Search Legislation

Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994

2.—(1Mae Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “treatment,” mewnosoder “as last amended by Regulation (EC) No 1137/2008 of the European Parliament and of the Council(2),”;

(b)yn y geiriau ar ôl y diffiniad o “Wales”, ar ôl “used” mewnosoder “in these Regulations and”.

(3Yn Atodlen 1, yn Rhan 1, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “the concentration” hyd at “Member States” rhodder “50 mg/l of nitrates in 95% of the samples”.

Rheoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000

3.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000(3), ar ôl “human consumption)” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive (EU) 2015/1787(4),”.

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

4.—(1Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddeb y Cyngor” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2009/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig(6)”.

(3Yn lle rheoliad 13(4)(c) rhodder—

(c)unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014(7),.

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

5.  Yn rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(8), yn lle’r geiriau o “applies to a decision notice” hyd at y diwedd rhodder “does not apply”.

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

6.—(1Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 12(3), yn lle “Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC(10)” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2006 ar drawslwytho gwastraff(11)”.

(3Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1(b), yn lle’r geiriau o “yr Atodiad” hyd at “1994” rhodder “Atodiad 1A i Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar drawslwytho gwastraff”.

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

7.  Yn rheoliad 3(b)(ii) o Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006(12), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU(13)”.

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

8.—(1Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—

(A1) Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.

(3Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—

5.(1) Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—

(a)Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994(15);

(b)Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 2001(16);

(c)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(17);

(d)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(18);

(e)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017(19).

(2) Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(20).

(3) Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011

9.—(1Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”), ar ôl “fasnach ynddynt” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/160(22),”.

(3Yn rheoliad 6(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/870(23)”.

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

10.  Yn erthygl 3(4) o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011(24)

(a)yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17(EU)(25)”;

(b)yn is-baragraff (c), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”;

(c)ar ôl is-baragraff (c) hepgorer “a”;

(d)yn is-baragraff (ch), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU”.

Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012

11.  Yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012(26), ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “clinical waste”, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Council Directive” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EC) No 1272/2008 of the European Parliament and of the Council on classification, labelling and packaging of substances and mixtures(27), as amended from time to time,”.

Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013

12.  Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013(28), ar ôl “water policy” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive 2014/101/EU”.

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

13.—(1Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(29) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6, yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”), hepgorer “a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU”.

(3Yn rheoliad 11(2)(b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787(30)”.

(4Yn rheoliad 22(2)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu Reoliad (EU) 1305/2013(31)”.

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

14.  Yn Atodlen 10 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(32), ym mharagraff 5—

(a)yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/852 of the European Parliament and of the Council on mercury(33)”;

(b)hepgorer is-baragraff (5).

Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017

15.  Yn rheoliad 9 o Reoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017(34), yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) In paragraph (1), an abstraction of more limited extent does not include—

(a)a Qn95 hands-off flow constraint on a licence where the licensed abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply does not support good ecological potential, good ecological status or good quantitative status, or

(b)75% of Qn99 hands-off flow constraint on a licence where the licenced abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply supports good ecological potential, good ecological status or good quantitative status.

Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017

16.—(1Mae Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017(35) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “the 2010 Regulations” rhodder—

“the 2017 Regulations” means the Conservation of Habitats and Species Regulations 2017(36);;

(b)yn y diffiniad o “conservation site”—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “regulation 10(5) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 12(5) of the 2017 Regulations”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “regulation 11 of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 13 of the 2017 Regulations”;

(iii)ym mharagraff (c), yn lle “regulations 12A and 12B, respectively, of the 2010 Regulations” rhodder “regulations 15 and 16, respectively, of the 2017 Regulations”;

(c)yn y diffiniad o “protected species”, ym mharagraff (a), yn lle “regulation 40(1) of, and Schedule 2 to, the 2010 Regulations” rhodder “regulation 42(1) of, and Schedule 2 to, the 2017 Regulations”.

(3Yn rheoliad 14(1)(b), yn lle “regulation 99(2) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 102(2) of the 2017 Regulations”.

(1)

O.S. 1994/2841, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90); mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ L Rhif 311, 21.11.2008, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2014/32/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 96, 29.3.2014, t. 149).

(3)

O.S. 2000/1297, a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/996; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

OJ Rhif L 260, 7.10.2015, t. 6.

(5)

O.S. 2002/3188 (Cy. 304), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

OJ Rhif L 125, 21.5.2009, t. 75.

(7)

O.S. 2014/1663, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2004/3391, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 2005/1806 (Cy. 138), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

OJ Rhif L 30, 6.2.1993, t. 1, fel y’i diddymwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1).

(11)

OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/2002 (OJ Rhif L 294, 11.11.2015, t. 1).

(13)

OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t. 32.

(14)

O.S. 2009/995 (Cy. 81), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(15)

1994/2716, a ddiwygiwyd gan baragraff 233(1) o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25); O.S. 1996/525; 1997/3055; 2000/192 a 1973; 2003/2155; 2005/3389; 2006/1282; 2007/1843 a 3538; 2008/2172; 2009/6, 1307, 2438 a 3160; a pharagraff 4(1) o Atodlen 11 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23); ac a ddirymwyd (o ran Cymru a Lloegr) gan O.S. 2010/490.

(16)

O.S. 2001/1754, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/77 a 1842; a 2010/1513.

(22)

OJ Rhif L 27, 1.2.2017, t. 1.

(23)

OJ Rhif L 142, 6.6.2015, t. 3.

(24)

O.S. 2011/2829 (Cy. 302) ), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(25)

OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 193.

(26)

O.S. 2012/811, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(27)

OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1.

(28)

O.S. 2013/1675, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(29)

O.S. 2013/2506 (Cy. 245), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(30)

OJ Rhif L 260, 7.10.2015, t. 6.

(31)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 487.

(32)

O.S. 2016/1154, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(33)

OJ Rhif L 137, 24.5.2017, t. 1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources