xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”), yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC” rhodder “, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
(3) Yn rheoliad 5(2)(b), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC” rhodder “Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar y amgylchedd(2), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
18.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1—
(a)yn Rhan 1, colofn 1, adran ‘P’, ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 440/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(b)yn Rhan 4—
(i)ym mharagraff 11(1), ar ôl “chyflenwyr erosol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(ii)ym mharagraff 13(a), ar ôl “gwrteithiau” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(iii)ym mharagraffau 14 ac 16(b), ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 2003/2003”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(a), yn lle “Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel” rhodder “Erthygl 13(1) o Reoliad (EU) 2017/852 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fercwri, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1102/2008(4), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 18 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
19.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(6), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997(7)”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(8)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 19 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
20.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 20 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)
OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1.
O.S. 2015/1597 (Cy. 196), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 137, 24.5.2017, t. 1.
OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3.
OJ Rhif L 150, 14.6.2017, t. 1.