Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015LL+C

18.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1—

(a)yn Rhan 1, colofn 1, adran ‘P’, ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 440/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(b)yn Rhan 4—

(i)ym mharagraff 11(1), ar ôl “chyflenwyr erosol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(ii)ym mharagraff 13(a), ar ôl “gwrteithiau” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;

(iii)ym mharagraffau 14 ac 16(b), ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 2003/2003”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

(3Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(a), yn lle “Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel” rhodder “Erthygl 13(1) o Reoliad (EU) 2017/852 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fercwri, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1102/2008(2), fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 18 mewn grym ar 17.12.2018, gweler rhl. 1(3)

(1)

O.S. 2015/1597 (Cy. 196), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 137, 24.5.2017, t. 1.