho gwastraff”.
Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 20067
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 20098
1
Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 200932 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—
A1
Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.
3
Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—
5
1
Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—
a
Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 199433;
b
Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 200134;
c
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 201035;
d
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 201736;
e
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 201737.
2
Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 198138.
3
Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 20119
1
Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 201139 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”), ar ôl “fasnach ynddynt” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/16040,”.
3
Yn rheoliad 6(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/87041”.
Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 201110
Yn erthygl 3(4) o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 201142—
a
yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17(EU)43”;
b
yn is-baragraff (c), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”;
c
ar ôl is-baragraff (c) hepgorer “a”;
d
yn is-baragraff (ch), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU”.
Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 201211
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 201244, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “clinical waste”, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Council Directive” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EC) No 1272/2008 of the European Parliament and of the Council on classification, labelling and packaging of substances and mixtures45, as amended from time to time,”.
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 201312
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 201346, ar ôl “water policy” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive 2014/101/EU”.
Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 201313
1
Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 201347 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 6, yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”), hepgorer “a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU”.
3
Yn rheoliad 11(2)(b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/178748”.
4
Yn rheoliad 22(2)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu Reoliad (EU) 1305/201349”.
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 201614
Yn Atodlen 10 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 201650, ym mharagraff 5—
a
yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/852 of the European Parliament and of the Council on mercury51”;
b
hepgorer is-baragraff (5).
Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 201715
Yn rheoliad 9 o Reoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 201752, yn lle paragraff (3) rhodder—
3
In paragraph (1), an abstraction of more limited extent does not include—
a
a Qn95 hands-off flow constraint on a licence where the licensed abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply does not support good ecological potential, good ecological status or good quantitative status, or
b
75% of Qn99 hands-off flow constraint on a licence where the licenced abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply supports good ecological potential, good ecological status or good quantitative status.
Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 201716
1
Mae Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 201753 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1)—
a
yn lle’r diffiniad o “the 2010 Regulations” rhodder—
“the 2017 Regulations” means the Conservation of Habitats and Species Regulations 201754;
b
yn y diffiniad o “conservation site”—
i
ym mharagraff (a), yn lle “regulation 10(5) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 12(5) of the 2017 Regulations”;
ii
ym mharagraff (b), yn lle “regulation 11 of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 13 of the 2017 Regulations”;
iii
ym mharagraff (c), yn lle “regulations 12A and 12B, respectively, of the 2010 Regulations” rhodder “regulations 15 and 16, respectively, of the 2017 Regulations”;
c
yn y diffiniad o “protected species”, ym mharagraff (a), yn lle “regulation 40(1) of, and Schedule 2 to, the 2010 Regulations” rhodder “regulation 42(1) of, and Schedule 2 to, the 2017 Regulations”.
3
Yn rheoliad 14(1)(b), yn lle “regulation 99(2) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 102(2) of the 2017 Regulations”.
RHAN 3Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chynllunio
Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 200417
1
Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 200455 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”), yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC” rhodder “, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
3
Yn rheoliad 5(2)(b), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC” rhodder “Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar y amgylchedd56, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 201518
1
Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 201557 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 1—
a
yn Rhan 1, colofn 1, adran ‘P’, ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 440/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
b
yn Rhan 4—
i
ym mharagraff 11(1), ar ôl “chyflenwyr erosol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
ii
ym mharagraff 13(a), ar ôl “gwrteithiau” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
iii
ym mharagraffau 14 ac 16(b), ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 2003/2003”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
3
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(a), yn lle “Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel” rhodder “Erthygl 13(1) o Reoliad (EU) 2017/852 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fercwri, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1102/200858, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201619
1
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201659 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
3
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 201662”.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201720
1
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201763 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,”.
3
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”.
RHAN 4Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth
Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 199521
1
Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 199564 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
3
Yn rheoliad 8(4), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 1993” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012”.
Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 199922
1
Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 199967 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1)—
a
hepgorer y diffiniad o “Directive 77/93/EEC”;
b
yn y diffiniad o “Directive 98/56/EC”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Regulation (EU) No 652/2014 of the European Parliament and of the Council68”;
c
ar ôl y diffiniad o “Directive 98/56/EC” mewnosoder—
“Directive 2000/29/EC” means Council Directive 2000/29/EC on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community69;
3
Yn rheoliad 9(2), yn lle “Council Directive 77/93/EEC” rhodder “Directive 2000/29/EC”.
Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 200923
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 200970, yn lle’r diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) rhodder—
Ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol71, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;
Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 201624
Yn rheoliad 3 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 201672—
a
yn y diffiniad o “y Penderfyniad” (“the Decision”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/32073”;
b
yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/31774”.
RHAN 5Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid
Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 198025
1
Mae Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 198075 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2—
a
ym mharagraff (a), yn lle “the Animal Health Act 198176” rhodder “the Act”;
b
ym mharagraff (b), yn lle “section 84(3)(a) and (b)” rhodder “section 88(1) and (3)”.
3
Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 195077” rhodder “the Animal Health Act 1981”.
4
Hepgorer erthygl 9.
Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 198026
1
Mae Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 198078 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2—
a
yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “the Animal Health Act 1981 (“the 1981 Act”)” rhodder “the Act”;
b
ym mharagraffau (a) a (b), yn lle “the 1981 Act” rhodder “the Act”.
3
Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 1950” rhodder “the Animal Health Act 1981”.
4
Hepgorer erthygl 10.
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 200327
1
Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 200379 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 3(1)—
a
yn y lle priodol, mewnosoder—
ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC” (“Council Directive 2005/94/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau’r Gymuned i reoli ffliw adar80;
3
Yn erthygl 6(4), yn lle “Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC83” rhodder “Erthygl 50 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.
4
Yn Atodlen 1—
a
yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC, ac Atodiad I iddi” rhodder “Erthygl 7(2)(f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ac Atodiad 3 iddi”;
b
yn Rhan 2, ym mharagraff 11, yn lle “Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC” rhodder “Atodiad 6 i Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.
Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 200628
1
Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 200684 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 8(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
3
Yn erthygl 43(1)(b)(ii), yn lle’r geiriau o “regulation 9” hyd at y diwedd rhodder “the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 201185”.
Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 200629
1
Mae Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 200686 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2, yn y diffiniad o “border inspection post”, yn lle’r geiriau o “Schedule 2” hyd at y diwedd rhodder “regulation 11 of the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011”.
3
Yn erthygl 3—
a
b
ym mharagraff (5), yn lle’r geiriau o “Regulation 19” hyd at y diwedd rhodder “Article 6 of Commission Implementing Regulation (EU) No 139/2013 laying down animal health conditions for imports of certain birds into the Union and the quarantine conditions thereof89”.
4
Yn erthygl 4(7), yn lle “Department for Agriculture and Rural Development of Northern Ireland” rhodder “Department of Agriculture, Environment and Rural Affairs, Northern Ireland”.
5
Yn erthygl 66(5)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
6
Yn erthygl 71(3)—
a
b
c
yn is-baragraff (d), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 1998” rhodder “the Specified Animals Pathogens (Wales) Order 2008”.
Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 200630
Yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 200694, yn lle “reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005” rhodder “reoliad 3(2)(b) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.
Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 200631
1
Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 200695 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 12—
a
ym mharagraff (1)—
i
ar ôl is-baragraff (a) hepgorer “or”;
ii
hepgorer is-baragraff (b);
b
hepgorer paragraff (2).
3
Yn erthygl 17(1)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 200632
Yn erthygl 18(1)(a) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 200696, yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 200733
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 200797—
a
yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/630/EEC98” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/120/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch99”;
b
ar ôl is-baragraff (b), hepgorer “ac”;
c
yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/629/EEC100” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/119/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod lloi101”.
Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 200834
Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 200935
1
Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009104 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2, yn y lle priodol, mewnosoder—
ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012” (“Commission Regulation (EU) No 200/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012 dyddiedig 8 Mawrth 2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o frwyliaid, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor 105.
3
Yn erthygl 3, yn lle paragraff (a) rhodder—
a
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012;
4
Yn erthygl 5(1)—
a
yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”;
b
yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”;
c
yn lle “express post” rhodder “express mail”.
5
Yn erthygl 8, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”.
Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 201036
1
Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010106 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2(2)—
a
yn lle is-baragraff (a) rhodder—
a
Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012 yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1190/2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o dyrcwn, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor107, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,
b
hepgorer is-baragraff (b).
3
Yn erthygl 4(1)—
a
yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012”;
b
yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”.
4
Yn erthygl 7, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201137
Yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011108, yn Rhan 2, ym mharagraff 9(1), yn lle’r geiriau o “Rheoliad y Comisiwn” hyd at y diwedd rhodder “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 139/2013 sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i’r Undeb, a’r amodau cwarantin ar eu cyfer109”.
Dirymiadau38
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
a
Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005110;
b
Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006111.
RHAN 6Diwygiad i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd
Gorchymyn Trwyddedu Pysgod Môr 199239
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)